Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 21 Medi 2021.
Dydyn ni ym Mhlaid Cymru ddim yn gwrthwynebu'r rheoliadau yma chwaith. Maen nhw wedi symud Cymru tuag at lefel rybudd 0, gan ddod â mwy o normalrwydd i fywydau pobl ar draws y wlad, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, dydyn ni ddim yn gallu cymryd dim byd yn ganiataol wrth i achosion gynyddu unwaith eto, ac mae yna gwestiynau sydd angen eu hateb gan y Llywodraeth ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a sut y gall y sefyllfa ddatblygu i'r dyfodol. Ac mae'n fater o bryder i bawb glywed am y pwysau cynyddol ar unedau gofal dwys yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft. Felly, maddeuwch imi, dwi am fachu ar y cyfle hefyd i holi ychydig am y sefyllfa gyfredol.
Mae'r ymdrech i frechu cynifer o bobl â phosib yn parhau i fod yn hollbwysig. Gaf i ofyn ichi am y pasys COVID er mwyn ceisio deall ychydig am y rhesymeg tu ôl i'ch penderfyniad i symud tuag at gyflwyno'r pasys hyn mewn rhai sefyllfaoedd? Fedrwch chi egluro wrth y Senedd ai'r prif fwriad efo cyflwyno'r pasys ydy gwthio lefelau brechu yn uwch, ac ydych chi'n credu y bydd eich cynllun chi yn cyrraedd y nod yna?
Ers cyflwyno'r pàs cyn cychwyn yr haf ar gyfer teithio rhyngwladol, mae Plaid Cymru ac eraill wedi codi'r mater o'r gallu i gael mynediad at y system drwy gyfwng y Gymraeg. Felly, gaf i ofyn i chi pa bryd fydd y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ar gael i dderbyn pàs COVID? Rydyn ni hefyd yn clywed am achosion gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru am rai myfyrwyr yn methu â chael pàs COVID oherwydd nad yw'r system yn gallu delio efo'r ffaith bod myfyriwr wedi derbyn un brechiad yn Lloegr ac un arall yng Nghymru. Felly, pryd bydd y broblem yna'n cael ei datrys mewn modd boddhaol, os gwelwch yn dda?
Ac yn olaf, gaf i ofyn ichi am beiriannau osôn a'r defnydd o'r rhain mewn ysgolion? Pan wnes i holi'r Prif Weinidog am y defnydd o'r rhain wythnos diwethaf, fe ges i ar ddeall bod adolygiad cyflym yn cael ei gynnal gan y gell cynghori technegol i edrych ar y pryderon oedd wedi cael eu codi am ddiogelwch y peiriannau yma. A fedraf ofyn ichi roi diweddariad i ni? Ydy'r adolygiad wedi'i orffen, beth oedd yr argymhelliad, a beth fyddwch chi'n ei wneud yn sgil yr adroddiad hwnnw? Mae llawer o arbenigwyr yn credu y byddai'n llawer gwell rhoi ffocws ac adnoddau i ddulliau eraill o atal lledaeniad y feirws, ac y byddai'n well cael mwy o adnoddau ar gyfer monitro aer a dulliau o symud aer o gwmpas adeiladau. Diolch yn fawr.