– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 21 Medi 2021.
Mi wnaf i ofyn felly i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno y rheoliadau i gyd. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynigion sydd ger ein bron.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn rhoi fframwaith deddfwriaethol yn ei le ar gyfer pedair lefel rhybudd sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun rheoli coronafeirws. Fel y nodir yn y rheoliadau, rhaid cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau bob tair wythnos. Yn yr adolygiad ar 14 Gorffennaf, nodwyd bod achosion o'r coronafeirws yn codi yn y gymuned, yn bennaf o ganlyniad i'r amrywiolyn delta, ond roedd ein cyfraddau brechu uchel yn golygu bod nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn parhau i fod yn isel a'n bod yn gallu bwrw ymlaen i gwblhau'r newidiadau i lefel rhybudd 1 ar 17 Gorffennaf.
Ym mis Gorffennaf fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r cynllun rheoli coronafeirws yn nodi ein cynllun i symud i lefel rhybudd 0 newydd. Ar lefel rhybudd 0 does dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd â'i gilydd, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mewn mannau cyhoeddus, ac mewn digwyddiadau. Mae'r ychydig fusnesau oedd yn dal i fod ar gau, gan gynnwys clybiau nos, yn gallu cael eu hagor. Fel rhan o'r adolygiad ar 5 Awst, nodwyd bod cyfraddau cyffredinol COVID-19 wedi gostwng ledled Cymru, ac roedd canran y bobl oedd yn cael prawf positif wedi dechrau gostwng yn gyson. Roedd y pwysau ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i COVID-19 yn parhau i fod yn isel. Roedd hyn yn golygu bod modd i Gymru symud i lefel rybudd 0 o hanner nos ar 7 Awst. Fe gafodd y gofyniad i bobl ynysu os byddant yn dod i gysylltiad agos â'r feirws ei ddileu i'r rheini oedd wedi cael eu brechu'n llawn, a hefyd i blant dan 18, fel rhan o'r adolygiad hwn. Hefyd, cafodd y gofyniad i bobl wisgo gorchuddion wyneb ei ddileu mewn lleoliadau lletygarwch.
Yn yr adolygiad ar 26 Awst, nodwyd bod lefelau trosglwyddo COVID-19 wedi cynyddu ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn, a bod canran y bobl oedd yn cael prawf positif hefyd wedi cynyddu. Ond, mae'r dystiolaeth yn dal i awgrymu bod y cysylltiad rhwng achosion derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau wedi'i wanhau gan y rhaglen frechu. Daeth rhai mân newidiadau i'r rheoliadau i rym ddydd Sadwrn 28 Awst, gan gynnwys eithrio pobl sy'n mynychu seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil o ofynion cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb, gan sicrhau cysondeb â derbyniadau priodasau a oedd eisoes wedi'u heithrio ers cyfnod adolygu 5 Awst. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am eich datganiad y prynhawn yma. Byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw, gan fod y rheoliadau hyn yn ymwneud â llacio'r cyfyngiadau.
Yn anffodus, mae'r adolygiad tair wythnos diweddaraf wedi methu ag ymdrin â'r sector gofal cymdeithasol unwaith eto. I ddyfynnu perchennog cartref gofal yn sir Ddinbych, 'Mae pobl hŷn yn aml yn cael eu hanghofio a'u gwthio i waelod y rhestr flaenoriaethau'. Nid yw datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar yr adolygiad o reoliadau COVID Cymru ond yn sôn am y sector gofal wrth fynd heibio, gan ddweud y byddai preswylwyr a staff cartrefi gofal yn dechrau cael brechiadau atgyfnerthu yr wythnos hon. Mae'r sector gofal yn gyfrifol am ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Fe wnaethom ni gau rhannau cyfan o'n heconomi i ddiogelu'r union bobl hynny, y rhai sydd fwyaf agored i COVID. Nawr bod gennym ni frechlynnau effeithiol a'n bod yn gallu agor unwaith eto a dychwelyd at ryw fath o fywyd normal, nid yw'n esgus i anghofio am y rhai sydd mewn gofal unwaith eto.
Rydym ni'n brechu pobl ifanc yn eu harddegau ac yn cyflwyno trydydd dos, ac eto mae gennym ni fwy na 9 y cant o staff mewn cartrefi gofal o hyd sydd eto i gael eu hail ddos, ac ni all hyn fod oherwydd petruster ynghylch y brechlyn neu gamwybodaeth gwrth-frechu. Mae mil dau gant a chwe deg tri o aelodau staff sy'n gweithio yn ein cartrefi gofal wedi cael dos cyntaf ond nid ail ddos, er y gall un dos amddiffyn rhag dal a lledaenu'r feirws, ond nid cymaint â dau ddos neu dri hyd yn oed. Nid yw'n syndod bod darparwyr cartrefi gofal yn pryderu'n fawr am eu hatebolrwydd a pham maen nhw'n galw'n daer ar Lywodraeth Cymru i ymestyn yr indemniad sydd gan y GIG i'r sector gofal. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth i ddiogelu'r GIG rhag hawliadau atebolrwydd. Mae angen iddyn nhw sicrhau bod gan y sector gofal amddiffyniadau tebyg, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig a phrinder cronig ymhlith staff. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn yn ystod y tair wythnos nesaf. Diolch yn fawr iawn.
Dydyn ni ym Mhlaid Cymru ddim yn gwrthwynebu'r rheoliadau yma chwaith. Maen nhw wedi symud Cymru tuag at lefel rybudd 0, gan ddod â mwy o normalrwydd i fywydau pobl ar draws y wlad, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, dydyn ni ddim yn gallu cymryd dim byd yn ganiataol wrth i achosion gynyddu unwaith eto, ac mae yna gwestiynau sydd angen eu hateb gan y Llywodraeth ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a sut y gall y sefyllfa ddatblygu i'r dyfodol. Ac mae'n fater o bryder i bawb glywed am y pwysau cynyddol ar unedau gofal dwys yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft. Felly, maddeuwch imi, dwi am fachu ar y cyfle hefyd i holi ychydig am y sefyllfa gyfredol.
Mae'r ymdrech i frechu cynifer o bobl â phosib yn parhau i fod yn hollbwysig. Gaf i ofyn ichi am y pasys COVID er mwyn ceisio deall ychydig am y rhesymeg tu ôl i'ch penderfyniad i symud tuag at gyflwyno'r pasys hyn mewn rhai sefyllfaoedd? Fedrwch chi egluro wrth y Senedd ai'r prif fwriad efo cyflwyno'r pasys ydy gwthio lefelau brechu yn uwch, ac ydych chi'n credu y bydd eich cynllun chi yn cyrraedd y nod yna?
Ers cyflwyno'r pàs cyn cychwyn yr haf ar gyfer teithio rhyngwladol, mae Plaid Cymru ac eraill wedi codi'r mater o'r gallu i gael mynediad at y system drwy gyfwng y Gymraeg. Felly, gaf i ofyn i chi pa bryd fydd y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ar gael i dderbyn pàs COVID? Rydyn ni hefyd yn clywed am achosion gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru am rai myfyrwyr yn methu â chael pàs COVID oherwydd nad yw'r system yn gallu delio efo'r ffaith bod myfyriwr wedi derbyn un brechiad yn Lloegr ac un arall yng Nghymru. Felly, pryd bydd y broblem yna'n cael ei datrys mewn modd boddhaol, os gwelwch yn dda?
Ac yn olaf, gaf i ofyn ichi am beiriannau osôn a'r defnydd o'r rhain mewn ysgolion? Pan wnes i holi'r Prif Weinidog am y defnydd o'r rhain wythnos diwethaf, fe ges i ar ddeall bod adolygiad cyflym yn cael ei gynnal gan y gell cynghori technegol i edrych ar y pryderon oedd wedi cael eu codi am ddiogelwch y peiriannau yma. A fedraf ofyn ichi roi diweddariad i ni? Ydy'r adolygiad wedi'i orffen, beth oedd yr argymhelliad, a beth fyddwch chi'n ei wneud yn sgil yr adroddiad hwnnw? Mae llawer o arbenigwyr yn credu y byddai'n llawer gwell rhoi ffocws ac adnoddau i ddulliau eraill o atal lledaeniad y feirws, ac y byddai'n well cael mwy o adnoddau ar gyfer monitro aer a dulliau o symud aer o gwmpas adeiladau. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr—diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa. Wrth gwrs, heddiw yr ydym ni'n canolbwyntio ar y rheoliadau, ond rwyf i'n fodlon dweud ychydig o eiriau ynghylch y sefyllfa gofal cymdeithasol. Gallaf i ddweud wrthych chi ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r pwysau a'r straen y mae'r sector gofal cymdeithasol yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Dyna pam yr ydym ni'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n rhoi llawer o sylw i hyn. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo £48 miliwn yn ystod y pythefnos diwethaf i sicrhau bod ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn gallu atgyfnerthu'r systemau o fewn eu pwerau. Rwy'n cael cyfarfodydd wythnosol, ynghyd â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal yn Llywodraeth Cymru, Julie Morgan, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—cynrychiolwyr o'r fan honno—y GIG, a'n swyddogion ni ein hunain, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i atgyfnerthu'r sefyllfa yn ystod y gaeaf hwn. Rydym ni wedi bod yn aros ers misoedd—na, ers blynyddoedd—i'r Llywodraeth Dorïaidd lunio cynigion ar sut yr ydym ni'n mynd i ddatrys gofal yn y wlad hon. Fe wnaethon nhw feddwl am rai awgrymiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf o ran sut y maen nhw'n awgrymu y dylem ni godi arian. Nid ydym ni'n cytuno â hynny, ond o leiaf ein bod ni'n gwybod yn awr sut y gallai'r dyfodol edrych. Nid ydym ni'n sicr, ond mae hynny yn rhoi cyfle i ni feddwl yn fwy hirdymor ynghylch sut yr ydym ni'n mynd i ddatrys y sefyllfa o ran gofal cymdeithasol. Gallem ni fod wedi gwneud llawer mwy o waith ac yn llawer cyflymach pe bai gennym ni'r wybodaeth cyn hyn. Felly, rwy'n gallu eich sicrhau, wrth sôn am ofal cymdeithasol, ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i atgyfnerthu'r sefyllfa yr ydym ni'n deall ei bod yn anodd iawn, iawn ar hyn o bryd.
O ran atebolrwydd am gartrefi gofal, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn edrych arno, ac y byddwn ni'n parhau i'w ystyried. O ran y brechiadau, y dosau atgyfnerthu—mae hynny eisoes wedi dechrau mewn cartrefi gofal ledled Cymru, ac wrth gwrs mae nifer uchel iawn o bobl yn gweithio yn y cartrefi gofal hynny sydd eisoes wedi eu brechu.
Gaf i ddiolch i Siân a Phlaid Cymru am dderbyn y rheoliadau? Rŷn ni'n gwybod bod yna bwysau aruthrol ar ein hysbytai ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, mae yna ymdrech ychwanegol nawr inni fynd iddi i sicrhau bod y brechlyn yn cael ei estyn o ran y booster, a hefyd i blant o 12 i 16. O ran y pasys COVID, wrth gwrs rŷn ni'n awyddus iawn, os gallwn ni, i gadw'r sefyllfa ar agor dros y gaeaf. Rŷn ni'n gwybod y bydd yna bwysau ychwanegol, bod COVID yn fwy hapus tu fewn, ac rŷn ni'n gwybod, yn ystod y gaeaf, fod pobl yn debygol o wario amser tu fewn. Mae hwnna'n sicr o ymledu'r feirws ac felly dyna pam beth ŷn ni'n meddwl sydd orau i'w wneud yw i roi mesurau mewn lle cyn bod problem yn codi. Dyna beth mae ein harbenigwyr wedi dweud wrthym ni byth a hefyd, yw bod yn rhaid mynd yn gynnar o ran treial atal sefyllfa rhag datblygu a dyna pam rŷn ni wedi dod i mewn â'r cynllun yma i sicrhau bod yna basys yn cael eu defnyddio os aiff pobl i sefyllfaoedd fel clybiau nos ac ati. Felly, wrth gwrs, rŷn ni'n gobeithio hefyd bydd hwnna yn helpu i gynyddu'r nifer o bobl ifanc hefyd fydd yn mynd ati i gael y brechlyn.
O ran y system trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs, rŷn ni yn ddibynnol i raddau helaeth ar y sefyllfa yn Lloegr. Nhw sydd gyda lot o'r technegau o ran sut mae'r apps ac ati yn gweithio. Rŷn ni'n gwybod, er enghraifft, fod y system ar hyn o bryd os ŷch chi'n lawr lwytho app sydd yn dweud os ydych chi yn gallu cael COVID pass, ar hyn o bryd yn dweud Lloegr. Erbyn diwedd y mis, mi fydd e'n dweud Cymru hefyd. Felly, rŷn ni'n aros byth a hefyd iddyn nhw symud yn Lloegr. Nhw sy'n gorfod gwneud y newidiadau yma ar ein rhan ni.
O ran y peiriannau osôn, rŷn ni wedi gofyn am yr adolygiad yna gan y cell cynghori technegol. Dŷn ni ddim wedi derbyn eu argymhellion nhw eto, ac mi fyddwn ni'n rhoi gwybod wrthych chi unwaith rŷn ni yn derbyn hynny, ond rwy'n siŵr eich bod chi'n falch o glywed bod yna beiriannau carbon deuocsid nawr yn cael eu rhoi yn ein hysgolion ni, ledled Cymru, ac rŷn ni'n gobeithio y bydd y rheini yn helpu i fonitro'r aer a sicrhau ein bod ni'n cael lot mwy o awyr yn ein dosbarthiadau ni yn ystod y gaeaf.
Diolch i'r Gweinidog. Ac felly y cwestiwn cyntaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn meddwl ei fod e, felly derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does neb yn gwrthwynebu eto, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
A'r cwestiwn olaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, neb. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.