– Senedd Cymru am 4:57 pm ar 21 Medi 2021.
Yr eitem olaf o fusnes y prynhawn yma yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021, a dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i wneud y cynnig hwnnw.
Yn ffurfiol.
Does gyda fi ddim cyfranwyr i'r ddadl ymhellach at hynny. Felly, fe wnaf i ofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig yma? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.
Mae hynny'n golygu nad oes yna angen am unrhyw bleidleisiau eraill y prynhawn yma, ac felly rydych chi i gyd yn rhydd i fynd. Prynhawn da i chi i gyd.