1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 22 Medi 2021.
2. Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodaeth byrddau cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu cymdeithas? OQ56872
Diolch, Heledd Fychan, am eich cwestiwn. Mae gwaith yn digwydd i roi argymhellion y strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru ar waith. Ei nod yw gwella amrywiaeth ein harweinwyr cyhoeddus, i 'adlewyrchu Cymru wrth redeg Cymru'.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei hymateb. O edrych ar wefan Llywodraeth Cymru, gall unrhyw un wneud cais am benodiad cyhoeddus. Ond mae yn broses gymhleth, gyda llu o ffurflenni ac mae angen llu o gymwysterau hefyd. Mae yna anghysondeb o ran y rolau a chyflog hefyd. Os cymerwn ni esiampl ar wefan Llywodraeth Cymru ar y funud, mae yna hysbyseb am is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda dim cyflog ond yn disgwyl o leiaf 18 diwrnod y flwyddyn o waith. Pa gamau, felly, mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nid yn unig y gall unrhyw un wneud cais, ond hefyd y gallan nhw fforddio gwneud y swydd os ydyn nhw'n cael eu penodi?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Mae hyn yn bwysig iawn yn wir, gan ein bod yn ceisio chwalu'r rhwystrau o ran mynediad at yr holl gyrff cyhoeddus pwysig hyn ac er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn. Dyma pam ein bod wedi datblygu strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, a gyhoeddwyd fis Chwefror diwethaf. Nododd y strategaeth honno, yn sgil cryn dipyn o ymgynghori, fod pobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phobl anabl yn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar fyrddau cyrff cyhoeddus. Ond gwyddom hefyd fod rhwystrau economaidd-gymdeithasol yn bodoli o ran mynediad at y swyddi cyhoeddus hyn.
Fe sonioch chi am brosesau cymhleth. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn edrych arno'n gyson. Mae'n rhaid inni gadw at drefn lywodraethu'r cod ar benodiadau cyhoeddus, ond rwyf bob amser yn archwilio'r cod hwnnw i edrych am ffyrdd o'i symleiddio a'i wneud yn fwy hygyrch. Felly, rydym yn gwneud llawer o bethau i alluogi pobl i ymgeisio am swyddi cyhoeddus, ac rwy'n falch iawn o groesawu cynllun mentora i Gymru gyfan, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, sy'n cael ei redeg gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, Anabledd Cymru a Stonewall Cymru gyda'r nod penodol o recriwtio a mentora menywod, pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol i ymgymryd ag arweinyddiaeth gyhoeddus a swyddi gwleidyddol.
Rwyf innau hefyd o'r farn fod arnom angen amrywiaeth yn ein penodiadau cyhoeddus. Rwy'n datgan buddiant: rwy'n gyn-aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fe'm hanfonwyd yno gan fy awdurdod lleol i gynrychioli trigolion Powys. Pan gyrhaeddais yno, cefais fy synnu a fy siomi wrth weld nad oedd rhai o’r bobl a benodwyd i’r parc cenedlaethol yn byw o fewn ffiniau'r parc, ac nad oedd rhai ohonynt yn byw yng Nghymru hyd yn oed. Ac roedd diffyg cynrychiolaeth difrifol hefyd i bobl o wahanol gefndiroedd, fel pobl ifanc, pobl LHDT a phobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Ac rwyf bob amser yn meddwl tybed sut y mae pobl nad ydynt yn dod o gymuned, nad ydynt yn cynrychioli'r amrywiaeth yn y gymuned honno, yn gwybod beth sydd orau i'r bobl sy'n byw yno.
Ar benodiadau cyhoeddus, er enghraifft, yn ddiweddar, cafodd cyn-uwch gynghorydd gwleidyddol i grŵp Llafur Cymru a chynghorydd Llafur le ar fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwy'n siŵr mai ef oedd yr unigolyn gorau ar gyfer y swydd. Ond does bosibl nad oes ffordd y gall y Senedd hon graffu ar yr apwyntiadau i'n cyrff cyhoeddus, oherwydd i rai, mae arferion fel hyn yn edrych fel swyddi i'r hogiau. Dywedwyd wrthym yn y lle hwn y gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried archwilio ffyrdd y gall y Senedd hon sicrhau bod mwy o bobl a'r Senedd hon yn ymwneud â phenodiadau cyhoeddus, i sicrhau bod y broses gyfan yn cynyddu amrywiaeth a'i bod mor agored a thryloyw â phosibl? Diolch, Lywydd.
Mae'r Aelod yn codi cwestiynau pwysig, perthnasol, ac eraill y byddwn yn anghytuno â hwy, gan ein bod yn cydymffurfio â'r cod ar benodiadau cyhoeddus—y drefn lywodraethu honno. Mewn gwirionedd, rwy'n fwy na pharod i rannu hynny gyda'r Aelodau, i'w hatgoffa o'r broses, y trefniadau agored a thryloyw, mewn perthynas â phenodiadau i gyrff cyhoeddus. Wrth gwrs, ynglŷn â'r corff y buoch yn aelod ohono—Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog—gellir dod yn aelod ohono drwy lwybrau eraill, fel y gwyddoch. Cawsoch eich penodi gan awdurdod lleol. Ac wrth gwrs, mae hynny'n wir am gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Ond credaf fod eich profiad o ran cydnabod diffyg amrywiaeth, diffyg pobl ifanc, yn berthnasol iawn. Felly, hoffwn eich annog hefyd i edrych ar yr adroddiad—y strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant—gan ei fod yn edrych yn drwyadl ar ffyrdd y gallwn wella'r broses benodiadau cyhoeddus. O ganlyniad i'r adroddiad, rydym yn hyfforddi carfannau o bobl, yn enwedig pobl heb gynrychiolaeth ddigonol, i sicrhau y gallant deimlo eu bod yn cael mwy o gymorth ac yn fwy parod i ymgeisio am swyddi mewn cyrff cyhoeddus.
Mae'n rhaid inni ddylanwadu hefyd ar y cyrff cyhoeddus eu hunain, fel eu bod yn cydnabod bod angen iddynt wneud newidiadau o ran arweinyddiaeth. Mae gennym raglen hyfforddiant arweinyddiaeth, arferion recriwtio teg, hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth, sy'n hanfodol bwysig. Ond y llynedd hefyd, gwnaethom recriwtio 13 o uwch aelodau panel annibynnol o gefndiroedd amrywiol i baneli recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Ac roedd hynny, unwaith eto, yn estyn allan, nid at y pwysigion sy'n aml i'w gweld ar y mathau hynny o baneli a chyrff; mae a wnelo hyn â phobl â phrofiad o fyw yn eu cymunedau lleol, o fyw yng Nghymru, a sicrhau bod gennym fwy o amrywiaeth.
A hoffwn eich annog i gefnogi Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Gallech fentora pobl sy'n cael cymorth drwy Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, gan fod angen y profiad mentora a chysgodi hwnnw ar lawer o bobl—gallent eich cysgodi chi. Ac a dweud y gwir, mae cyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon wedi mentora amryw gynlluniau i alluogi pobl i ymgeisio am swyddi cyhoeddus. Bu rhai ohonom yn nigwyddiad gwobrau Cymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru nos Wener. A Rajma Begum, a enillodd wobr am y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, roeddwn yn falch iawn o weld ei bod hi, o ganlyniad i fentora, wedi gallu cael ei phenodi—gwnaeth gais, ac fe'i penodwyd i Chwaraeon Cymru. Felly, mae hyn yn bosibl, ac mae angen i bob un ohonom, ar draws y Siambr hon, chwarae ein rhan yn hyn o beth.
Cytunaf ei bod yn bwysig iawn fod aelodaeth cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu'r gymdeithas, ond mae'n ymwneud â mwy na nodweddion gwarchodedig yn unig; mae'n ymwneud â phrofiadau bywyd. Yn rhy aml, mae amrywiaeth yn ymdrin â nodweddion gwarchodedig, nid amrywiaeth o ran profiadau bywyd. Pa waith sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod byrddau'n cynnwys aelodau a chanddynt wahanol brofiadau bywyd mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys gwahanol rannau o drefi a dinasoedd? A faint o'r bobl a benodwyd sy'n dod o'r 20 cymuned fwyaf difreintiedig? Rwy'n dyfalu nad oes un.
Diolch yn fawr, Mike Hedges. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. Dywedais yn gynharach nad yw'n ymwneud yn unig â nodweddion gwarchodedig a diffyg amrywiaeth yn y cyswllt hwnnw; mae a wnelo hefyd â phrofiad economaidd-gymdeithasol. Dros yr haf, fel y gwyddoch, ymwelais â llawer o brosiectau i gyfarfod a gwrando ar bobl a chanddynt brofiad o fyw mewn cymunedau difreintiedig iawn, gan gynnwys Ffydd Mewn Teuluoedd yn Abertawe, yn eich etholaeth. Y menywod y cyfarfûm â hwy yno, y rhieni—y menywod â'u plant—byddent yn aelodau delfrydol o gyrff cyhoeddus. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr yng Nghomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe, gan y credaf fod pobl, p'un a ydych yn llywodraethwr ysgol, mae ffyrdd i mewn hefyd, ac rydym yn annog hynny wrth gwrs. Mae'n dda iawn cychwyn ar y cam cyntaf, os ydych yn mynd at gyngor cymunedol, llywodraeth leol, llywodraethwyr ysgolion neu gynghorau iechyd cymunedol, sydd wedi bod yn hysbysebu hefyd yn ddiweddar. Felly, mae hwnnw'n bwynt perthnasol iawn y byddwn yn ei ystyried.