6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd ymateb ambiwlansys

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:30, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf ei bod yn bwysig inni ddeall bod ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi nodi cynnydd sylweddol mewn galwadau o rhwng tua 20 a 30 y cant o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd, a chredaf ei bod yn werth nodi bod 18 y cant o alwadau ambiwlans 999 yn gysylltiedig â COVID. Felly, nid yw'n ymwneud â'r pwysau yn y system yn unig—mae COVID yn dal i fod yn broblem fawr yma. Ac mae'n werth nodi hefyd nad yw hon yn broblem sy'n unigryw i Gymru. Rydym wedi gweld cyhoeddiadau diweddar yn Lloegr, yn yr Alban, ac mae angen archwilio'r holl ffyrdd posibl o gael cymorth i gynnal darpariaeth ddiogel o wasanaethau gofal ac iechyd.

Nawr, mae'r heriau hyn o ran llif cleifion drwy'r system gyfan yn amlygu eu hunain mewn gwahanol ffyrdd ar draws pob rhan o'r system. Pryder arbennig yw'r effaith sylweddol ar gapasiti ambiwlans a achosir gan oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans fel y soniodd cynifer o bobl y prynhawn yma. A chaiff hynny ei ddwysáu gan y galw cynyddol am wasanaethau yn ogystal â gweithlu, a chyfyngiadau ar adnoddau oherwydd effaith barhaus y pandemig. Felly, mae arnom angen ymateb go iawn ar draws y system i fynd i'r afael â'r heriau hyn ar draws y system na ellir, yn ôl eu natur, eu hystyried ar eu pen eu hunain neu eu datrys gan unrhyw ran unigol o'r system.

Felly, mae angen camau cydlynol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, ac er gwaethaf buddsoddiad sylweddol a recriwtio cyflymach i wasanaethau ambiwlans Cymru, fel y nododd rhai, mae adnoddau staff wedi parhau i gael eu heffeithio'n sylweddol gan absenoldeb staff, a hynny drwy gyfuniad o salwch staff, a welodd gynnydd o 10 y cant [Cywiriad: i 10 y cant] FootnoteLink ym mis Mehefin 2021, lefelau hunanynysu—yr effeithir arnynt gan COVID hefyd wrth gwrs—gwarchod, gwyliau blynyddol—a ohiriwyd, wrth gwrs, i gynifer o staff o ganlyniad i'r ymateb brys i'r pandemig. Mae'n rhaid inni dderbyn bod llawer o'r bobl hyn wedi'u gorweithio ac mae angen seibiant arnynt.

Mae staff ambiwlans Cymru wedi bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu, ac yn aml wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol ganddynt yn ystod y pandemig. Ac wrth gwrs, mae hynny'n effeithio ar forâl a lles staff. Bu llai o ddefnydd o oramser hefyd, sydd wedi ysgogi'r ymddiriedolaeth i ystyried opsiynau i gymell goramser er mwyn ei gwneud yn fwy deniadol i staff lenwi bylchau, a chynyddu capasiti dros y misoedd nesaf.

Nawr, gofynion ymarferol, gan gynnwys yr angen i wisgo cyfarpar diogelu personol a glanhau offer a cherbydau yn ddwfn ar gyfer pob ymateb ambiwlans. Peidiwch ag anghofio, rydym yn gweithio mewn amgylchedd COVID; mae'n newid yr hyn a wnânt fel arfer yn rhywbeth anos a mwy soffistigedig. Ac mae hynny hefyd yn effeithio felly ar argaeledd ac ymatebolrwydd ambiwlansys ar yr adegau pan fydd y galw ar ei anterth.

Nawr, gwaethygwyd y ffactorau hyn sy'n cyfyngu ar gapasiti gan anhawster i ryddhau cleifion o'r ysbyty yn amserol, mater a gafodd sylw, unwaith eto, gan gynifer o'r Aelodau, ac mae hyn yn lleihau nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael ac yn achosi oedi wrth drosglwyddo cleifion o ofal criwiau ambiwlans i ofal staff yr adran achosion brys. Er gwaethaf yr holl heriau hyn, ymatebwyd i bron 60 y cant o'r cleifion lle roedd bywyd yn y fantol o fewn wyth munud ym mis Gorffennaf. Cafodd bron i draean o'r cleifion hyn ymateb o fewn pum munud.

Nawr, dros yr wythnosau diwethaf gwelwyd nifer o achlysuron pan fu ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru dan bwysau sydd wedi ei gorfodi i uwchgyfeirio, drwy ei chynllun rheoli galw, i lefel lle na fu'n bosibl anfon ambiwlans ar gyfer categorïau penodol o alwadau. Nawr, mae'r cynllun rheoli galw yn galluogi'r ymddiriedolaeth i ymateb yn ddeinamig i sefyllfaoedd lle mae'r galw am wasanaethau yn fwy na'r adnoddau sydd ar gael, ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau'r diogelwch a'r canlyniadau gorau posibl i bob claf, ac i flaenoriaethu'r cleifion sydd fwyaf o angen ymateb ar unwaith yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael.

Nawr, nid wyf yn credu y byddai'n briodol i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, ond wrth gwrs rydym yn derbyn bod problem yma sydd angen ei datrys. Mae'r ymddiriedolaeth yn rhoi camau ar waith i bontio o gyfnod adfer ei hymdrech COVID-19 yn ôl i'r cyfnod ymateb, y sefyllfa fonitro, mewn ymateb i'r pwysau presennol a'r pwysau disgwyliedig. Nawr, mae hyn yn rhoi'r ymddiriedaeth ar sail debyg i'r adeg pan oeddem ar anterth y pandemig, felly rwy'n tanlinellu'r pwynt fod y broblem yn awr yr un mor fawr â'r hyn ydoedd pan oedd y risg ar ei huchaf yn ystod y pandemig. Mae hynny'n rhoi persbectif llwm o lefel y pwysau y mae'r gwasanaeth yn parhau i'w brofi.

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bod yn ystyried nifer o opsiynau i chwyddo'r capasiti presennol, gan gynnwys archwilio opsiynau gyda nifer o asiantaethau cenedlaethol. Felly, mae'r ymddiriedolaeth eisoes wedi contractio Ambiwlans Sant Ioan Cymru i gynorthwyo gyda chymorth ychwanegol dros fisoedd prysur y gaeaf, ac mae'r ymddiriedolaeth hefyd wedi bod yn gweithio gyda chynllunwyr milwrol fel rhan o broses MACA, neu gymorth milwrol i awdurdodau sifil, a eglurwyd gan y Prif Weinidog yn y Siambr ddoe. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y MACA gan yr ymddiriedolaeth yn gynharach heddiw, ac mae'r Prif Weinidog a minnau bellach wedi cytuno y dylid trosglwyddo hynny yn awr fel cais ffurfiol.

Nid ydym wedi bod yn aros i bethau ddigwydd. Yn wir, ym mis Gorffennaf, gelwais gyfarfod eithriadol o'r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys oherwydd ein bod yn gweld y gallai fod problem. Gofynnais am ddatblygu cynllun cyflawni. Rwy'n credu bod rhywun wedi gofyn am gynllun cyflawni; mae gennym un ac mae'n nodi ystod o gamau gweithredu sy'n gyfyngedig i amser penodol i'w cyflawni rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2022. Roedd y camau allweddol yn y cynllun hwnnw—roedd Janet-Finch Saunders, rwy'n credu, am imi ddweud wrthi beth oedd yn y cynllun cyflawni—fel a ganlyn: gwell rhagolygon i ddeall a chynllunio'n well ar gyfer galw gwirioneddol a chynyddu adnoddau yn unol â hynny; parhau i weithredu argymhellion o'r adolygiad annibynnol o alw a chapasiti; sicrhau ein bod yn gallu rheoli'r galw am ein gwasanaethau tra'n sicrhau bod cleifion yn ddiogel ac yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt yn y lle y mae ei angen arnynt; clinigwyr byrddau iechyd i reoli cleifion ambiwlans yn uniongyrchol a'u hailgyfeirio at opsiynau amgen sy'n glinigol ddiogel; a defnyddio staff ambiwlans i garfanu cleifion lluosog yn ddiogel, gan alluogi ambiwlansys i ddychwelyd i ymateb cymunedol.