Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rwy'n llwyr ddeall cryfder y teimlad yn y Siambr yng ngoleuni'r pwysau aruthrol a wynebwn yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, ond hefyd yn y GIG a'r gwasanaeth gofal ehangach ar hyn o bryd. Hoffwn ychwanegu fy niolch am ymdrechion anhygoel y bobl sy'n brwydro ar y rheng flaen fel y buont yn ei wneud ers misoedd bwy gilydd. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y Siambr yn sefyll gyda mi i ddiolch iddynt am eu hymdrechion anhygoel dros gynifer o fisoedd.
Gallaf sicrhau'r Aelodau nad wyf yn cuddio, nid wyf yn osgoi. Rwy'n bendant yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb a deallaf mai fy nghyfrifoldeb i yw sbarduno newid yn y system ar yr adeg hon o bwysau digynsail. Credaf ei bod yn werth tanlinellu'r ffaith nad ydym erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i hyn o'r blaen. Roedd COVID yn wael, roedd pawb yn deall COVID, ond mae pawb yn y gwasanaeth ar hyn o bryd yn dweud wrthyf fod y pwysau hwn yn awr yn waeth nag unrhyw beth a welsom hyd yma. Felly, mae angen i ni ddeall y pwysau sydd ar y system ar hyn o bryd, ac nid yw'n rhywbeth lle gallwch ddisgwyl i bethau newid ar unwaith. Rydym wedi clywed pawb y prynhawn yma yn sôn am y ffordd y mae'r system gyfan yn integredig, fod un rhan yn effeithio ar y llall, ac felly rydym yn ceisio rheoli'r holl systemau hynny i ddeall a gwella'r cysylltiadau hynny, a sicrhau y gallwn weld y llif hwnnw a deall y set gymhleth honno o drefniadau sy'n bodoli.