Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 22 Medi 2021.
Rwy'n codi ac rwy'n dymuno cofnodi fy niolchgarwch enfawr yn ffurfiol i'n staff a'n criw ambiwlans, ein gweithredwyr switsfwrdd, a staff nyrsio ar yr ochr draw i ddrysau'r adrannau damweiniau ac achosion brys sydd gyda'i gilydd yn ceisio mynd i'r afael â'r amseroedd aros cyn trosglwyddo. Gwyddom i gyd fod trosglwyddo o ambiwlansys i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys yn allweddol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal brys sydd ei angen arnynt, gan gynnwys cyfarpar priodol a gwelyau ar gyfer gwella a chael triniaeth.
Dros yr wythnosau diwethaf, bûm yn dyst i'r hyn a ddigwyddodd wedi i ddynes syrthio'n ôl ar risiau symudol mewn siop leol, ac a fu'n aros am sawl awr wedi'i hanafu a'i phen yn gwaedu. Ar ôl siarad ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fy hun, gan fy mod mor bryderus, roedd yn rhyddhad gweld parafeddygon yn cyrraedd, dim ond i ganfod bod yn rhaid iddynt hwy aros am ambiwlans wedyn am na allent gynnig y driniaeth briodol angenrheidiol.
Gadawyd un arall o fy etholwyr mewn poen sylweddol a heb allu symud am oddeutu pum awr tra'n aros am ambiwlans ar ôl torri ei chlun mewn parc antur adnabyddus lleol. Bu'n rhaid iddynt gau'r reid am yr holl amser hwnnw, ac roedd hi'n sownd ar y reid.
Cafodd un arall o fy etholwyr oedrannus, 96 oed, gwymp tua 10 o'r gloch y bore, ond bu'n aros tan 6 o'r gloch i ambiwlans gyrraedd, cyn gorfod aros y tu allan i'r adran ddamweiniau ac achosion brys am chwe awr arall, oherwydd yr arfer o bentyrru ambiwlansys. A gadawyd dynes arall wedi'i hanafu ar lôn wledig ar ôl cwymp gas oddi ar geffyl am 11 o'r gloch y bore, a bu'n rhaid iddi aros tan 4.30 p.m. i'r ambiwlans gyrraedd, a dioddef pum awr a hanner arall y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd.
Nid sibrydion na dychymyg yw'r rhain, mae'r rhain yn senarios a sefyllfaoedd go iawn sydd bellach yn cael eu hachosi gan ddiffyg ymyrraeth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'r gwasanaeth brys gwerthfawr hwn.
Yn ystod chwe mis cyntaf 2021, collwyd 47,871 awr oherwydd bod criwiau ambiwlans yn aros mwy na 15 awr cyn trosglwyddo cleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn fy mwrdd iechyd fy hun, Betsi Cadwaladr, collwyd 16,937 o oriau rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2021. Mae cynllun adfer y GIG, fel y'i gelwir, Llywodraeth Cymru yn gadael llawer o'r manylion i fyrddau iechyd lleol a chlinigwyr eu cyflawni. Gyda phwysau'r gaeaf eisoes i'w weld yn gwasgu ym mis Medi, Weinidog, pa gamau a gymerir gennych i adolygu'r cynllun hwn fel y gellir canolbwyntio o'r newydd ar broblem pentyrru ambiwlansys?
O ran y gwasanaeth ei hun, gydag 8.4 y cant o'r gweithlu'n absennol oherwydd salwch rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, a throsiant staff uchel—a yw'n syndod bod trosiant staff yn uchel gyda morâl mor isel, fel y soniwyd yn gynharach—mae angen cynllun gweithlu cynhwysfawr yn awr, ac mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cymeradwyo hyn mewn gwirionedd. Felly, Weinidog, pa gynnydd a wneir gennych—dywedwch wrthym heddiw, os gwelwch yn dda—tuag at gyflwyno cynllun o'r fath? Mae angen hwn yn awr. Fel y nodwyd gan fy nghyd-Aelod Peter Fox ddoe, mae'r diffyg cymorth ambiwlans bellach yn cael effaith erchyll ar allu ein cyfleusterau addysg—