6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd ymateb ambiwlansys

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:03, 22 Medi 2021

—ar ewyllys da ac ymroddiad llwyr y gweithlu iechyd a gofal. Mae'n ddyletswydd felly arnon ni nawr i leddfu'r pwysau ac i'w had-dalu am eu hymrwymiad yn awr eu hangen. A phan dwi'n dweud 'ad-dalu', dwi'n golygu mwy na sefyll o flaen camerâu a chlapio. Wrth wneud hyn, bydd yr effeithiau positif i'w gweld ym mhob cwr o'r gwasanaethau iechyd a gofal, gan gynnwys ein gwasanaethau ambiwlans hollbwysig. Diolch yn fawr.