Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 22 Medi 2021.
Dwi'n ddiolchgar iawn am gael siarad yn y ddadl yma heddiw ar bwnc mor bwysig. Mae gan wythnos waith pedwar diwrnod y potensial i fod yn drawsnewidiol i Gymru, a dylem gefnogi'r syniad am lu o resymau. Mae COVID wedi rhoi cyfle inni adeiladu economi well sy'n gweithio i bobl Cymru, a dylem gofleidio'r cyfle hwn i fod yn flaengar. Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn syniad sy'n cyd-fynd yn berffaith â'r her a osododd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i greu, a dyma'r dyfyniad,