Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 28 Medi 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein hinsawdd yn newid. Adroddodd y Swyddfa Dywydd ym mis Gorffennaf eleni y dylem ni ddisgwyl patrwm o dywydd gwlypach, stormydd amlach a glaw trymach. Nid oes amheuaeth ein bod ni'n gweld newid hinsawdd dinistriol yn datblygu o'n blaenau. Mae'r asesiad diweddaraf o effaith newid hinsawdd yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i ni yma yng Nghymru. Mae'n nodi, ymysg effeithiau ehangach, y risg gynyddol o gwympiadau tir, tirlithriadau ac ymsuddiant yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau glofaol hanesyddol, ac nid rhagolygon damcaniaethol yn unig yw'r rhain. Ym mis Chwefror 2020, o ganlyniad i stormydd dinistriol, gwelsom ni i gyd effaith y tirlithriad yn Nhylorstown, sy'n ein hatgoffa'n llwyr o etifeddiaeth hanes diwydiannol Cymru. Amlygodd y tirlithriad hwn fod risgiau o hyd yn gysylltiedig â'n gorffennol glofaol balch. Ym mis Chwefror eleni, gwelsom dirlithriad ym Mhentre yn bygwth tarfu sylweddol. Mae angen i ni sicrhau nad yw etifeddiaeth cloddio glo yn parhau i beri perygl i ddiogelwch y cyhoedd gan hefyd baratoi ar gyfer heriau newid hinsawdd, a allai achosi tywydd mwy eithafol. Ac wrth gwrs, ymhen ychydig wythnosau yn unig, byddwn ni'n cofio canlyniadau dinistriol llithriad y domen a laddodd 144 o bobl, 116 ohonyn nhw'n blant, ar 21 Hydref 1966 yn Aberfan.