Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 28 Medi 2021.
Etifeddiaeth ein gorffennol glofaol, y rhannwyd ei fuddion ledled y DU gyfan, yw'r dros 2,100 o domenni glo segur ledled Cymru. Pan grëwyd y tomenni hyn, nid oedd effaith lawn allyriadau carbon o lo, olew a nwy o ran ysgogi newid hinsawdd yn hysbys eto. Nid oedd systemau draenio tipiau wedi'u cynllunio i ymdopi â faint o law a ragwelir erbyn hyn, ac oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn awr, mae ein cymunedau'n wynebu mwy o ansicrwydd yn y dyfodol. Trwy fynd i'r afael â'r materion hyn, gallwn ni osgoi cynnydd diangen mewn allyriadau carbon.
Mae etifeddiaeth cloddio am lo yn effeithio yn anghymesur ar Gymru. Mae tua 40 y cant o domenni glo segur Prydain yma yng Nghymru. O'r tomenni risg uwch, mae mwy na 90 y cant wedi'u lleoli yng nghymoedd y de. Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw'r setliad datganoli presennol a fformiwla Barnett yn methu â chydnabod hyn nac yn adlewyrchu anghenion Cymru yn ddigonol yn hyn o beth. Mae sicrhau diogelwch tomenni yn gofyn am waith cynnal a chadw parhaus gan Lywodraeth Cymru. Mae'r costau adfer sy'n cael eu gwaethygu erbyn hyn gan newid hinsawdd ar raddfa sy'n llawer uwch nag unrhyw beth a ragwelwyd pan ddechreuodd datganoli yn 1999. Nid ydyn nhw yn cael eu hadlewyrchu yn ein trefniadau ariannu presennol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gytuno i ariannu'r costau hyn, neu mae'n golchi ei dwylo o'i gorffennol glofaol a'i chyfrifoldeb i ymdrin â'r rhwymedigaethau a adawyd ar ôl.
Yn wrthnysig, rydym yn cael ein gadael deirgwaith yn waeth ein byd, oherwydd hyd yma mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwario ar domenni glo, ac, wrth gwrs, mae'n dal yn ôl y £375 miliwn o gyllid rhanbarthol a ddylai ddod i Lywodraeth Cymru. Felly, mae Llywodraeth y DU yn barod, fel y mae'r Senedd wedi clywed yn y datganiad blaenorol y prynhawn yma, i ddarparu cymorth ariannol drwy ei chronfeydd codi'r gwastad neu ar gyfer meysydd sy'n amlwg wedi'u datganoli, cyflwyno deddfwriaeth newydd i wneud hyn a pheryglu dyblygu a gwerth gwael am arian a hynny wrth dorri ei haddewid o ran ei rhwymedigaethau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i fynd i'r afael â phroblemau fel diogelwch tomenni glo sy'n rhagflaenu datganoli.
Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r her hon. Rydym ni eisoes yn cyflawni ein cyfrifoldebau dros ddiogelwch tomenni glo. Ar ôl llithriad Tylorstown, sefydlodd y Prif Weinidog dasglu diogelwch tomenni glo ar unwaith, sy'n bwrw ymlaen â rhaglen sylweddol o waith diwygio gweithredol a deddfwriaethol. Gan weithio gyda phartneriaid yn yr Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae archwiliadau rheolaidd bellach ar y gweill ac mae gwaith cynnal a chadw wedi dechrau. Gan weithio gyda ffora cydnerthedd lleol, mae mesurau ymateb brys bellach ar waith. Fel Llywodraeth, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth diogelwch tomenni glo newydd yn ystod y Senedd hon. Y llynedd, gofynnwyd i Gomisiwn y Gyfraith gynnal adolygiad o fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwn yn darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer datblygu deddfwriaeth newydd i Gymru ar domenni glo, yr ydym wedi ymrwymo i'w chyflawni yn ystod y Senedd hon.
Fodd bynnag, nid yw hon yn her y gallwn ni fynd i'r afael â hi ar ein pennau ein hunain, ac ni ddylem ni orfod gwneud hynny ychwaith. Roeddwn i'n falch o weld y Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr angen i weithredu ar lo yn ei araith y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd y mis hwn. Rwyf hefyd yn falch o nodi bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn darparu cymorth gwerth £44 miliwn i helpu gwledydd datblygol y byd i reoli diwydiannau echdynnol fel glo yn gyfrifol ac yn atebol.
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn: mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i Deyrnas Unedig sy'n gweithio ar gyfer ei holl rannau cyfansoddol. Os yw Llywodraeth y DU yn rhannu ein hymrwymiad i'r undeb, yna dyma'r her a dyma'r amser iddyn nhw gymryd eu cyfran o'r cyfrifoldeb am etifeddiaeth hanesyddol cloddio am lo yn y DU.
Nid tasg fach yw hon—o na fyddai'n dasg fach. Gall y gost o adfer un domen yn unig, lle mae angen gwaith helaeth, fod yn £40 miliwn, ac mae gennym dros 2,100 o domenni yng Nghymru. Rydym ni'n dechrau gyda'r safleoedd mwyaf heriol, wrth gwrs. Fodd bynnag, rydym yn amcangyfrif y bydd angen o leiaf £600 miliwn arnom dros y degawd a hanner nesaf. Mae angen i Lywodraeth y DU ein hariannu i fuddsoddi yn awr, tra bod amser o hyd, er mwyn osgoi llawer mwy o gost ac effaith ar bobl a chymunedau.
Rwyf eisiau dweud nad yw'n ddrwg i gyd. Mae cyfleoedd mawr hefyd. Fe'm calonogwyd i gan fy nghyfarfod diweddar â Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, a ddywedodd wrthyf ei fod yn rhannu angerdd Llywodraeth Cymru dros fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r Prif Ysgrifennydd yn arwain adolygiad o wariant tair blynedd cynhwysfawr Llywodraeth y DU lle mae mynd i'r afael â newid hinsawdd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol wedi'u hamlygu fel blaenoriaeth uchel. Os gallwn gytuno ar ffordd ymlaen i fynd i'r afael â'r her gyffredin hon a rheoli'r risg gynhenid, mae cyfle i ni ddangos ein hymrwymiad ar y cyd wrth i ni edrych ymlaen at gynnal COP26 yn y DU. Ac ni fu erioed yn bwysicach i ni gydweithio ar draws y DU ac ar draws y byd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur a'i ganlyniadau.
Mae tomenni glo, yn ôl eu natur, yn eithaf llythrennol yn storfeydd sylweddol o garbon ffosil. Maen nhw'n rhan allweddol o'n treftadaeth ddaearegol. Mae llawer ohonyn nhw yn gynefinoedd i blanhigion ac anifeiliaid. Wedi'u hadfer a'u gwneud yn ddiogel, mae ganddyn nhw y potensial i fod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol ar gyfer natur a choedwig genedlaethol Cymru. Bydd y buddsoddiad y mae ei angen yn dod â manteision economaidd, sgiliau newydd a mwy o gyflogaeth i gymunedau ein Cymoedd. Bydd yn gwella'r amgylchedd i bobl sy'n byw yno ac yn rhoi cyfran o gyfoeth cenedlaethol yn ôl i'r rhai hynny y gwnaeth eu rhagflaenwyr helpu i'w greu.
Mae'r ffeithiau'n glir. Mae newid hinsawdd, sy'n arwain at achosion o law trwm, yn bygwth ansefydlogi tomenni glo. Mae etifeddiaeth ddiwydiannol cloddio am lo yn cael effaith anghymesur arnom ni yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn dangos y ffordd, gyda'r cyllid ysgogi y mae'n ei ddarparu i hen ardaloedd cloddio ar draws yr Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r her, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny hyd yma. Dyna pam yr wyf yn galw ar yr Aelodau i wrthwynebu gwelliant y Ceidwadwyr a chefnogi'r cynnig. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewidion a chyflawni ei chyfrifoldebau'n llawn, drwy weithio gyda ni a chytuno ar raglen ariannu i fynd i'r afael â her adfer, adennill ac ail-lunio safleoedd tomenni glo yn y tymor hir, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd.