Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:45, 29 Medi 2021

Diolch. Gallaf i roi cadarnhad dyw e ddim yn mynd i gymryd pum mlynedd. Rŷn ni'n mynd i fynd yn gyflymach na hynny. Allaf i ddim rhoi sylw iddo fe—. Dwi ddim yn meddwl y gallwn ni ei gyflwyno fe rŵan, neu nawr, achos mae'n fater cymhleth. Mae'r dechnoleg yn rili gymhleth. Mae'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi yn gymhleth tu hwnt. Mae angen pobl sydd yn rili deall y dechnoleg yma ac mae pob un eisiau yr un bobl ar hyn o bryd. Dyna pam mae HEIW yn cymryd hwn o ddifrif ac yn rhoi gweithredoedd mewn lle fel bod pob un yn deall pwysigrwydd technoleg yn y dyfodol. Felly, mae hwn yn bwynt mae'r holl wasanaeth iechyd yn deall y mae'n rhaid inni symud arno.