Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 29 Medi 2021.
Dwi'n falch eich bod chi'n cyfaddef ei fod o wedi dod fel sioc ichi ein bod ni mor bell ar ei hôl hi. Dwi'n gweld eich rhagflaenydd chi'n eistedd yn dawel iawn wrth eich ymyl chi yn fanna, a'r Gweinidog iechyd o'i flaen o oedd y Prif Weinidog presennol, wrth gwrs. Ond, drwy gydol y pandemig yma, rydym ni wedi gweld sut mae gwasanaethau yn gallu symud yn gyflym a chyflwyno newidiadau yn gyflym, pan fo'r arweinyddiaeth a'r ewyllys gwleidyddol yn eu lle. Rydyn ni yn gallu creu gwasanaethau sydd yn gweddu i'n hanghenion ni. Ac mae gweithio ar bapur yn dal y gwasanaeth iechyd yn ôl. Mae staff wedi cael llond bol ac mae cleifion, ar ddiwedd y dydd, yn dioddef. Felly, a gawn ni unwaith eto, yn ddiamwys, ymrwymiad gan y Gweinidog i roi'r un ewyllys gwleidyddol i mewn i gyflwyno hyn, a chyflwyno hyn rŵan, nid o fewn amserlen pum mlynedd? Achos mae pum mlynedd yn amser hir i unrhyw un; yn yr oes ddigidol, mae o'n oes.