Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 29 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Yn amlwg, rwyf bob amser yn ymwybodol iawn, pan fyddaf yn ymateb i chi, fy mod yn siarad ag arbenigwr, felly mae'n rhaid i mi bob amser fod yn fwy gofalus gyda chi na neb arall yn y Siambr mae'n debyg. [Chwerthin.]
Credaf ei bod yn gwbl briodol fod yn rhaid inni gadw llygad ar nifer y nyrsys. Ac wrth gwrs, mae gennym ni yng Nghymru ddeddfwriaeth mewn perthynas â hynny, ac mae honno'n ddeddfwriaeth unigryw nad yw'n weithredol ar draws gweddill y Deyrnas Unedig, lle mae lefelau staff nyrsio yn ofyniad cyfreithiol. Ac roeddwn yn falch o allu siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol y bore yma am y sefyllfa honno a gweithredu hynny. Felly, rydym mewn sefyllfa wahanol i rannau eraill o'r DU o ran nyrsio. Credaf fod pethau eraill y gallwn eu gwneud mewn perthynas â strôc yng Nghymru—mae hyrwyddo ffibriliad atrïaidd o fewn gofal sylfaenol yn rhywbeth arall rwy'n awyddus iawn i weld a allwn fynd ar ei drywydd.