Gwasanaethau Strôc Brys

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:49, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddodd Rhaglen Archwilio Genedlaethol y Sentinel Strôc—y SSNAP—archwiliad ledled y DU o wasanaethau strôc yn ein hysbytai, ac mae Cymru'n chwarae ei rhan yn cyfrannu data'n rheolaidd at y gwaith pwysig hwn. Dangosodd adroddiad eu harchwiliad sefydliadol acíwt ym mis Rhagfyr 2019 mai dim ond 30 y cant o ysbytai ledled y DU oedd â'r lefel a argymhellir o nyrsys cofrestredig yn gweithio ar benwythnosau. A all y Gweinidog gadarnhau a oedd unrhyw un o'r ysbytai hyn yng Nghymru, ac os felly, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gennym y nifer cywir o nyrsys yn ein hunedau strôc? Diolch, Weinidog.