– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 29 Medi 2021.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fel bachgen ifanc, cododd yr enw Betty Campbell sawl gwaith mewn sgyrsiau gartref. Roedd hi yn yr ysgol gyda fy modryb, a thrwy addysg a gwleidyddiaeth leol yng Nghaerdydd daeth yn ffrindiau da gyda fy nhad. Roeddwn bob amser yn edmygu Betty. Yn ifanc, ni wyddwn ddim am ei chyflawniadau—daeth hynny'n ddiweddarach. Ond hyd yn oed fel person ifanc, cefais brofiad o'r cymeriad anhygoel yma gyda'r fflach wrthryfelgar a'i throadau ymadrodd gwych—a gallai dynnu rhywun oddi ar eu pedestal yn gyflym iawn.
Hi oedd y cynghorydd annibynnol yn Butetown adeg sefydlu'r lle hwn, a hoffwn sôn am ddwy stori o'r achlysur hwnnw y credaf eu bod yn crynhoi ei phersonoliaeth yn berffaith. Roedd bws wedi'i drefnu i gludo'r bobl bwysig yn ôl o Dŷ Hywel at eu ceir. Perswadiodd fy nhad Betty i ddod ar y bws, a pherswadiwyd y gyrrwr bws gan Betty i fynd rownd ffordd arall heibio i ystâd Butetown, i fynd â hi adref. Felly, aeth y bws ar daith i Butetown, a dyna lle'r arhosodd y bws, y tu allan i'w thŷ am oesoedd, wrth iddi orffen siarad â phawb ar y bws. Roedd hi'n byw wrth galon y gymuned a wasanaethai. Ac yna tua'r un pryd, cofiaf fod mewn cinio i nodi'r achlysur, ac roedd hi'n eistedd wrth ymyl un o swyddogion y Frenhines, ac roeddent yn cyd-dynnu'n dda iawn—gallai gyd-dynnu â phawb. Ond ar ôl ychydig, gofynnodd iddo, 'Wel, beth ydych chi'n ei wneud?', a daeth rhyw deitl mawreddog yn ôl. Yn gyflym, gofynnodd Betty, 'Wel, sut mae cael y swydd honno? Ni sylwais arni'n cael ei hysbysebu.' Chwarddodd yntau lawn cymaint ag y gwnaeth pawb arall.
Mae'r heriau y llwyddodd i'w goresgyn yn hysbys iawn: mae'r ffaith mai hi oedd un o'r chwe disgybl cyntaf yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd, a ddaeth yn Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddiweddarach, yn anhygoel; y pennaeth du cyntaf yng Nghymru yn y 1970au; ac ysbrydoliaeth i filoedd ar filoedd. Clywais Betty'n dweud sawl gwaith ei bod yn falch o fod yn ddu ac yn falch o fod yn Gymraes—âi'r ddau beth law yn llaw, roeddent yn mynd law yn llaw i Betty.
Rwy'n ddiolchgar i dîm Monumental Welsh Women am sicrhau mai cerflun Betty Campbell yw'r cyntaf o lawer o gerfluniau a fydd yn ymddangos i goffáu menywod yng Nghymru. Ond os caf ddweud, nid oes neb yn fwy addas i fod yn gyntaf na Betty? Diolch yn fawr.
Ac mae'n debyg nad oes neb yn fwy addas i dreulio dau funud, 29 eiliad o ddatganiad 90 eiliad arni. [Chwerthin.]
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.
Ni ddaw'n rheol; dim ond Betty Campbell sy'n cael hynny. Jayne Bryant.
Bydd Clwb Llenyddol Casnewydd a Gwent yn dechrau ar eu tymor jiwbilî yn 75 oed pan fyddant yn cyfarfod heno. Mae'r clwb wedi bod yn cyfarfod yn fisol am ginio a sgwrs ar thema lenyddol rhwng mis Medi a mis Mai bron yn ddi-dor ers ychydig ar ôl yr ail ryfel byd. Er i'r pandemig darfu rhywfaint arnynt, cafwyd llawer o gyfarfodydd ar Zoom.
Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf yng Ngwesty'r Westgate ar 23 Ebrill 1947, a chredir ei fod yn un o'r clybiau llenyddol hynaf yng Nghymru. Croesawodd Casnewydd a Gwent nifer o ffigurau llenyddol dros y blynyddoedd, gan gynnwys yr awdur blaenllaw, Lady Healey; yr ieithydd, David Crystal; y milwr a'r awdur, Peter Kemp; a'r bardd, awdur a dramodydd, Dannie Abse. Mae'n falch o fod wedi meithrin awduron newydd o Gymru, yn ogystal â dod ag awduron cenedlaethol a rhyngwladol cydnabyddedig o gefndiroedd amrywiol i Gasnewydd, ac mae gan y clwb aelodaeth sy'n tyfu o bob cwr o'r ddinas, y wlad a'r byd. Maent yn ymdrechu i drafod ystod eang o bynciau, gyda sgyrsiau y tymor hwn yn cynnwys 'Crime Cymru', 'Black Writers 1600-1900', a hyd yn oed 'Viking Sagas'.
Mae'n gyflawniad enfawr i grŵp fel hwn barhau i fynd ar ôl 75 mlynedd, ac rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi helpu dros y degawdau, gyda diolch arbennig i'r holl bwyllgor presennol, dan arweiniad Dr Alun Isaac, ac i Sue Beardmore, sydd wedi helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb drwy gydol y pandemig. Nid oes terfyn ar eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad, ac fel aelod balch, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiadau'r flwyddyn hon, a hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i gysylltiad. Mae'r tymor hwn yn addo bod yn flwyddyn ardderchog.
Heddiw yw Diwrnod Calon y Byd ac er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi bod yn cynnal sesiwn galw heibio ar risiau'r Senedd. Roedd yn dda fod cynifer o'r Aelodau'n gallu bod yn bresennol heddiw.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru hefyd yn lansio ymgyrch newydd ar effaith clefyd y galon ar fenywod. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol o farw o glefyd coronaidd y galon nag o ganser y fron, ond mae ymwybyddiaeth o'r risg o glefyd y galon i fenywod yn isel tu hwnt. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod 50 y cant o fenywod yn fwy tebygol na dynion o gael diagnosis cychwynnol anghywir i drawiad ar y galon. Bob blwyddyn, caiff degau o filoedd o fenywod eu derbyn i ysbytai yma yng Nghymru oherwydd trawiad ar y galon, ac eto canfu Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru nad oedd y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru yn gwybod bod clefyd y galon yn un o brif achosion marwolaeth i fenywod yng Nghymru.
Mae Llywodraethau'r DU a'r Alban wedi ymrwymo i gynllun clinigol ar gyfer eu cyfryw wledydd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan fenywod, ac mae'n briodol yn fy marn i fod Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi dewis lansio eu hymgyrch newydd heddiw. Maent yn gobeithio, fel finnau, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddatganiad cydraddoldeb iechyd menywod a fydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a brofir gan fenywod â chlefyd y galon. A byddwn yn gobeithio y byddai datganiad cydraddoldeb o'r fath yn ceisio gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd, diagnosis amserol, triniaeth deg a mynediad teg at wasanaethau adsefydlu cardiaidd i fenywod ledled Cymru. Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr i bawb am yr eitem yna, a felly nawr byddwn ni'n cymryd toriad ar gyfer gwneud newidiadau yn y Siambr.