– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 5 Hydref 2021.
Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf ar ddiweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Y Gweinidog, Eluned Morgan, i wneud ei datganiad.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn gynharach heddiw, mi wnes i gyhoeddi'r ddau adroddiad diweddaraf gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y rôl maen nhw wedi parhau i chwarae dros y flwyddyn ddiwethaf a'u hymrwymiad parhaus i'r gwaith yma.
Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac mae'r adroddiad ar gynnydd o ran gwasanaethau mamolaeth yn tanlinellu'r effaith a gafodd y pandemig ar ei allu i gynnal cyflymder y broses o sicrhau gwelliant. Wedi dweud hynny, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cael ein calonogi wrth i'r panel gadarnhau bod y bwrdd iechyd, er gwaethaf hyn, wedi dal ati i wneud cynnydd eto o ran gwella ei wasanaethau mamolaeth, gyda phump o argymhellion eraill gan y colegau brenhinol yn cael eu cyflawni—felly, dyna 55 o 70. Yn bwysig iawn, maen nhw'n fodlon bod y gwelliannau a wnaethpwyd dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf bellach wedi ymwreiddio yn ddwfn mewn arfer, gan sicrhau newid y bydd modd ei gynnal. Rwyf i wedi fy nghalonogi yn fawr iawn o weld bod newid sylfaenol wedi digwydd yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu â menywod a theuluoedd.
Ond ni ellir anghofio'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac ochr yn ochr â'r diweddariad hwn ar y cynnydd, mae'r 'Adroddiad Thematig Categori Marw-enedigaethau', sy'n manylu ar y canfyddiadau a'r gwersi o 63 achos o ofal a arweiniodd yn drasig at farw-enedigaeth, yn arbennig o ddirdynnol i'w ddarllen. Ac er bod y canfyddiadau yn cyd-fynd ag adolygiad blaenorol y colegau brenhinol ac, yn wir, adolygiadau tebyg ledled y DU, ni fydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r menywod na'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae hi'n drueni ofnadwy y gellid bod wedi osgoi canlyniad gwael mewn un o bob tri achos o ofal, pe bai'r gofal wedi bod yn wahanol. Nodwyd mân ffactorau y gellid bod wedi eu newid nhw hefyd mewn bron i ddwy ran o dair o'r achosion o ofal a adolygwyd. Er nad oedd y rhain yn debygol o fod wedi cyfrannu at y canlyniad gwael, mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at lawer o ddiffygion yn ansawdd y gofal a gafodd menywod a'r safonau yr oedd ganddyn nhw hawl i'w disgwyl. Roeddwn i'n arbennig o drist o ddarllen yr adborth gan y menywod a'r teuluoedd hynny a rannodd eu straeon nhw, a oedd yn ategu hyn ymhellach, ac mae hi'n wir ddrwg gennyf i am hynny. Er nad oes dim a ellir ei wneud i newid yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau sydd wedi digwydd o ganlyniad i hyn yn rhywfaint o gysur iddyn nhw. Ac a gaf i ddweud na allaf i ddechrau dychmygu'r boen y mae'r menywod hynny a'r teuluoedd hynny sy'n galaru am eu babanod yn ei ddioddef o hyd.
Ni allwn ni danystyried pa mor anodd fydd y canfyddiadau hyn i'r staff. Rwyf i o'r farn gref fod y mwyafrif llethol o'n staff ni'n mynd i'r gwaith bob dydd yn ein GIG i wneud gwaith da. Y system y maen nhw'n gweithio ynddi hi sy'n gallu eu hatal weithiau rhag darparu'r gofal gorau posibl. Mae ymrwymiad staff i sicrhau canolbwyntio parhaus ar wella, er gwaethaf y pwysau gweithredol a wynebwyd ganddyn nhw, yn dangos mai dyna yw'r gwirionedd.
Er i lawer gael ei gyflawni, mae'r adroddiad yn ein hatgoffa ni bod mwy i'w wneud eto, gyda'r canolbwyntio erbyn hyn ar symud tuag at ddull parhaus o wella mwy cyfannol, i'r tymor hwy. Yr hyn sy'n allweddol yn hyn o beth yw meithrin mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth. Mae'r Aelodau eisoes yn ymwybodol bod y panel yn canolbwyntio nawr ar y gwasanaeth newyddenedigol. Mae'r adolygiadau clinigol unigol yn y categori newyddenedigol yn mynd rhagddynt, ac mae'r panel wedi dweud wrthyf eu bod nhw'n bwriadu dechrau rhannu canfyddiadau â menywod a theuluoedd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Dwi'n sylweddoli pa mor anodd yw hi i'r rhai sydd wedi'u heffeithio i orfod aros am ganlyniadau'r ymchwiliad, ond, yn anffodus, mae cyflymder y broses wedi'i effeithio oherwydd ymrwymiadau gweithredol cynyddol yr adolygwyr clinigol, yn ogystal â thîm y bwrdd iechyd, yn sgil effaith COVID-19 ar ddarparu gwasanaethau. Dwi'n deall bod yr adolygiadau yn y maes newyddenedigol yn fwy cymhleth, ac mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu cynnal yn drylwyr. Er hynny, hoffwn sicrhau'r teuluoedd nad yw'r adolygiad manwl sydd ar y gweill i wasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl wedi tynnu'r panel oddi wrth y flaenoriaeth o gwblhau'r adolygiadau unigol hyn. Mae'r panel wedi rhoi gwybod imi fod yr adolygiad manwl o ofal newyddenedigol bron â'i gwblhau ac y bydd yn adeiladau ar y camau gwella uniongyrchol a thymor byr y mae eisoes wedi nodi bod eu hangen. Roedd yn bwysig peidio ag aros am yr adroddiad terfynol cyn cymryd y cyfle i wneud rhai gwelliannau ar unwaith. Bydd y panel yn parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n llawn ar y newidiadau angenrheidiol hyn ac y byddant yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Bydd fy swyddogion hefyd yn monitro hyn yn ofalus.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar wasanaethau newyddenedigol a mamolaeth, mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i wella ei drefniadau llywodraethu ansawdd hefyd ac mae'n ymdrechu i ddatblygu diwylliant agored a thryloyw o ddysgu. Mae hyn yn ategu argymhellion yr adolygiad llywodraethu ansawdd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru a'u hasesiad diweddaraf nhw o gynnydd. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith i alluogi hyn, ac mae fy swyddogion i yn gweithio'n agos gyda'r sefydliad i gefnogi a thracio cynnydd.
Nid wyf i'n bychanu maint yr heriau y mae'r sefydliad wedi eu hwynebu, heriau a oedd yn anoddach byth oherwydd effaith y pandemig. Mae'r hyn yr wyf i wedi ei ddisgrifio heddiw, a'r adroddiadau yr ydych chi wedi eu gweld, yn dangos faint o waith sydd wedi parhau er gwaethaf hyn, ac rwy'n awyddus i ddiolch i bawb a oedd wedi chwarae rhan yn y cyflawniadau hyn. Mae hon, i raddau helaeth, yn daith tuag at newid cynaliadwy ac nid cyfres o gamau gweithredu brysiog. Pan es i i gyfarfod â'r panel yr wythnos diwethaf, roedden nhw'n dweud wrthyf i fod hwn yn wasanaeth mamolaeth gwahanol iawn erbyn hyn i'r un y gwnaethon nhw ei weld ar y dechrau. Mae hi'n bwysig iawn bod unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth heddiw yn gallu bod yn siŵr o hyn hefyd.
Wrth gloi, Llywydd, hoffwn i achub ar y cyfle i ddiolch i'r cadeirydd sy'n gadael, Marcus Longley, am ei arweinyddiaeth gref yn ystod cyfnod mor anodd. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Emrys Elias am gytuno i ymgymryd â'r swydd hon dros y 18 mis nesaf. Gyda'i gefndir a'i brofiad ef, fe fydd yn sicr o ddarparu'r cyfeiriad a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar y sefydliad i gymryd y camau nesaf ar ei daith tuag at welliant. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am y gwahoddiad i sesiynau briffio technegol hefyd? Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod chi, cymaint â minnau, wedi eich arswydo gan y ffaith y gallai un o bob tri baban a oedd yn farw-anedig yng Nghwm Taf fod wedi goroesi oni bai am gamgymeriadau difrifol a wnaed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles rhwng 2016 a 2018. Mae hwn yn ddiwrnod torcalonnus i deuluoedd yn y de sydd wedi cael cadarnhad y bu eu baban annwyl farw yn gwbl ddiangen. Mae'r adroddiad ar warth y gwasanaeth mamolaeth yng Nghwm Taf, fel y gwnaethoch chi eich hun ddweud, Gweinidog, yn ddirdynnol i'w ddarllen, ac mae'r mamau a'r teuluoedd a aeth drwy amgylchiadau mor drist yn fy meddyliau i. Mae gan fenywod sy'n wynebu geni plentyn hawl i ddisgwyl gofal o ansawdd uchel a'r cyfle gorau i roi genedigaeth i blentyn iach, ond cawson nhw gam a'u siomi yn y pen draw.
Mae maint y gwarth hwn yn frawychus, ac mae'n parhau i godi llawer o gwestiynau heriol i Cwm Taf, ei system reoleiddio yn ogystal â'r Llywodraeth Lafur yn y fan hon, wrth gwrs. Mewn dros chwarter yr achosion hynny, nodwyd bod triniaeth annigonol neu amhriodol yn ffactor pwysig yn y canlyniad, ac mae hyn yn golygu methiant amlwg i ddarparu gofal sylfaenol da i fenywod a'u babanod ar yr adeg yn eu bywydau y maen nhw'n fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i yn y pen draw, Gweinidog, yn hyn o beth yw: beth aeth o'i le?
Ac er nad yw'r panel wedi amlinellu unrhyw argymhellion penodol ac wedi dweud bod y bwrdd yn ôl ar y trywydd iawn, mae'r straeon gan y menywod dan sylw wedi bod yn anodd iawn eu darllen. Dywedodd un, ac rwy'n dyfynnu,
'Fy mhryder i yw y byddwn ni'n rhannu ein straeon ac na fydd dim yn digwydd o ganlyniad i hynny a gydag amser byddwn ni'n mynd yn angof. Mae hyn wedi agor hen glwyfau ac rydym ni'n gobeithio y bydd yn arwain at newid.'
Mae'n ymddangos bod y pryder hwn yn ddilys, gan fod pryderon mawr yn parhau o ran agweddau ar y gwasanaethau a ddarperir gan Ysbyty'r Tywysog Charles, nad ydyn nhw'n bodloni o hyd, ac rwy'n dyfynnu'r panel,
'y safonau diogelwch ac effeithiolrwydd yr oedd yn disgwyl eu gweld mewn uned newyddenedigol sy'n gweithredu ar y lefel honno o fewn system gofal iechyd y DU.'
Felly, pa systemau, Gweinidog, ydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob un uned famolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y lefel honno o fewn system gofal iechyd y DU? Ac, yn y pen draw, sut byddwch chi a'r byrddau iechyd yn eu monitro nhw yn y dyfodol?
Mae fy nghyd-Aelodau a minnau o'r farn bod yna broblemau ehangach o fewn y gwasanaeth gofal iechyd ar waith yma. Tynnodd y cyn-Weinidog Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig chwe wythnos yn unig ar ôl iddo ddweud bod angen sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd ynglŷn â chynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ond mae pryderon yn parhau o ran gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd, ac mae adroddiadau diweddar yn dangos y bu dau achos o farwolaeth claf o fewn chwe mis mewn unedau gwasanaeth iechyd meddwl yn y bwrdd. Felly, rwyf i o'r farn bod ymchwilio mewn modd priodol i gwynion staff yn parhau i fod yn destun pryder i'r bwrdd. Ac, yn Nhawel Fan, nodwyd bod triniaeth gan staff yn un o brif bryderon teuluoedd y cleifion yno, a wnaeth ddisgrifio staff nad oedd hi'n ymddangos bod ganddyn nhw yr un ots neu nad oedden nhw'n poeni dim am yr hyn a oedd yn digwydd, nac yn ceisio cuddio eu gweithredoedd nhw ychwaith.
Ac rydym ni wedi darllen dyfyniadau dirdynnol iawn heddiw. Dywedodd un o'r menywod niferus a gollodd eu plant yn drist iawn:
'Fe daflodd lun o'r sgan ataf i'n ddi-deimlad gan ddweud "Dyma'r llun olaf o'ch baban."'
Hefyd,
'"Mae'r baban wedi marw, a ydych chi'n dymuno ei weld e'?', ac,
'Fe fyddai hi'n well i chi ei weld e' nawr tra'i fod e' ar ei orau"'.
Wrth gwrs nid yw'n ymwneud dim ond â'r geiriau a gafodd eu dweud; mae hyn yn ymwneud â'r ffordd y cawson nhw eu dweud a'r ffordd y cawson nhw eu mynegi. Ond, o gofio'r modd y tynnwyd Betsi o fesurau arbennig ar fyr rybudd, Gweinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Siambr heddiw y bydd gwasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn aros o fewn y lefel hon yn y tymor canolig? A sut ydych chi am sicrhau y bydd y staff sy'n gyfrifol am y digwyddiadau ofnadwy hyn yn destun ymchwiliad priodol? Diolch, Llywydd.
Diolch, Russell. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall yn iawn nad hwn oedd penllanw gyrfa gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Ac roeddwn i, fel chithau, wedi fy syfrdanu'n fawr gan rai o'r dyfyniadau hynny gan y menywod a oedd wedi dioddef fel hyn, ac maen nhw'n gwneud argraff ddofn arnoch chi yn wirioneddol. Ac rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n credu bod y dyfyniad y gwnaethoch chi ei roi yn un yr oeddwn innau hefyd yn teimlo bod angen i ni ei ystyried yn llawn, sef,
'byddwn ni'n rhannu ein straeon ac na fydd dim yn digwydd'.
Rydych chi'n meddwl am y trawma o orfod rhannu'r stori honno dro ar ôl tro gyda'r bobl hyn sy'n dod ac yn gofyn i chi ac yn ymchwilio i'r hyn a aeth o'i le. Mae'n rhaid iddyn nhw wybod y bydd rhywbeth yn newid. Ac fe allaf i roi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw yn yr ystyr ein bod ni yn rhoi systemau ar waith. Cawsom ni, yn gyntaf, yr adolygiad annibynnol hwnnw gan y colegau brenhinol, a nododd nid yn unig yr hyn a aeth o'i le ond sut i unioni pethau. Ac mae gennym ni'r rhestrau hynny o bethau, ac rwy'n falch ein bod ni ymhell ar ein ffordd ar y daith honno i sicrhau gwelliant. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i honno fod y deyrnged barhaol yr ydym ni'n ei rhoi i'r menywod hyn, nad oedden nhw wedi cael y parch a oedd yn ddyledus iddyn nhw.
Un sicrwydd a roddwyd i mi, wrth siarad â chynrychiolwyr y panel trosolwg ar wasanaethau mamolaeth, y gwnes i gyfarfod â nhw yn gynharach yr wythnos hon, oedd eu bod nhw, mewn gwirionedd, o ran cyfathrebu, yn ffyddiog bod y bwrdd mewn sefyllfa wahanol erbyn hyn. Ac rwyf i yn credu, yn aml iawn, fod cyfathrebu yn beth cwbl allweddol. Yn y pen draw, serch hynny, bod â pharch sy'n bwysig. Mae'n rhaid i ni barchu pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau iechyd, ac yn sicr byddwn ni'n parhau yn Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar feysydd y mae angen yr ymyriadau hynny arnyn nhw, y mesurau arbennig hynny i sicrhau y gallwn ni osgoi unrhyw broblemau fel hyn yn y dyfodol.
Dwi'n meddwl ei bod yn dweud y cyfan pa mor fud yw'r Siambr y prynhawn yma yn gwrando ar hyn. Mae'r straeon a'r adroddiad yn anodd iawn i'w clywed, i'w darllen, a dwi'n gwybod bod nifer ohonoch chi hefyd wedi cyfarfod nifer o'r rhieni yma a'u teuluoedd a chlywed ganddyn nhw, a pha mor emosiynol ydy o. Efallai y dylwn i hefyd ddatgan ar y dechrau fod fy mab fy hun wedi ei eni yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a fy mod i wedi derbyn ymddiheuriad yn sgil y profiad echrydus dderbyniodd y ddau ohonon ni. Mi oedd hyn yn 2013, ac mae gweld bod y gwersi, efallai, heb eu dysgu o'r gŵyn honno yn rhywbeth sy'n aros efo finnau hefyd. Wrth lwc, mae o bellach yn wyth oed, ond mae pawb yn darllen yr adroddiad hwn a meddwl sut y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol, a dwi ddim yn meddwl byddai unrhyw un yn gallu peidio â chael eu heffeithio gan straeon y rhieni hynny.
Unwaith eto, rydyn ni wedi clywed am fethiannau difrifol o ran y gofal a dderbyniwyd yn Cwm Taf Morgannwg. Mae'n ddiwrnod anodd i'r rhieni gafodd eu heffeithio gan y methiannau hyn ac mae'n iawn bod y Gweinidog wedi ymddiheuro am hyn, ond mae'n rhaid pwysleisio, fel dywedoch chi, does yna ddim geiriau all ddod â'r rhai a gollwyd yn ôl na lleihau'r golled. O ddechrau'r sgandal hon, mae Plaid Cymru wedi galw am adolygiadau eang i'r hyn sydd wedi digwydd, ac rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad arall yma heddiw. Rydyn ni bob amser wedi pwysleisio ei bod yn bwysig bod yr adolygiad yn ymchwilio pam fod cymaint o fabanod wedi marw mewn cyfnod mor fyr. Mae'r adroddiad newydd sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, fel sydd wedi cael ei ddweud, yn dangos bod un o bob tri o fabanod gafodd eu geni'n farw, buasen nhw wedi gallu goroesi heblaw am gamgymeriadau difrifol yn eu gofal, ac mae hyn yn frawychus dros ben. Ac i mi hefyd, nid dim ond yr ystadegyn hwnnw o ran y traean o blant a allai fod yn dal efo ni rŵan, ond y ffaith, mewn 37 achos pellach, fod yr adolygiad yn awgrymu y gallai un neu ragor o gamgymeriadau bach fod wedi digwydd, er y mae'n annhebygol y gallai'r rhain fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol—ond annhebygol, nid yn bendant—a dim ond mewn pedwar achos y daeth yr arbenigwyr i'r casgliad na ddylid wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol.
Er bod y bwrdd iechyd a'r Llywodraeth yn croesawu'r casgliadau, mae'n amlwg bod mwy sydd angen ei wneud. Ydy, mae hwn yn bwnc emosiynol i nifer o bobl. Mae'r newyddion wedi ailagor nifer o greithiau emosiynol i rieni; nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r boen, y brifo, y niwed a'r gofid sydd wedi'i achosi i bob un o'r teuluoedd y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnynt ac mae hynny'n parhau.
Nid rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ydy hyn; mae pobl yn mynd i fod yn byw efo fo am weddill eu bywydau. Y canlyniad gorau posib fyddai i'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd weithredu'r argymhellion o'r adroddiadau hyn er mwyn sicrhau na fydd y methiannau byth yn digwydd eto. Ac mae yna nifer o gwestiynau, dwi'n tybio, o ran atebolrwydd sydd yn dal i fod angen eu hateb, hyd yn oed gyda chyhoeddi'r adroddiad hwn. Mi roddodd yr adroddiad a'r datganiad lawer o bwyslais ar y gwelliannau a'r dysgu sydd wedi digwydd, ond mae'n rhaid hefyd cael atebolrwydd. Ac a all y Gweinidog ddweud â'i llaw ar ei chalon fod atebolrwydd wedi bod o ran y sgandal hon, o ystyried bod nifer o'r arweinyddion blaenorol o ran y bwrdd iechyd wedi cael taliadau mawr wrth adael a'u bod nhw'n parhau i weithio yn y maes iechyd rŵan, efallai mewn bwrdd iechyd gwahanol, tra bod y rhai sydd wedi dioddef profedigaeth wedi cael eu gadael heb ddim? Ble mae'r atebolrwydd, Weinidog?
Wel, diolch yn fawr iawn i'r Aelod ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed am eich profiad personol chi yng Nghwm Taf ac, yn sicr, rŷch chi'n un o nifer sydd wedi dioddef yn ystod y cyfnod caled yna pan oedd pethau mewn cyflwr go ddrwg. Dwi'n meddwl bod y cyhoeddiad yma yn ateb rhai o'r cwestiynau—a'r adroddiad yn ateb y cwestiwn hwnnw roeddech chi'n ei ofyn, 'Pam oedd cymaint wedi marw?', ac mae atebion yma ynglŷn â pham roedd rhai wedi marw; mae hwnna'n adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd eisoes gan y coleg brenhinol.
Dwi yn meddwl ei bod hi'n rili bwysig ein bod ni'n glir nad yw'r stori yma drosodd, chwaith, bod mwy i fynd; mae mwy sydd ei angen ei wneud. Ac wrth gwrs, mae yna adroddiad arall i ddod, yr adroddiad neonatal, sydd hefyd, mae arnaf i ofn, yn mynd i fod yn ddarllen sydd yn mynd i fod yn anodd.
Gallaf gadarnhau i chi ein bod ni yn mynd i gadw golwg o ran sicrhau ein bod ni'n gweithredu'r argymhellion, ein bod ni yn sicrhau bod y bwrdd yn cadw i fynd, a bod y tîm sydd yna ar hyn o bryd yn sicrhau eu bod yn cadw ati. Dwi'n meddwl bod y pwynt ynglŷn ag atebolrwydd yn bwysig, ac un o'r pethau dwi'n awyddus i weld yw gweld newid diwylliant yn y bwrdd iechyd. Mae angen iddyn nhw fod yn lot mwy agored ynglŷn â beth sy'n mynd ymlaen. Un o'r problemau oedd bod cymaint wedi cael ei guddio am gymaint o amser. Felly, mae yn bwysig dyw pobl ddim yn teimlo ofn i ddweud beth sy'n mynd ymlaen, a'u bod nhw'n gallu dod ymlaen, fel ein bod ni'n gallu gwella'r sefyllfa ynghynt, a'u bod ni ddim yn gweld cymaint o'r trasiedïau yma yn digwydd.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Unwaith eto, hoffwn i fynegi ar goedd fy mod i'n meddwl am yr holl deuluoedd hynny y mae'r gwarth hwn wedi effeithio arnyn nhw, yn enwedig yn sgil data o'r Adroddiad Thematig y Categori Marw-enedigaethau yn awgrymu y gellid bod wedi osgoi un o bob tri achos o farw-enedigaeth pe bai'r gofal wedi bod yn wahanol. Mae'r niferoedd hyn yn ddigon brawychus, ond maen nhw'n cynrychioli teuluoedd gwirioneddol sydd wedi eu chwalu gan alar, teuluoedd yr wyf i ac Aelodau eraill y Senedd wedi eu cefnogi dros y blynyddoedd diwethaf.
Fy nghwestiynau i heddiw: rydym ni'n gwybod bod y pandemig parhaus wedi cael effaith aruthrol ar staff rheng flaen y GIG, y mae'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw'n gweithio yn galed iawn i roi gofal priodol, ac mewn llawer o achosion yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl dros eu cleifion. Sut mae'r pwysau hwn yn cael ei reoli yng nghyd-destun cyflawni'r newid diwylliannol hirdymor sydd wedi ei nodi? Yn ail, mae'r pandemig wedi achosi pwysau ychwanegol ar famau sy'n disgwyl a'u teuluoedd, yn arbennig felly, er enghraifft, cyfyngiadau o ran partneriaid yn cael bod yn bresennol mewn apwyntiadau. Sut mae'r rhain yn cael eu rheoli i roi sicrwydd i deuluoedd fel hyn? Ac yn drydydd, pwynt yn yr adroddiad thematig y gwnaeth eich datganiad ysgrifenedig sôn amdano hefyd, yw sylwadau'r panel ynghylch gweithredu'n fwy effeithiol i leihau effaith andwyol ysmygu a phwysedd gwaed uwch yn ystod beichiogrwydd, ill dau yn gallu lleihau'r risg o farw-enedigaeth. Felly, sut ydych chi'n gweithio i sefydlu hyn, nid yn unig ar draws Cwm Taf Morgannwg, ond ledled y GIG cyfan yng Nghymru?
Diolch, Vikki. Rwy'n gwybod faint o waith yr ydych chi wedi ei wneud ar ran llawer iawn o'r bobl hynny sydd wedi dod ymlaen i esbonio sut mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar staff Cwm Taf eisoes. Mae staff ledled y GIG cyfan dan bwysau aruthrol, a dywedir wrthyf i fod ymchwydd yng nghyfradd genedigaethau yn sgil COVID hefyd, felly mae'r pwysau hyd yn oed yn fwy nag y mae fel arfer.
O ran y newid diwylliannol hirdymor, mae yn rhoi rhywfaint o gysur i mi feddwl, er gwaethaf pwysau COVID, eu bod nhw wedi llwyddo, mewn gwirionedd, i gyflawni a newid 55 o'r 70 o argymhellion hynny, ac, ar ben hynny, i'w sefydlu nhw. Nawr, mae llawer i'w wneud eto. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn gwbl glir yn hynny o beth. Rydym ni ymhell o fod yn y sefyllfa y dylem ni fod ynddi o ran gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ond rwy'n cytuno â chi, yn sicr, o ran effeithiau andwyol ysmygu a phwysedd gwaed, fod yna fwy y gallwn ni ei wneud yn yr ystyr ehangach o ran iechyd mamolaeth, lle mae angen i ni annog pobl i ystyried y pethau hynny, ac un o'r materion allweddol, yn sicr, yr wyf i'n ymwneud â nhw ar hyn o bryd yw nifer y menywod beichiog nad ydyn nhw wedi eu brechu. Mae nifer y menywod beichiog sydd yn yr ysbyty oherwydd nad ydyn nhw wedi eu brechu yn peri pryder enfawr, a byddwn i'n annog yr holl fenywod hynny sy'n feichiog yng Nghymru ar hyn o bryd i sicrhau eu bod nhw'n cael y brechlyn. Ni wnaiff unrhyw niwed i chi nac i'ch babi.
Yn sicr, o ran partneriaid yn cael ymweld, rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir, ar gyfer yr enedigaeth ei hun, y caiff y partner fod yn bresennol, ond mae'r sefyllfa o ran ymweld fel arall yn dibynnu ar y sefyllfa leol o ran cyfraddau COVID.
Hoffwn i roi teyrnged i'r holl staff sy'n gweithio i gynnal gwasanaethau yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, nid y staff meddygol yn unig, sydd wedi arddangos cymaint o gadernid yn ystod y 18 mis diwethaf, ond y rhai hynny sy'n arwain y sefydliad mewn cyfnod heriol fel hwn. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y bwrdd yn wynebu heriau sylweddol cyn dechrau'r pandemig, a bod COVID-19 wedi dwyn llawer o'r gwendidau yn ein gwasanaethau iechyd ni i'r amlwg. Mae elwa ar wasanaethau newyddenedigol a mamolaeth o ansawdd uwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r gymuned leol, ac rwy'n gobeithio bod y bwrdd yn canolbwyntio ar hyn.
Fy nghwestiynau i yw, Gweinidog: yn eich datganiad ysgrifenedig chi'n gynharach heddiw, fe wnaethoch chi ddweud bod momentwm wedi ei golli oherwydd COVID, ond bod y rhaglen ar y trywydd iawn i gyflawni gwelliannau hirdymor a chynaliadwy. Oni bai bod rhywbeth mawr wedi ei wneud i adennill y momentwm a gollwyd, sut mae'r rhaglen ar y trywydd iawn?
Rhif 2: mae adroddiad thematig categori marw-enedigaethau y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth yn cyfleu darlun tywyll. Dylem ni fod yn gweld gwerth yn yr hyn sydd gan fenywod i'w ddweud am y gwasanaethau hyn, ac nid yw hynny wedi digwydd. Beth mae angen i'r bwrdd iechyd hwn ac eraill ei wneud er mwyn gwrando ar farn menywod sydd wedi eu hesgeuluso a'u hanwybyddu? Fy nghwestiwn olaf i, Gweinidog: mae goruchwylio'r bwrdd yn hollbwysig. Mewn meysydd eraill, byddai pobl wedi eu diswyddo, a byddai cymhwysedd y bwrdd yn cael ei adolygu. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y bwrdd hwn yn addas i'r diben? Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch yn fawr iawn, Altaf. Yn sicr, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ni ddweud bod dealltwriaeth, wrth gwrs, fod gwasanaethau mamolaeth yn flaenoriaeth nid yn unig i'r gymuned leol, ond i'r bwrdd iechyd hefyd. Dyma un o'r meysydd allweddol y mae'r GIG yn gyfrifol amdanyn nhw—sef sicrhau y caiff babanod eu geni mewn modd diogel. Wrth gwrs, fel gwasanaethau eraill, mae momentwm wedi ei golli o ganlyniad i COVID. Ni fyddech chi'n disgwyl iddi fod fel arall. Felly, mae wedi gwyro oddi ar y trywydd iawn i ryw raddau, ond rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i weld pethau ar y trywydd iawn unwaith eto, ac nad ydym ni'n newid yr angen i fynd i'r afael â diwylliant yn y sefydliad ei hun. Ac rwy'n cytuno â chi mai darlun tywyll sy'n cael ei gyfleu yn yr adroddiad, a'i bod hi'n hanfodol i ni wrando ar farn y menywod yr effeithiwyd arnyn nhw gan y gwasanaethau a gawsant.
Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt teg iawn ynglŷn â'r angen i fwrdd Cwm Taf Morgannwg fod â diddordeb gwirioneddol yn hyn, a bod eu swyddogaeth nhw o ran goruchwylio yn gwbl hanfodol. A dyna pam rwy'n falch iawn bod Emrys Elias wedi cymryd hyn o ddifrif. Rwy'n gwybod ei fod yn deall yr angen i ganolbwyntio ar y mater hwn yn wirioneddol, ac nid ar y mater hwn yn unig, ond hefyd y materion llywodraethu ehangach y mae angen gwirioneddol i fynd i'r afael â nhw, yn enwedig yn y bwrdd iechyd hwn.
Diolch i'r Gweinidog, ac fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr.