13. Dadl Fer: Addas ar gyfer yr 21ain Ganrif: Sut y gall Cymru gwella'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i helpu pobl i oresgyn dibyniaeth ar sylweddau

– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:41, 6 Hydref 2021

Fe fyddwn ni'n symud ymlaen yn awr i'r ddadl fer, yn enw Peredur Owen Griffiths. Fe wnawn ni gychwyn y ddadl fer mewn munud wrth i Aelodau adael y Siambr. Y ddadl fer, felly. Peredur Owen Griffiths.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Mae Luke Fletcher a Jenny Rathbone wedi gofyn i gael munud o fy amser i, so dwi wedi cydsynio i hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Aeth dros 40 mlynedd heibio ers i'r Unol Daleithiau ddatgan eu rhyfel yn erbyn cyffuriau. Ers hynny, mae gwahanol weinyddiaethau ar draws y byd wedi copïo'r uwch-bŵer ac wedi dilyn polisi o fabwysiadu dull llym o fynd i'r afael â chyffuriau, ond heb fawr o dystiolaeth ei fod yn trechu dibyniaeth, neu'n trechu'r gafael sydd gan gangiau troseddol ar yr ardaloedd lle maent yn gweithredu. Mae'r ffaith bod y rhyfel honedig hwn yn dal i gael ei ymladd, heb unrhyw ddiwedd yn y golwg, yn dweud rhywbeth. Mae'r DU, o dan wahanol Lywodraethau dros y blynyddoedd, wedi dilyn ôl troed ei chyfaill ar draws yr Iwerydd yn ôl y disgwyl, a hynny gyda chanlyniadau hawdd eu rhagweld. Mae marwolaethau cyffuriau yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel mewn rhannau helaeth o'r DU. Rhaid inni gofio bod cost ddynol y tu ôl i bob marwolaeth, cost sy'n taro ffrindiau a theulu'r ymadawedig am flynyddoedd wedyn. Fel gyda phob ystadegyn, ni ddylem byth golli golwg ar y gost ddynol i gymdeithas ac i'n cymunedau, ac ni ddylem anghofio am y llanastr y mae'r polisi hwn yn ei achosi mewn gwledydd lle bydd cartelau cystadleuol yn ymladd yn ddyddiol dros gynhyrchiant cyffuriau. Mae Mecsico yn enghraifft wych o wlad sydd wedi'i dadsefydlogi o ganlyniad i'r polisi cyffuriau hwn.

Yr hyn rwyf am ei wneud heno yw dadlau o blaid sgwrs genedlaethol sy'n ceisio sefydlu system well, fwy tosturiol wedi'i harwain gan brofiad o drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau. Mae angen inni ddeall profiad bywyd yr holl bobl dan sylw, a rhoi ystyriaeth briodol i bob ateb posibl. Pa blaid bynnag a gynrychiolwch yn y Senedd, neu beth bynnag yw eich barn am gamddefnyddio sylweddau neu gaethiwed, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio. Os nad ydych wedi eich argyhoeddi, efallai y gallech ofyn i chi'ch hun, os oedd y rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio, pam na ddaeth i ben genedlaethau yn ôl. 

I ddychwelyd at yr ystadegau, nid yw'r darlun yng Nghymru cynddrwg ag mewn rhannau o Loegr, yn ôl ystadegau diweddaraf 2020. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofnododd Cymru ei chyfradd isaf o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau ers 2014. Roedd y gyfradd o 51.1 o farwolaethau ym mhob miliwn o bobl hefyd yn is na chyfradd Lloegr o 52.1 o farwolaethau ym mhob miliwn. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol gafeat pwysig wrth ryddhau'r ffigurau hyn, sef y gallai oedi yn y broses o gofrestru marwolaethau yng Nghymru fod wedi effeithio ar y ffigur. Fodd bynnag, ddegawd yn unig yn ôl, roedd gan Gymru gyfradd genedlaethol o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau a oedd yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Felly, efallai fod marwolaethau cyffuriau i lawr yng Nghymru ar ôl cyrraedd uchafbwynt erchyll, ond maent yn dal i fod yn rhy uchel. A yw'n bosibl y gallai ymagwedd wahanol gynhyrchu canlyniadau gwell? A allai ymagwedd wahanol leihau nifer y marwolaethau, lleihau'r defnydd o gyffuriau a lleihau'r dylanwad niweidiol a gaiff gangiau cyffuriau ar ein cymunedau yng Nghymru?

Mae un o'r enghreifftiau rhyngwladol mwyaf syfrdanol o ymarfer da i'w gweld ym Mhortiwgal. Roedd problem gyffuriau ddifrifol iawn yn arfer bodoli yno. Yn y ddau ddegawd ers iddynt ddad-droseddoli cyffuriau, maent wedi lleihau nifer y marwolaethau'n sylweddol yn ogystal â'r niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Yn sgil y penderfyniad ymwybodol hwn i ddatblygu dull o weithredu ar sail iechyd, caiff y rhai sy'n cael eu dal gyda chyffuriau at ddefnydd personol yn eu meddiant eu trin yn weinyddol yn hytrach na'u dedfrydu i garchar. Golyga hyn nad yw'n arwain at gofnod troseddol. Mae cyffuriau'n dal i gael eu cymryd oddi arnynt, a gall meddiant arwain at ddirwy neu wasanaeth cymunedol yn y pen draw. Pa mor fuddiol y gallai ymagwedd o'r fath fod yma yng Nghymru, lle mae gennym rai o'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop?

A pha mor effeithiol y bu'r polisi ym Mhortiwgal? Fel y nododd gwefan Transform mewn erthygl ddiweddar ym mis Mai eleni, ac rwy'n dyfynnu,

'Yn 2001, roedd cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn debyg iawn i gyfartaledd yr UE. Tra bod cyfraddau wedi gostwng ym Mhortiwgal yn sgil diwygio, cynyddu a wnaethant ar draws gweddill Ewrop yn yr un cyfnod o amser. O 2011 ymlaen mae Portiwgal a gweddill yr UE wedi dangos tueddiad tebyg, gan godi tan 2015/6—ond mae'r bwlch rhwng y ddau'n parhau i fod yn llawer mwy na'r hyn ydoedd cyn y diwygio. Mewn termau real, mae cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn parhau i fod ymhlith rhai o'r isaf yn yr UE: 6 marwolaeth ym mhob miliwn ymhlith pobl 15-64 oed, o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 23.7 y miliwn (2019). Mae bron iawn yn amhosibl eu cymharu â'r 315 o farwolaethau y miliwn ymhlith rhai rhwng 15 a 64 oed a welwyd yn yr Alban, sydd dros 50 gwaith yn uwch na chyfraddau Portiwgal.'

Diwedd y dyfyniad. Nid yw'n syndod fod gwledydd a rhanbarthau eraill ledled y byd yn dechrau sylwi ar y gwersi y gellir eu dysgu gan Bortiwgal.

Nid wyf am i'r ddadl fer hon fod am gyffuriau anghyfreithlon yn unig, pan fo alcohol yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymunedau a theuluoedd ledled Cymru. Byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am alcohol pan fo ystadegau wedi awgrymu'n flaenorol fod oddeutu 10 o bobl yn marw bob wythnos yng Nghymru o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol. Amcangyfrifir hefyd fod oddeutu 60,000 o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru oherwydd alcohol, gan gostio tua £159 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Gyda'r GIG yn gwingo o dan y pwysau, rhaid bod dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael ag effeithiau andwyol camddefnyddio alcohol yn flaenoriaeth. Rwyf am inni gyrraedd sefyllfa lle mae pobl sy'n cymryd y cam dewr o ofyn am gymorth i oresgyn caethiwed, boed ar gyfer cyffuriau neu ar gyfer alcohol, yn gwybod y bydd cymorth cynhwysfawr ar gael pan fydd ei angen arnynt.

Nid wyf yn esgus fod yr holl atebion gennyf—nid wyf yn credu bod unrhyw un yn meddu ar yr holl atebion—ond hoffwn ddechrau trafodaeth yma heddiw ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn fwy effeithiol a sicrhau bod pobl sy'n gaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Rwyf am i'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol am gynorthwyo'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau ddod at ei gilydd yn rheolaidd i siarad am eu problemau a'u sylwadau gydag Aelodau o'r Senedd. Dyna pam rwy'n mynd ati i ddechrau grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau fel y gallwn ddatblygu arferion gorau. Rwyf wedi cael cefnogaeth asiantaethau allweddol fel Kaleidoscope eisoes, ond rwy'n gobeithio y bydd llawer o sefydliadau a ffigurau eraill yn ymuno â ni. Rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth mwy na dau Aelod o'r Senedd o wahanol bleidiau i ffurfio'r grŵp trawsbleidiol; rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy ohonoch yn ymuno.

Yr hyn yr hoffwn i a fy mhlaid ei weld yw datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru yn y pen draw, a phan fydd hynny'n digwydd, ein bod yn llunio system sy'n dosturiol, yn lleihau niwed ac yn rhyddhau'r gafael sydd gan lawer o gangiau troseddol ar y gwan a'r bregus yn ein cymunedau. I'r perwyl hwnnw, rwy'n gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth chi, Weinidog, i ymgysylltu â'r grŵp hwn a datblygu polisi sy'n ceisio cyflawni'r nodau hyn a dechrau sgwrs ehangach sy'n arwain at ddull mwy effeithiol o fynd i'r afael â cham-drin sylweddau, camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar sylweddau. Diolch yn fawr.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:49, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl fer hon, a gallaf gadarnhau y byddaf yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'i grŵp trawsbleidiol. Mae Peredur yn iawn; nid yw'r rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio ac nid yw erioed wedi gweithio. Rydym wedi bod ar y groesffordd hon ers dros bedwar degawd. Y gwir amdani yw bod ein hanallu i gael sgwrs aeddfed am gyffuriau wedi arwain at ddioddefaint yn fyd-eang—dioddefaint defnyddwyr, dioddefaint cymunedau wedi'u chwalu gan asiantaethau'r Llywodraeth a chartelau troseddol sy'n ymladd am bŵer dros y farchnad.

Rwy'n llwyr gefnogi dad-droseddoli'r defnydd o gyffuriau. Mae'r dull llym o weithredu a fabwysiadwyd gennym fel cymdeithas ers degawdau yn troseddoli pobl a allai fod yn defnyddio cyffuriau'n feddyginiaethol neu fel adloniant heb niweidio eraill, ac nid yw troseddoli'r rhai sy'n gaeth yn gwneud dim i'w helpu i newid eu bywydau. Mae'n bwysig cofio nad yw dad-droseddoli yn cyfreithloni unrhyw gyffur. Yn hytrach, mae'n newid y modd y mae awdurdodau'n ymdrin â mân achosion o feddiant cyffuriau ac yn trin defnyddwyr fel rhai a allai fod yn fregus, yn hytrach na fel troseddwyr. Mae dad-droseddoli cyffuriau yn dileu'r stigma hwnnw ac yn cael cymorth i bobl pan fyddant fwyaf o'i angen.

Mae gennym enghreifftiau megis Portiwgal, fel y nododd Peredur, sy'n dangos i ni sut y gallwn wneud i hyn weithio. A gwyddom yn union beth sydd ei angen i wneud iddo weithio. Ac unwaith eto, hoffwn ailadrodd y bydd Plaid Cymru yn cefnogi ac yn galw am ddatganoli rhagor o bwerau cyfiawnder fel y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon yn awr. Mae angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae mor syml â hynny. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:51, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Ystadegau diddorol iawn o Bortiwgal, ond nid wyf yn argyhoeddedig ein bod yn y wlad hon yn carcharu pobl am ddefnyddio cyffuriau mewn gwirionedd; rwy'n credu ein bod yn carcharu pobl am ddelio cyffuriau. Ac rwy'n parhau'n ymrwymedig i wneud hynny, yn syml oherwydd mae'r niwed a wneir i'n pobl ifanc drwy eu tynnu i mewn i'r llinellau cyffuriau a dinistrio eu bywydau yn llwyr yn niweidiol tu hwnt. Ac felly nid wyf wedi fy argyhoeddi eto ynglŷn â'r achos dros ddad-droseddoli.

A tybed a yw'n mynd i fod yn fwled hud beth bynnag, oherwydd mae caethiwed yn symptom o drallod. Nid oes llawer o wahaniaeth rhwng dibyniaeth ar gamblo, ar alcohol, ar gyffuriau presgripsiwn, ar bornograffi neu ar sylweddau sy'n anghyfreithlon ar hyn o bryd. Mae pob un ohonynt yn alwad am help, ac mae'n ymwneud â deall yn well sut y gallwn gael unigolion yn fwy gwydn yn emosiynol i'w galluogi i wrthsefyll y caethiwed sy'n peri iddynt geisio boddi eu tristwch ond sy'n gallu difa eu bywydau, yn llythrennol, a bywydau aelodau o'u teuluoedd hefyd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni sicrhau bod gennym wasanaethau i helpu pobl i oresgyn eu caethiwed, sy'n gwbl bosibl. A chredaf y dylem dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n gweithio gyda phobl gaeth o bob math i sicrhau eu bod yn gallu dod yn ddinasyddion gwell a byw bywydau gwell.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:53, 6 Hydref 2021

Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—Lynne Neagle. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am ei gyfraniad meddylgar iawn, a diolch hefyd i Luke Fletcher a Jenny Rathbone am eu cyfraniadau, a chadarnhau hefyd i Peredur fy mod yn hapus iawn i ymgysylltu â'i grŵp trawsbleidiol newydd ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef?

Mae'n hanfodol ein bod yn atgyweirio effeithiau dinistriol camddefnyddio sylweddau i'r rhai sy'n ymladd caethiwed os ydym am helpu pobl i fyw bywyd y tu hwnt i hynny. Rhaid inni ddarparu cymorth a thriniaeth, a gweithio hefyd i chwalu stigma a rhoi gobaith i'r rhai a fydd, yng nghrafangau caethiwed, yn teimlo'r anobaith gwaethaf. 

Ers i mi ddod i'r swydd, rwyf wedi cyfarfod â nifer o bobl a sefydliadau sy'n ymwneud â'r maes camddefnyddio sylweddau, ac mae'r gwaith a lefel yr ymrwymiad yn y maes hwn wedi creu argraff fawr arnaf. Yn ystod y pandemig, gwnaed ymdrechion enfawr ac maent yn parhau i gael eu gwneud gan y rhai sy'n rhedeg gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i sicrhau bod cymorth a chefnogaeth hanfodol yn parhau i gael eu darparu i rai o'r unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi ymateb yn gyflym i addasu i heriau'r pandemig, ac rwyf am gofnodi fy niolch i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector am yr ymdrech aruthrol hon.

Diwygiwyd ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22 ym mis Ionawr, yng ngoleuni coronafeirws, i sicrhau bod y gwaith a gâi ei wneud ac sy'n parhau i gael ei wneud yn cyrraedd y lefel o angen sy'n esblygu. Mae ein byrddau cynllunio ardal a phartneriaid eraill yn ymdrechu i gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun, ac rwyf wedi ymrwymo i'w cefnogi i wneud hynny. Ac mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o ymrwymiad i'r maes. Rydym yn buddsoddi bron i £55 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau bob blwyddyn. Dyrennir dros £25 miliwn ohono i'n byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau ac mae bron i £21 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer helpu byrddau yng Nghymru. Mae byrddau cynllunio ardal yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol i gomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn eu hardal leol, yn seiliedig ar angen lleol.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 5:55, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Yn 2020-21, gwnaethom sicrhau hefyd fod bron i £4.8 miliwn arall ar gael i gefnogi ein hymateb i'r pandemig. Roedd dros £3 miliwn ohono i gefnogi darparu buprenorffin chwistrelladwy hirweithredol cyflym, neu Buvidal fel y'i gelwir, i gyn-ddefnyddwyr heroin mewn perygl, rhywbeth y byddaf yn sôn amdano yn nes ymlaen. Roedd y gweddill yn cynnwys cyllid i gefnogi gofynion cyfarpar diogelu personol, lleoliadau adsefydlu preswyl ychwanegol a chronfa cynhwysiant digidol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a allai fod wedi eu hallgáu'n ddigidol.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi diogelu a gwella'r gyllideb camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ac ni ellir dweud yr un peth am Lywodraethau mewn rhannau eraill o'r DU. Cyhoeddwyd adolygiad y Fonesig Carol Black o wasanaethau triniaeth yn Lloegr ym mis Gorffennaf, ac fel yn Lloegr, rydym eisoes wedi bwrw ymlaen ymhell ar lawer o'i hargymhellion. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau, rwy'n falch o ddweud, wedi'i wreiddio'n gadarn o fewn dull sy'n canolbwyntio ar iechyd a lleihau niwed. Rydym hefyd wedi diogelu ac wedi clustnodi ein cyllid camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r maes tai ac ar draws iechyd meddwl i fynd i'r afael â her anghenion sy'n cyd-ddigwydd ac anghenion cymhleth.

Ar yr agenda sy'n cyd-ddigwydd, gydag iechyd meddwl a llesiant ehangach yn fy mhortffolio, rwy'n glir fod cyfleoedd da ar gael i barhau i wella drwy gydweithio yma ac ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n benderfynol o wneud yr hyn a allaf i gyflawni hynny.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth inni adeiladu ar y llwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau ymagwedd 'pawb i mewn' wrth ymdrin â digartrefedd, ac y gellir darparu cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau cofleidiol. Roedd hwn yn ymgymeriad enfawr, a oedd yn cynnwys dros 2,000 o bobl ar y dechrau, gyda dros 800 angen gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, a hynny yn ystod misoedd cyntaf y pandemig yn unig. Roedd rhai o'r rhain yn newydd i wasanaethau a chanddynt yr anghenion mwyaf cymhleth.

Mae cyfanswm o dros 13,300 o bobl wedi'u cartrefu ers dechrau'r pandemig, gyda dros 3,000 o atgyfeiriadau at wasanaethau camddefnyddio sylweddau. Rwy'n falch iawn o'n gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r bobl fwyaf bregus, ac rydym wrthi bellach yn datblygu'r dull ailgartrefu cyflym ar gyfer y dyfodol. Rydym eisoes wedi buddsoddi £1 filiwn ychwanegol y flwyddyn i fynd i'r afael ag anghenion cymhleth, ym maes camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl fel ei gilydd, ar gyfer unigolion o fewn y gwasanaethau digartrefedd.

Mae cyflwyno Buvidal, y soniais amdano'n gynharach, wedi lleihau'n sylweddol yr angen i ddefnyddwyr gwasanaeth fynychu fferyllfeydd a chlinigau cymunedol, gan ddiogelu eu hiechyd hwy ac iechyd gweithwyr allweddol. Mae dros 1,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth bellach yn elwa o'r driniaeth hon, a cheir cryn dipyn o dystiolaeth anecdotaidd fod nifer yn profi canlyniadau llawer gwell.

Yng Nghaerdydd, gwelsom y person cyntaf yn y DU yn cael y cymorth hwn drwy eu meddygfa, ac mae Cymru'n arwain y DU, os nad y byd, gyda'r driniaeth newydd arloesol hon. Cefais gyfle yn ddiweddar i gyfarfod â menyw ifanc a oedd wedi elwa o'r driniaeth hon, a chlywais yn uniongyrchol am yr effaith gwbl drawsnewidiol a gafodd arni hi. Mae adolygiad cyflym ar y gweill o'r driniaeth newydd hon, ei manteision a'i gwerth am arian, ar gyfer llywio polisi yn y dyfodol.

Er bod hyd yn oed un farwolaeth sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn drasiedi ac yn un yn ormod, fe'm calonogwyd i weld bod data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mis Awst 2020, y cyfeiriodd Peredur ato eisoes, yn nodi'r gyfradd isaf ers 2014 o farwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru. Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld nifer y marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yn gostwng yn ystod 2020. Er ei bod yn braf gweld nifer y marwolaethau'n gostwng, byddwn yn gwerthuso'r ystadegau ar gyfer Cymru, gan ystyried ffactorau daearyddol, sylweddau a sefyllfaoedd, a byddwn yn gweithio'n agos gyda grwpiau lleihau niwed a byrddau cynllunio ardal er mwyn ffurfio ymateb polisi priodol i sicrhau gostyngiad pellach parhaus yn y dyfodol.

Rhan allweddol arall o'n hagenda lleihau niwed yw ein menter nalocson genedlaethol, lle'r ydym wedi gwneud cynnydd rhagorol. Datblygiad pwysig mewn perthynas â nalocson yw'r gwaith a wnawn gyda'r heddlu i alluogi swyddogion i gario chwistrell trwyn nalocson tra ar ddyletswydd. Rydym hefyd wedi ariannu cynllun peilot lle'r oedd defnyddwyr cyffuriau'n dosbarthu nalocson i'w gilydd ar y strydoedd. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae wedi arwain at ystyried ailadrodd y model ym mhob rhan o Gymru.

Rydym yn dyrannu £1 filiwn o gyllid blynyddol wedi'i glustnodi ar gyfer darparu gwasanaethau adsefydlu a dadwenwyno preswyl haen 4. Ym mis Ebrill 2020, lansiwyd ein fframwaith triniaeth breswyl newydd, Rehab Cymru, sy'n cynnig dros 30 o leoliadau, gan gynnwys tri yng Nghymru. Mae Rehab Cymru yn darparu rhestr gymeradwy o ddarparwyr gwasanaethau adsefydlu preswyl a'r gallu i weld mathau o driniaeth, rhestri prisiau, lleoliadau ac adroddiadau arolygu er mwyn helpu defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol i ddewis. Ers cyflwyno ein fframwaith adsefydlu preswyl, gwnaed cyfanswm o 238 o atgyfeiriadau drwy Rehab Cymru, rhwng ei ddechrau ym mis Ebrill 2020 a mis Gorffennaf 2021.

Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod data dros dro ar farwolaethau sy'n deillio'n uniongyrchol o gamddefnyddio alcohol yn ystod 2020 yng Nghymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021, yn dangos cynnydd sylweddol. Efallai fod llawer o ffactorau wedi cyfrannu at hyn, ac rydym yn ystyried y rheini. Fodd bynnag, tra'n bod yn aros am y ffigurau terfynol, rwy'n gobeithio y gallwn fynd i'r afael yn fwy effeithiol â'r broblem drwy weithredu isafbris uned ar gyfer alcohol, a chamau gweithredu fel datblygu'r fframwaith trin niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol sydd i'w gyhoeddi cyn bo hir.

Er fy mod yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac amlinellu'r gwaith a'r canlyniadau cadarnhaol sy'n cael eu cyflawni, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl; mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Ond rwyf wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth, byddaf yn parhau i ddatblygu ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac wrth gwrs, byddaf yn ystyried beth arall y gallai fod angen inni ei wneud wrth inni barhau i ymateb i'r pandemig a'i effeithiau ehangach. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:01, 6 Hydref 2021

Dyna ddiwedd nawr, felly, ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i bawb, a nos da. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.