2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n galluogi dysgwyr i ddysgu mewn lleoliadau annhraddodiadol? OQ56968
Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi ein hymrwymiad i lwyddiant a llesiant pob dysgwr. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn rhan integredig o'r continwwm addysg. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sydd, am ba reswm bynnag, angen cymorth wedi'i deilwra y tu allan i ysgolion prif ffrwd.
Weinidog, diolch ichi am eich ateb. Mae'n fy atgoffa o ddau fater a godwyd gan drigolion Cymru sydd eisiau cael mynediad at addysg ond na allant wneud hynny. Ceisiodd un preswylydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy wneud cymhwyster addysg ôl-raddedig yng ngholeg Cheshire East, sefydliad lle gall dysgwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gael cyllid i'w fynychu, ond yn anffodus, nid ydym yn cydnabod y cwrs, ac er ei fod ar garreg ei drws, ni allai fynychu'r cwrs oherwydd hynny.
Weinidog, fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o bryderon a godwyd drwy un o ddeisebau'r Senedd—ac rwyf eisiau ei gwneud yn glir yma nad wyf yn siarad ar ran y pwyllgor; rwy'n siarad fel Aelod o'r Senedd. Ond nododd y ddeiseb honno nad yw cyllid ôl-raddedig ond yn gymwys ar gyfer prifysgolion traddodiadol, gan eithrio myfyrwyr sy'n dewis gwneud gradd Meistr mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth drwy ddarparwyr amgen. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi mai'r sefydliad gorau yn aml yw'r un y gall y dysgwr gael mynediad ato, ac na ddylem osod rhwystrau yn ffordd pobl sy'n ceisio cael cymwysterau?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel ym mhob rhan o'r DU—. Mae gan bob rhan o'r DU drefn lle mae darparwyr addysg yn gymwys i gael cymorth drwy'r trefniadau priodol ym mhob un o'r pedair gwlad, ac nid yw'r ffaith bod un sefydliad yn gallu bod yn gymwys yn un o'r gwledydd yn golygu'n awtomatig eu bod yn bodloni'r meini prawf ym mhob un o'r pedair gwlad. Byddai angen iddynt gyflwyno ceisiadau am gydnabyddiaeth mewn unrhyw wlad lle gwneir cais am gyllid. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, CCAUC sy'n gyfrifol am lawer o'r broses mewn perthynas â'r cwestiynau hyn. Ar hyn o bryd, mae angen i ddarparwyr amgen wneud cais am ddynodiad penodol i'w cyrsiau er mwyn i fyfyrwyr o Gymru allu cael cymorth i fyfyrwyr. Pwrpas hynny wrth gwrs yw i ddiogelu'r pwrs cyhoeddus, ond i ddiogelu buddiannau myfyrwyr hefyd, fel y gallwn sicrhau bod y darparwyr yn gallu bodloni'r meini prawf perthnasol er budd y myfyrwyr eu hunain. Os oes unrhyw fyfyriwr unigol yng Nghymru yn pryderu am statws cwrs y gallent fod â diddordeb ynddo, byddwn yn argymell mai'r cam cyntaf yw cysylltu â darparwr y cwrs i wirio y bydd cymorth i fyfyrwyr ar gael cyn derbyn y lle hwnnw. Dyna'r adeg pan fydd modd gofyn unrhyw gwestiynau a allai godi.
Hoffwn ddiolch i Mr Sargeant hefyd am godi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma. Fel y gwnaethoch ei gydnabod, Weinidog, i rai dysgwyr, nid dysgu traddodiadol mewn ysgolion yw'r dewis gorau iddynt bob amser. Mae llawer o bobl ifanc yn aml yn ffynnu mewn lleoliadau anhraddodiadol, sy'n eu galluogi i symud i fyny'r ysgol addysgol ar eu cyflymder eu hunain, a chanolbwyntio efallai ar feysydd diddordeb penodol sy'n fwy addas ar eu cyfer, ac yn wir, yn fy mhrofiad fy hun, roeddwn yn rhywun a addysgwyd gartref hyd at oedran ysgol uwchradd, a gwn o lygad y ffynnon pa mor dda y gall rhai lleoliadau anhraddodiadol weithio i rai teuluoedd. Efallai fod y canlyniad yn amheus yn fy achos i yma, ond yn sicr, roedd y profiad o fudd i fy nheulu. Ond wrth gwrs, mae llawer o'r cyfleoedd a gyflwynir gan leoliadau anhraddodiadol yn seiliedig ar ddewis rhieni. Felly, Weinidog, sut y byddwch yn parhau i gefnogi rhieni i allu dewis y lleoliad cywir i'w plant ddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol?
Wel, yng nghyd-destun y cwestiwn y mae'n ei godi am addysg ddewisol yn y cartref—ac rydym yn cydnabod y ffordd wylaidd y mae'n cyflwyno manteision hynny, rwy'n credu—hoffwn atgoffa'r Aelod, o bob un o'r pedair gwlad yn y DU, Cymru sy'n darparu'r cymorth mwyaf hael i'r gymuned addysg ddewisol yn y cartref. Mae'r cyllid ar gyfer y lefel honno o gymorth y flwyddyn hon oddeutu £1.7 miliwn. Fel y gŵyr, yn y Senedd flaenorol, cafwyd ymgynghoriad ar gyflwyno newidiadau i'r trefniadau rheoleiddio mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref er mwyn cefnogi awdurdodau lleol a'r gwaith y gallant ei wneud gyda rhieni sy'n dewis addysgu gartref. Rwy'n glir yn fy meddwl bod angen i hynny fod yn rhan o gynnig ehangach sy'n gallu cefnogi addysgwyr yn y cartref yn y ffordd y mae'n disgrifio, ac rwy'n falch iawn fod Cymru'n arwain y ffordd ar draws y DU gyda'r ddarpariaeth honno.