9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:15, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl ni i gyd mewn sawl ffordd wahanol iawn. Fel y mae Jack Sargeant wedi nodi, mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae'n dda, ar rai dyddiau nid yw cystal. Rydym wedi gweld bod rhai pobl wedi teimlo'n bryderus ac ynysig ac ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud a rhai pobl hefyd yn bryderus ynglŷn ag ailymuno â chymdeithas wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi. I rai, gwyddom fod y pandemig yn gyfle i ailgysylltu â chymunedau, wrth i gymdogion gefnogi ei gilydd, ac wrth i deuluoedd allu treulio mwy o amser gyda'i gilydd. Dyna pam, er bod effaith COVID yn debygol o fod yn niweidiol, ei bod yn hanfodol inni ddeall yr effaith ar rai grwpiau mewn mwy o fanylder.

Rydym yn parhau i gryfhau'r trefniadau a roddwyd ar waith ar ddechrau'r pandemig. Mae ein cymorth dadansoddi yn tynnu sylw at y dystiolaeth a'r canlyniadau diweddaraf o arolygon poblogaeth yng Nghymru a ledled y DU. Rydym wedi sefydlu bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl, a gadeirir gennyf fi'n bersonol. Mae'n rhoi mwy o sicrwydd i mi am y cynnydd a wneir ar gyflawni ein rhaglen waith iechyd meddwl, ond hefyd mae'n rhoi cyfle imi herio os teimlaf nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud neu nad yw pethau'n cael eu gwneud yn ddigon cyflym. Yn bwysig iawn, mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi i gryfhau ein cymorth dadansoddol.

Mae dadansoddi'n dangos, er bod lefelau pryder wedi aros yn uwch nag yr oeddent cyn y pandemig, ein bod wedi gweld amrywiadau, ac yn ddealladwy, mae lefelau pryder wedi gostwng wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Mae agweddau ar iechyd a llesiant personol, pryder am iechyd a llesiant pobl eraill, a chyllid personol i gyd wedi achosi pryderon i unigolion i wahanol raddau yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwyddom hefyd nad yw'r effaith wedi'i theimlo'n gyson ar draws pob grŵp. Dengys ymatebion i arolygon fod rhai grwpiau o bobl, megis rhai â chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, oedolion ifanc, cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rhai ar aelwydydd incwm is a menywod, er enghraifft, yn adrodd am lefelau uwch o bryderon iechyd meddwl nag eraill, ac wedi gwneud hynny drwy gydol y pandemig. Gwyddom fod arolygon gan Gomisiynydd Plant Cymru hefyd yn tynnu sylw at yr effaith ar blant a phobl ifanc.

Ym mis Hydref 2020, diwygiwyd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' mewn ymateb i'r newidiadau hyn a thystiolaeth arall, ac mae bellach yn cynnwys ystod o gamau gweithredu newydd neu gamau gweithredu wedi'u cyflymu i ddarparu cymorth ychwanegol lle mae ei angen fwyaf. Yn fwyaf arbennig, rydym wedi cryfhau ac ehangu ein cynnig haen 0 i ddarparu mynediad agored at ystod o gymorth iechyd meddwl anghlinigol. Gellir cael mynediad at hwn dros y ffôn neu ar-lein ac nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol. Caiff llawer o'r cymorth hwn ei ddarparu gan y trydydd sector, a hoffwn ategu diolch Tom Giffard iddynt, ac maent hefyd mewn sefyllfa mor dda i gyrraedd y cymunedau mwyaf bregus ac sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf ledled Cymru. Gwyddom hefyd, i rai grwpiau, fod goresgyn stigma wrth geisio cymorth iechyd meddwl yn arbennig o anodd. Felly, mae ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys camau gweithredu penodol a oruchwylir gan is-grŵp stigma a gwahaniaethu ein bwrdd partneriaeth cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl. Mae hwn yn cynnwys grŵp gorchwyl a gorffen penodol ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd ar hyn o bryd yn adolygu pa gamau pellach sydd eu hangen i gynorthwyo cymunedau amrywiol i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl.

Mewn perthynas â'r cynnig heddiw, rwyf hefyd yn cydnabod yr angen i gryfhau ein trosolwg mewn ymateb i nifer yr achosion o hunan-niweidio yng Nghymru. Mae ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe yn dangos, er ein bod wedi gweld cynnydd mewn hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc dros y 10 mlynedd diwethaf, fod y niferoedd wedi gostwng ar draws pob oedran yn ystod y pandemig, yn seiliedig ar nifer y derbyniadau i'r ysbyty ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae nifer yr achosion o hunan-niweidio bellach yn debyg i'r lefelau cyn y pandemig. Ond nid wyf yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd. Mae ymddygiad hunan-niweidio yn gymhleth, ac nid yw data derbyniadau'r GIG ond yn un elfen o'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddeall lefelau hunan-niweidio yng Nghymru yn well. Fe wnawn bopeth yn ein gallu i leihau nifer yr achosion o hunan-niweidio. Gallaf gadarnhau bod uned gomisiynu gydweithredol GIG Cymru a Gwelliant Cymru yn sefydlu rhaglen waith i adolygu'r dystiolaeth a'r data i gefnogi ein dulliau o atal hunan-niweidio.

Mewn ymateb i sylwadau Janet Finch-Saunders am gyfraddau hunanladdiad, a gaf fi sicrhau'r Aelod ein bod yn monitro cyfraddau hunanladdiad yn agos iawn fel sy'n digwydd ledled y DU? Mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn awgrymu nad ydym yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad o ganlyniad i'r pandemig, ond nid ydym mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynglŷn â hynny. Dyna pam ein bod yn cyflwyno ffordd o gadw gwyliadwriaeth mewn amser real fel y gallwn—[Torri ar draws.] Ewch chi.