Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch. Yn ddiweddar, mae Esgob Bangor wedi cysylltu â mi ac wedi nodi ei bryderon real, difrifol ynglŷn â nifer y bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yng ngogledd Cymru. Yn fwyaf arbennig, mae wedi tynnu sylw at ddynion ifanc. A yw'n bosibl, felly—? Mae wedi gofyn—roeddwn am ysgrifennu atoch—a fyddech yn ystyried cynnal cyfarfod fel y gallwn drafod y pryderon hynny. Oherwydd os oes clerigwr yn dweud bod problem, yn amlwg, mae'n aelod gweithgar o'r gymuned, a chredaf y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'w bryderon.