1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2021.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am driniaeth canser yng ngogledd Cymru? OQ57026
Llywydd, mae gwasanaethau canser yn y gogledd yn parhau i adfer ar ôl y pandemig. Ym mis Gorffennaf eleni, er enghraifft, dechreuodd 374 o gleifion driniaeth canser ddiffiniol, ac mae hynny 114 yn fwy nag ym mis Gorffennaf y flwyddyn gynt.
Diolch, Prif Weinidog, ac mae'n ddrwg gen i y bu'n rhaid i mi godi hyn gyda chi heddiw, ond dyna faint fy mhryderon. Prif Weinidog, mae amseroedd aros gwasanaeth diagnostig a therapi y GIG ar gyfer mis Gorffennaf eleni yn dangos cynnydd o un ar ddeg gwaith i nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am un o saith prawf allweddol a ddefnyddir i wneud diagnosis o ganser, ac yn syfrdanol, nid yw traean o gleifion yn rhanbarth Betsi Cadwaladr yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gyntaf o fod â chanser. Rwyf i wedi cael sioc fawr yn ddiweddar o glywed am rai o fy etholwyr i a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darganfod eu bod nhw'n cael gwybod, ar rai achlysuron, am ddiagnosis canser ofnadwy sy'n newid bywydau, dros y ffôn yn hytrach na thrafodaeth bersonol wyneb yn wyneb, ac mae hyn wedi achosi llawer o bryder pellach i fy etholwyr i. Hyd yn oed yn fwy gofidus, rwy'n gwybod am un etholwr, yn dilyn diagnosis o ganser angheuol cam 4, na chafodd wybod hyd yn oed am yr opsiynau triniaeth a oedd ar gael ar adeg y diagnosis hwn, gan glywed yn hytrach y bydd atgyfeiriad yn cael ei wneud rywbryd yn y dyfodol i Wrecsam neu Lerpwl. Roedd hynny tan i mi gyfathrebu sawl gwaith ar ei ran.
A wnewch chi ddod at gwestiwn nawr, Janet Finch-Saunders?
Gallaf, wrth gwrs.
Ochr yn ochr ag oedi cyn gwneud diagnosis, ceir bwlch sy'n peri pryder rhwng diagnosis a chael y driniaeth honno. Felly, pa gamau, Prif Weinidog, wnewch chi eu cymryd i sicrhau eich bod chi'n cau'r bwlch hwnnw rhwng diagnosis ofnadwy o ganser a'r opsiynau triniaeth sydd ar gael i'r rhai y mae'n effeithio arnyn nhw? Diolch, Llywydd.
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y byddwch chi'n deall, nid wyf i byth mewn sefyllfa i wneud sylwadau am gyfarfodydd unigol rhwng clinigwyr a'u cleifion. Rwy'n credu bod dau bwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn eu gwneud yr hoffwn i roi sylw iddyn nhw. Mae hi'n iawn bod gwasanaethau diagnostig o dan bwysau aruthrol. Roeddem ni'n poeni ar lawr y Senedd yn ystod y pandemig am yr oedi cyn i bobl ddod ymlaen i roi gwybod i glinigwyr am eu cyflyrau. Diolch byth, rydym ni wedi cael rhywfaint o effaith ar hynny ac mae mwy o bobl yn dod yn eu blaenau, ond, wrth gwrs, pan fyddan nhw'n dod yn eu blaenau yn y niferoedd hynny, mae'n anochel ei fod yn rhoi systemau diagnostig dan bwysau. Bydd hi'n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo achos busnes yn ddiweddar i dreialu tair canolfan diagnosis cyflym—un ym mhob un o'i dri phrif ysbyty—a'u bod nhw wrthi bellach yn recriwtio'r nyrsys arbenigol a'r amser radioleg y bydd ei angen arnyn nhw i agor y canolfannau diagnostig hynny yn gynnar, fel y maen nhw'n ei obeithio, yn y flwyddyn newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth i rai o'r unigolion y mae Janet Finch-Saunders wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma.
O ran sut y mae clinigwyr yn cyfathrebu eu diagnosis â phobl, nid wyf i'n credu ei bod hi'n bosibl, yn Siambr y Senedd, wneud rheolau cyffredinol ynghylch y ffordd orau o wneud hynny. Mae angen ei wneud mewn modd sensitif, wrth gwrs, ac mae angen ei wneud gyda budd pennaf y claf yn ganolog iddo. A bydd rhai cleifion, oni fydd, y mae'n well iddyn nhw gael sgwrs gyda'u clinigydd pan fyddan nhw yn eu cartrefi eu hunain, yn hytrach na gofyn iddyn nhw, yn sâl fel y maen nhw, i wneud teithiau anghyfleus i fannau eithaf pell i ffwrdd lle mae llawer o bobl sâl iawn eraill, i gael gwybod yr hyn y gall y clinigydd ei ddweud wrthyn nhw mewn sgwrs yn eu cartrefi eu hunain. Nawr, ni fydd hynny yn addas i bawb, rwy'n deall hynny yn llwyr, ond nid wyf i chwaith yn credu ei bod hi'n iawn dweud, mae'n debyg, y bydd yn well gan bawb wneud y daith honno i aros i weld rhywun i gael gwybod yr hyn y gallen nhw fod wedi cael ei wybod o dan amgylchiadau eraill. Mater i'r clinigydd, ar y cyd â'r claf, yw penderfynu ar y ffordd orau o wneud hynny. Ac mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o ffydd yn ein clinigwyr eu bod nhw'n mynd ati i wneud hynny—maen nhw yn y busnes o drin pobl â chanser, wedi'r cyfan, dyna'r hyn y maen nhw wedi ymroi eu bywydau proffesiynol i'w wneud, a'u bod nhw'n gwneud hynny gan ystyried y sensitifrwydd hwnnw.