5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Natur, bioamrywiaeth a lleoedd lleol ar gyfer natur

– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 12 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:08, 12 Hydref 2021

Yr eitem nawr, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar natur, bioamrywiaeth a lleoedd lleol ar gyfer natur. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud ei datganiad—Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r amgylchedd naturiol yng Nghymru yn sail i'n llesiant. Mae gallu mynd i fyd natur a gweithredu gydag eraill i ofalu am natur o fudd i'n hiechyd meddwl. Mae'r cysylltiad sydd gennym yng Nghymru â'n tir a'n dyfroedd yn rhedeg yn ddwfn yn ein diwylliant. Mae'n ein gwneud ni pwy ydym ni. Er ein bod yn dibynnu ar natur am y cyfleoedd economaidd y mae'n eu darparu a'r amddiffyniad rhag llygredd a pheryglon naturiol, nid yw ein perthynas yn gwbl weithredol. Ni allwn grynhoi gwerth llawn natur ar fantolen ac ni allwn fforddio gadael i'r farchnad rydd benderfynu ar ei ffawd. Mae'r miloedd lawer o bobl ledled Cymru sydd eisoes yn cymryd camau i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn natur yn cael eu hysbrydoli gan awydd i drosglwyddo ein treftadaeth naturiol i gyflwr y gallwn fod yn falch ohono.

Mae datblygu perthynas fwy cynaliadwy â byd natur yn dechrau yn ein cymunedau lleol. Nod y Llywodraeth hon yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau a natur drwy gynyddu'r cyfleoedd i bobl fod yn rhan o weithredu ar y cyd i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Adlewyrchir y dull gweithredu hwn yn yr ystod eang o fentrau newydd yr ydym wedi'u datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ein coedwig genedlaethol, y cynllun ffermio cynaliadwy, ein gofynion sy'n arwain y byd i weithredu draenio cynaliadwy, y flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi i gynlluniau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur, ac eraill. Rydym hefyd wedi ymrwymo yn ystod y tymor hwn i ddatblygu mentrau pellach, gan gynnwys cynllun adfer cynefinoedd arfordirol, parc cenedlaethol newydd, a chefnogi dynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol i adeiladu ar y safonau dŵr ymdrochi uchel a gyflawnwyd ar hyd arfordir Cymru. Rwyf i'n credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio o ran safleoedd tai enghreifftiol i ddatblygu safleoedd adfer natur enghreifftiol, yn enwedig ar draws yr ardaloedd adnoddau natur cenedlaethol a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol'. Nid yw'r camau hyn yn ymwneud â chynnal a gwella ein tirweddau, afonydd a moroedd yn unig, ond mae'n ymwneud â chysylltu cymunedau'n agosach atynt.

Hoffwn dynnu sylw at ddau gynllun arbennig o bwysig yr ydym ni wedi'u datblygu gyda phartneriaid, a byddwn i'n annog pob Aelod o'r Senedd i gymryd diddordeb mawr mewn gweithgareddau sydd ar droed yn eu hardaloedd lleol ac i annog cymunedau i gymryd rhan a llunio'r gweithgareddau hynny yn y blynyddoedd i ddod. Lansiwyd y fenter Rhwydweithiau Natur yn gynharach eleni, a heddiw rwyf wedi cyhoeddi'r 29 prosiect cyntaf i gael cyllid, gan fod o fudd i fwy na 100 o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol. Mae'r prosiectau hyn yn cydnabod natur fel cyfres o rwydweithiau ar dir ac ar y môr y mae angen i ni eu cysylltu a'u tyfu i'w gwneud yn fwy cydnerth. Mae'r prosiectau yr ydym ni'n eu hariannu yn cynnwys cysylltu coetiroedd tameidiog i alluogi rhywogaethau i sefydlu cynefin dros ardaloedd mwy, lleihau llygredd ffosffad mewn afonydd i ddiogelu natur ymhell i lawr yr afon, a gwella cyflwr cynefinoedd i alluogi rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig i gael mwy o ryddid i grwydro—y gylfinir, gloÿnnod byw britheg a maelgwn, er enghraifft. Yn hollbwysig, mae prosiectau'n harneisio egni cymunedau lleol—cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion, cynnwys ysgolion, a darparu sgiliau a chyfleoedd hyfforddi. Yn yr ystyr hwn, mae Rhwydweithiau Natur yn rhwydweithiau ecolegol a hefyd yn rhwydweithiau o bobl sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn gallu cynnal y camau gweithredu hyn ar natur i'r dyfodol.

Yr ail fenter yr hoffwn i dynnu sylw ati yw'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a lansiwyd ar ddechrau 2020 gyda'r nod o gefnogi cymunedau i greu natur ar eu stepen drws, gan weithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol mawr a bach. Er bod Rhwydweithiau Natur yn cyflawni ar raddfa tirwedd, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi mesurau cymedrol a all wneud gwahaniaeth mawr ar lefel gymunedol, gan wella mynediad at natur drwy greu a gwella mannau gwyrdd sydd agosaf at le mae pobl yn byw ac yn gweithio, o dyfu bwyd cymunedol i arferion torri gwair sy'n ystyriol o natur. Er gwaethaf effaith y pandemig, roedd ymateb y cyhoedd i'r fenter hon yn aruthrol, a dyblodd maint y cynllun a mwy mewn ymateb i'r galw. Nid yn unig yr ydym ni'n bwriadu cynnal y lefel eithriadol o uchel hon o gyfranogiad y cyhoedd, ond rydym ni eisiau ei chynyddu hyd yn oed ymhellach, a byddwn i'n croesawu cyfraniadau gan Aelodau yma heddiw ynghylch cyfleoedd y maen nhw'n eu gweld i gyflawni hynny.

Yn anffodus, mae ein gallu i gefnogi gweithredu hirdymor ar natur wedi'i danseilio gan gamreoli cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth y DU. Drwy fethu â darparu cyllid amlflwydd, a methu â rhoi cyllid yn lle'r cyllid a gawsom yn y gorffennol gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi gweithio yn erbyn adfer natur yng Nghymru. Gobeithio y bydd pob Aelod yn y Siambr heddiw yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu setliad ariannu amlflwydd i Lywodraeth Cymru yn yr adolygiad nesaf o wariant, i'n galluogi ni i ddarparu cyllid amlflwydd i'n partneriaid a'n cymunedau, fel y gellir cynyddu effaith y camau y mae cymunedau Cymru yn eu cymryd ar natur hyd yn oed yn fwy. O'i rhan hi, mae Llywodraeth Cymru yn barod i lansio cynlluniau amlflwydd, gan gynnwys Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a all roi mwy o sicrwydd a llinell derfyn hirach ar gyfer cynllunio i'r rhai yr ydym yn eu hariannu, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hirdymor yr ydym yn eu datblygu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a thrwy ein hymgysylltiad â'r trydydd sector.

Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau hefyd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ei haddewid i sicrhau na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac i ddarparu cyllid newydd llawn yn lle cyllid ar gyfer datblygu gwledig yr UE a rhaglenni LIFE yr UE. Eleni yn unig, mae Cymru ar ei cholled o ddegau o filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn natur ac yng nghefn gwlad Cymru. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a natur, ac ar drothwy uwchgynadleddau byd-eang ar yr hinsawdd a natur, gan gynnwys COP26 yn Glasgow, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod pa mor frys yw'r sefyllfa a gwrthdroi ei phenderfyniad i amddifadu Cymru o'r buddsoddiadau hollbwysig hyn yn llesiant ein cymunedau. Mae'r wythnos hon yn nodi dechrau COP15, y confensiwn byd-eang ar amrywiaeth biolegol, sy'n bwriadu cytuno ar gyfres newydd o nodau ar gyfer adfer natur dros y degawd nesaf. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r targed 30x30, a gynigir i'w drafod yn COP15, i ddiogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Cymru a'r Senedd i ddatblygu ein dull o gyflawni'r nod hwn. Bydd hyn yn gofyn am weithredu strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol, a dim ond Llywodraeth Cymru, gan weithio'n agos gyda'r Senedd, sy'n gallu cyflawni hyn. Bydd cyflawni'r nod hwn hefyd yn gofyn am weithredu ar y cyd ym mhob cymuned yng Nghymru, lle gall mentrau fel Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur greu cyfleoedd i bobl gydweithio i ddiogelu a gwella ein treftadaeth naturiol, ac yn sgil hynny, ein hiechyd meddwl a'n llesiant ehangach. Diolch.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:14, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Gweinidog, am y datganiad amserol hwn a'r llond arch Noa o weithgareddau a gyhoeddwyd gennych yn gynharach. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol i ni i gyd wybod mwy am y 29 prosiect, ond rwyf yn croesawu'r ffaith bod bron i 70 rhywogaeth a 50 math o gynefinoedd i'w gwarchod nawr. Gofynnaf i chi a ydych chi'n cytuno â mi y byddai'r 29 prosiect hyd yn oed yn fwy cyffrous pe gallem ddeall mwy am sut y byddan nhw'n cyfrannu at gyrraedd targed penodol a bennwyd gennym ni. Bedair wythnos ar ddeg ar ôl datgan argyfwng natur, ni fu unrhyw gamau hyd yma i weithredu ar alwadau'r Senedd hon i gyflwyno gofyniad wedi'i rwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Felly, a wnewch chi gytuno, Gweinidog, i gyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth a rhoi'r targedau hynny mewn cyfraith? Mae'n amlwg ein bod i gyd yn cefnogi diogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030. 

Nawr, rwy'n ymwybodol eich bod wedi dechrau rhoi grŵp cynghori technegol at ei gilydd i helpu i ddatblygu strategaethau allweddol. Erbyn pryd ydych chi'n bwriadu cael cynlluniau drafft yn barod i ni eu dadansoddi? Ac un cynllun, wrth gwrs, a gyhoeddwyd eisoes yw 'Tyfu Gyda'n Gilydd: Strategaeth ar gyfer cynyddu gorchudd coed yng Nghymru' NFU Cymru. Felly, ochr yn ochr â'n hatgoffa ni o'u nod uchelgeisiol o gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net ar gyfer amaethyddiaeth erbyn 2040, mae'n amlygu i bawb, cymaint y mae ein ffermwyr yn rhan o'r ateb. Gyda dros 80 y cant o'r tir yng Nghymru yn cael ei reoli gan ein ffermwyr, ffermio sy'n cynnig y cyfle mwyaf o ran y tir sydd ar gael ar gyfer plannu coed newydd. Fodd bynnag, a wnewch chi ymrwymo i weithio i sicrhau y bydd cynlluniau ar gyfer creu coetiroedd yn y dyfodol hefyd yn gwobrwyo ffermwyr i ddarparu ystod eang o fanteision cyhoeddus o'r tir, er enghraifft trwy blannu gwrychoedd, lleiniau cysgodi, coridorau nentydd, a diogelu a gwella dalfeydd carbon pwysig eraill, fel priddoedd, mawndiroedd a glaswelltir?

Hyd yma, rydym wedi gwastraffu'r cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar lywodraethu amgylcheddol, gyda'r Alban a'r DU bellach yn ein goddiweddyd o ran diogelu'r amgylchedd. Felly, er fy mod yn gwybod eich bod wedi ymrwymo i gyflwyno trefniadau llywodraethu addas i Gymru, pam aros i'r Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol wneud datganiad ar raglen ddeddfwriaethol y flwyddyn nesaf? Pe bai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno y tymor hwn, rwy'n siŵr y byddech yn dod o hyd i fomentwm a chefnogaeth sylweddol o bob cwr o'r Siambr hon.

Rwy'n croesawu'r ymateb aruthrol i'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a gallaf ymateb i'ch cais drwy awgrymu y gellid datblygu'r cynllun fel ei fod yn helpu cynghorau tref a chymuned ledled Cymru i dyfu dros eu cymuned drwy gymryd rhan yn Cymru yn ei Blodau 2022. Gall ysgolion gael mynediad rhwydd i hyn i weld yr ardaloedd o amgylch ein heglwysi a'n capeli, yn aml yn fynwentydd, yn dod yn fwy fyth o warchodfeydd natur ac yn lleoedd i orffwys a chofio.

Yn olaf, er fy mod yn awyddus i gydweithredu â chi, rwy'n drist eich bod wedi penderfynu honni bod Llywodraeth y DU wedi gweithio yn erbyn adfer natur yng Nghymru. Fe wyddoch chi yn iawn, Gweinidog, fod Llywodraeth y DU yn rhoi Cymru wrth wraidd yr ymgyrch i ddarparu sero net ac ailgodi'n wyrddach. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau arloesol ar gyfer Cymru, a'r mis diwethaf mae'n rhaid eich bod chi, yn arbennig, wedi bod yn falch iawn o weld bod Llywodraethau'r DU a Chymru wedi cymeradwyo £58.7 miliwn i helpu i sefydlu dinas-ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd ym maes twf carbon isel a'r economi werdd. Felly, a yw eich ymosodiad ar Lywodraeth y DU yn arwydd eich bod nawr yn tynnu'n ôl rhag cydweithredu ar gynlluniau rhagorol, fel y rhaglen carbon isel, neu a ydym ni i gyd yn mynd i barhau i gydweithio dros Gymru, wrth symud ymlaen? Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu'r dull strategol ar y cyd hwn. Maen nhw yn barod; ydych chi, Gweinidog? Diolch. 

Photo of Julie James Julie James Labour 4:19, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Fe wnaf i ddechrau lle y gorffennodd Janet a dweud ein bod ni, wrth gwrs, yn barod i gydweithio â Llywodraeth y DU os mai dim ond nhw oedd yn barod i weithio gyda ni. Soniodd Janet am rai o'r buddsoddiadau y mae'n dweud eu bod wedi'u gwneud ond, wrth gwrs, maen nhw i gyd yn fuddsoddiadau hanesyddol. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yw rhoi cyllid yn lle'r cyllid yr ydym wedi'i golli o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n gwybod hynny cystal â mi hefyd. Byddai'n helpu Cymru'n fawr pe bai'n gallu sicrhau bod y Llywodraeth y mae'n ei chefnogi yn glynu wrth ei haddewid na ddylai Cymru fod ceiniog ar ei cholled o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n gwybod yn iawn nad yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

O ran y pethau eraill y mae hi wedi'u gofyn imi, y targedau rhwymol yr wyf wedi'u trafod droeon eisoes yn y Senedd hon. Wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar dargedau rhwymol. Byddwn ni'n edrych ar hynny yng ngoleuni COP15 a COP26, yng ngoleuni lle mae'r gymuned fyd-eang, ac i sicrhau eu bod yn ymestyn ac yn gyraeddadwy. Felly, byddwn i'n hapus iawn i weithio gydag Aelodau'r Senedd i ddod i gytundeb ynghylch beth ddylai'r targedau hynny fod, a byddwn yn hapus iawn i ymrwymo i'r targedau hynny, oherwydd dyna'n union yr ydym yn ei ddymuno. Rydym eisiau targedau sy'n ymestyn ac yn rhwymol. Ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu gosod yn y cyd-destun cywir ac ar y lefel gywir o ymestyn. Felly, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.

O ran cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno, rwyf wedi cael cyfarfodydd da iawn gyda'r undebau ffermwyr fy hun. Maen nhw wedi bod yn falch iawn o weithio gyda ni. Bydd ein cynllun yn cael ei osod yng nghyd-destun ein cynllun sero-net. Fel y gwyddoch chi, mae gennym ddyletswydd statudol i lunio cynllun o'r fath. Dylai'r cynllun gael ei lunio erbyn mis Rhagfyr, ond byddwn yn ei lunio cyn i ni fynd i COP26, fel y gallwn ei ddefnyddio fel llwyfan ar gyfer ein canolfan yno. Felly, byddwn ni'n cyhoeddi hynny yn yr wythnos ychydig cyn i COP26 ddechrau, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n edrych ymlaen at hynny.

O ran Cymru yn ei Blodau, wrth gwrs rydym ni'n hapus iawn i gefnogi pob un o'r mathau hynny o fentrau. Rwy'n cymeradwyo nifer y grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol, drwy harddu'r trefi lle maen nhw'n byw, ond mewn gwirionedd, yn bwysicach o lawer, eu gwneud yn barod ar gyfer pryfed peillio a rhywogaethau eraill sydd fel arall yn ei chael hi'n anodd. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi gallu gosod nifer o flychau ystlumod, blychau gwenyn, a mathau eraill o bethau ar ei hystadau ac adeiladau'r Llywodraeth, felly rydym yn gweithredu'r un peth ag yr ydym yn gofyn i'n cymunedau ei wneud yn yr ysbryd hwnnw o 'dîm Cymru'.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:21, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau drwy ddweud bod croeso i'r ymrwymiad i 30x30? Mae'n cael ei groesawu'n fawr, Gweinidog. Byddai'n ddefnyddiol cael mwy o fanylion. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd tuag at yr ymrwymiad hwn, os gwelwch yn dda, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer diogelu, adfer a chreu cynefinoedd, ac wrth gwrs yr angen tymor hirach am y gwaith monitro a chynnal a chadw sydd ei angen i gadw'r safleoedd hyn mewn cyflwr ecolegol da? Hefyd, ar y pwynt hwn, bydd sicrhau bod y gweithlu yno i gyflawni'r uchelgeisiau hyn yn hollbwysig, fel y gwn eich bod wedi'i nodi, felly byddwn i'n croesawu mwy o fanylion am y pwynt hwnnw, neu pryd y gallem ni ddisgwyl mwy o fanylion amdano.

O ran y mater ehangach o dargedau sy'n ymwneud â cholli bioamrywiaeth, rwy'n cydnabod bod y dadleuon ynghylch targedau wedi'u hailadrodd droeon. Y rheswm am hynny yw ein bod wedi treulio llawer o amser yn sôn am dargedau bioamrywiaeth dros y misoedd diwethaf, ond mae'r Llywodraeth wedi bod yn petruso rhag ymrwymo, neu'n wir i ddatgelu unrhyw beth ynghylch y pwynt hwn. Mae Cymru, fel gweddill y byd, wedi methu â chymryd camau digonol i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth a diogelu bywyd gwyllt. Rwy'n cydnabod, Gweinidog, fod hyn newydd gael ei drafod eto gan Janet, ac rwy'n nodi yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb hefyd. Roeddwn yn dymuno ychwanegu fy llais at y pwyntiau hyn dim ond i atgoffa'r Siambr eu bod yn rhywogaethau sy'n dirywio yng Nghymru ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o ddiflannu, ac mae rhai rhywogaethau eisoes wedi mynd. Felly, y mwyaf cyflym, mae'n debyg, y gallwn ni weithredu ar hyn gorau oll. Dydw i ddim yn siŵr mai dyna'r ffordd ramadegol orau o'i fynegi ond rwy'n gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr.

Gyda COP15 yn agor yr wythnos hon, mae dros 1,000 o fusnesau wedi cefnogi galwad fyd-eang i Lywodraethau roi polisïau ar waith i wrthdroi colli natur y degawd hwn. Mae prif swyddogion gweithredol cwmnïau, gan gynnwys Unilever a H&M wedi gofyn am dargedau uchelgeisiol, gan ddweud eu bod yn angenrheidiol i sbarduno buddsoddiad a thrawsnewid modelau busnes. A wnewch chi nodi, Gweinidog, yn sgil hyn, pa fath o gamau y gallwn ni eu disgwyl gan Lywodraeth Cymru, ac a wnewch chi amlinellu pryd y bydd modd gweld y llinell amser ar gyfer targedau a chwmpas tebygol y targedau hynny? Rwy'n nodi eto yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb i Janet Finch-Saunders ar y pwynt hwn. Mae'r adolygiad Dasgupta diweddar wedi ailbwysleisio bod bioamrywiaeth yn rhan annatod o iechyd ecosystemau a gallu ecosystemau i ddarparu manteision hanfodol i gymdeithas. Mae colli bioamrywiaeth yn effeithio ar ein system cynnal bywyd. Mae'n galw am sicrhau bod cyllidebau'r Llywodraeth yn cyd-fynd ag anghenion natur, a bod cyllidebau adrannol ar draws sectorau yn sicrhau eu bod yn cyflawni dros natur. Felly, os yw'n bosibl cael mwy o fanylion am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i wireddu'r angen hwn, byddai hefyd yn ddefnyddiol iawn. A wnewch chi amlinellu, yn yr achos hwn, yn olaf, Gweinidog, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i weld natur yn cael ei blaenoriaethu mewn termau ariannol ac i wneud cyllidebau Llywodraeth Cymru yn gydnaws ag anghenion natur? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:24, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch, Delyth. Roeddech chi'n ceisio fy nhemtio, fe wn i, dim ond yn ddiweddar iawn, i gytuno i'r targed 30x30, felly gwyddwn i y byddech chi'n falch iawn ein bod yn ymrwymo iddo heddiw. Mae'n ddrwg iawn gennyf na allwn i ei wneud pan oeddech yn gofyn i mi ei wneud ychydig yn gynharach.

Wrth gwrs, yr hyn y byddwn ni yn ei wneud bryd hynny, mae'n un o'r targedau a gynigiwyd ar gyfer y fframwaith bioamrywiaeth ar ôl 2020—dyna'r broses COP15, a dim ond i atgoffa pawb, gwn eich bod chi eisoes yn gwybod, Delyth, mai dyna'r broses a oedd yn mynd i ddigwydd yn Tsieina ac a gafodd ei gohirio oherwydd pandemig COVID ac mae'n cael ei gwneud drwy ddulliau rhithwir ac yn gydweithredol ledled y byd erbyn hyn. Felly, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chymheiriaid eraill yn y DU, drwy Grŵp Bioamrywiaeth y Pedair Gwlad, i ddatblygu cyfres gyffredin o egwyddorion. Byddwn ni'n ceisio dynodi dynodiadau tirwedd ehangach hyd at y 30 y cant hwnnw. Nid yw'r 30 y cant yn derfyn uchaf, rwyf eisiau—. Nid dyna derfyn ein huchelgais, ond mae'n amlwg yn lle i ddechrau. Rydym hefyd eisiau bod yn siŵr iawn y byddwn yn effeithiol o ran gwella gan ddod â'r tiroedd yr ydym ni eisoes wedi gweithio arnyn nhw yn ôl i gyflwr cadwraeth da. A, Delyth, gwn eich bod yn gyfarwydd iawn â'm sylwadau amrywiol ar wastadeddau Gwent, er enghraifft, ac yn sicrhau bod holl wastadeddau Gwent yn dod yn ôl i gyflwr cadwraeth da. Felly, byddwn ni'n gweithio i edrych ar safleoedd a allai ddod yn brosiectau enghreifftiol, ar gyfer dod â'r gwaith gwyddonol gwirioneddol i sicrhau bod y tir yn ôl i gyflwr cadwraeth natur da, ond efallai'n edrych ar wahanol gyllid, ymgysylltu â'r gymuned, modelau yn debyg i fenter gymdeithasol hefyd, i sicrhau bod gennym fodel cynaliadwy wrth symud ymlaen y gallwn ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, byddwn yn ceisio gweithio gyda phob arweinydd cymunedol, gan gynnwys Aelodau'r Senedd ac eraill ledled Cymru, i sicrhau ein bod yn ymgysylltu ac yn defnyddio, os mynnwch chi, bŵer ein cymunedau yn y grwpiau sydd eisoes ar gael. Rwyf wedi cwrdd â nifer fawr ohonyn nhw yn barod ac maen nhw'n ysbrydoli ac rydym yn sicr eisiau gweithio ochr yn ochr â hynny.

Rydym hefyd yn rhan o broses ymgysylltu Caeredin â dinasoedd is-genedlaethol Llywodraethau, gwledydd bach ac awdurdodau lleol wrth gyflawni'r fframwaith ôl-2020, fel y'i gelwir, dros y degawd nesaf. Pan fyddwn ni wedi cyflawni'r darn hwnnw o waith, yna dyna'r amser i edrych ar y targedau. Felly, rwyf eisiau sicrhau eu bod yn ymestyn targedau. Yng ngoleuni'r gyfres fyd-eang honno o dargedau, rydym eisiau deall i le mae'r byd yn mynd fel y gallwn wthio'r ffiniau. Nid wyf eisiau gosod targedau nawr sydd wedyn yn troi allan i fod yn llai ymestynnol nag y gallen nhw fod, neu yn wir, gymaint mwy ymestynnol fel na allwn ni eu bodloni a bod pobl yn rhoi'r gorau iddi. Mae hyn yn ymwneud â defnyddio natur frys y sefyllfa ond heb fod yn gyngor anobaith, yn enwedig i'n pobl ifanc. Mae pobl yn cyfeirio drwy'r amser at y pryder gwirioneddol y mae pobl ifanc yn ei deimlo ynghylch maint y broblem sy'n ein hwynebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â rhannu'n ddarnau tameidiog, ymestynnol ond cyraeddadwy i sicrhau bod pobl yn deall y gallan nhw chwarae eu rhan a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd. Felly, mae'n bwysig cael y targedau'n iawn. Felly, egwyddor y targedau—derbyniwyd nhw'n llwyr. Y darn o waith yr ydym ni yn ei wneud nawr ochr yn ochr â'r gwahanol brosesau eraill sy'n digwydd yn y byd yw sicrhau ein bod yn cael lefel y targed hwnnw'n iawn. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda phobl ar draws y Senedd, a bydd ei phwyllgorau'n allweddol iawn i'n helpu i gyrraedd y lefel gywir o dargedau.

O ran sut yr ydym ni'n mynd i fwrw ymlaen â'r gweddill, wel, mae gennym ni nifer o bethau'n digwydd ym mhob maes, mewn gwirionedd. Felly, rydym yn ceisio cefnogi prosiectau enghreifftiol; rydym yn gobeithio cefnogi ein grwpiau gwyddonol; rydym yn ceisio casglu cyngor yr ydym yn ei gael gan wyddonwyr amrywiol mewn ffordd dreuliadwy ar gyfer ffurfio polisi, yn union fel y gwnaethom yn ystod COVID, fe ddysgom ni lawer yn ystod pandemig COVID am weithio gyda'n gwyddonwyr, ein peirianwyr a'n pobl ymarferol. Felly, mae'n ymwneud â defnyddio'r mathau cywir o bobl i ddod i grwpiau herio er mwyn i'r Llywodraeth sicrhau ei bod yn rhoi cyngor i ni ond hefyd yn ein herio ni wrth lunio polisïau, ac eto, byddaf yn ceisio cydweithredu â'r Senedd a'i phwyllgorau a chithau i ddod â'r grwpiau hynny o bobl ymlaen a sicrhau eu bod yn addas i'r diben.

A'r unig beth olaf yr oeddwn eisiau ei ddweud oedd bod gennym ni hefyd ddiddordeb mawr mewn deall yr hyn sydd eisoes ar gael yn y cymunedau a sicrhau y gallwn ni eu cefnogi mewn ffordd briodol, nid yn unig gyda chyllid, ond drwy gysylltiadau a llwyfannau polisi.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:29, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn, ac rwyf hefyd yn cytuno ei fod yn amserol iawn. Cytunaf â'r Gweinidog fod angen inni ddatblygu perthynas fwy cynaliadwy â'r byd naturiol a bod y berthynas yn dechrau yn ein cymunedau lleol. Mae angen i bob un o'n cymunedau fod yn rhan o weithredu ar y cyd i ymateb i'r newid hinsawdd ac argyfwng natur. Ni allwn ei adael i rywun arall; gall y rhai ohonom ni sydd â gerddi, blannu coed a chaniatáu i rannau o'n gerddi dyfu'n wyllt. Mae'r rhain yn gamau y gall pob un ohonom ni eu cymryd, neu gall bron pob un ohonom ni eu cymryd, nawr.

Rwy'n croesawu hefyd menter y rhwydwaith natur, gyda'r 29 prosiect cyntaf o fudd i fwy na 100 o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol. Mae'n ddechrau da. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylai pob un ohonom ni sy'n gallu, blannu coed yn ein gerddi, a dylem adael rhywfaint o'n gerddi ni i dyfu'n wyllt? Fy mhrif bryder yw colli prif ysglyfaethwyr fel tylluanod a llwynogod, a fyddai, pe bai'n parhau, yn aflunio'r ecosystem. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder, ac, os felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r prif ysglyfaethwyr hyn? Oherwydd os nad oes gennych brif ysglyfaethwyr, mae gennych anifeiliaid yn is i lawr y gadwyn, fel llygod mawr, a fydd yn tyfu ac yn tyfu ac yn tyfu.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:30, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Mike. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Un o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu ei wneud cyn COP yw edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i gynorthwyo pobl i blannu coed, gan bwysleisio y goeden gywir yn y lle cywir. Felly, i bobl sy'n ddigon ffodus i fod â gerddi sy'n gallu cefnogi coed mawr, gallwn ni sicrhau y gallan nhw wneud hynny a chael cymorth i blannu'r coed hynny fel eu bod yn ffynnu ac yn tyfu. Gallwn hefyd sicrhau bod pobl yn cael gyngor ynghylch beth yw'r math cywir o goeden.

Rydym hefyd—rwy'n dweud hyn wrth fynd heibio—wedi dechrau darn o waith gyda'r diwydiant yswiriant, oherwydd mae gan lawer o bobl yswiriant adeiladau sy'n dweud na ddylen nhw fod â choed o fewn nifer penodol o fetrau o'u tŷ. Nid ydym ni eisiau annog pobl i dorri coed i lawr heb ddeall yn iawn beth mae'r systemau gwreiddiau yn eu gwneud ac ati. Felly, mae'n ymwneud â'r goeden gywir yn y lle cywir at y diben cywir. Felly, byddwn ni'n sicr yn gwneud hynny.

Byddwn hefyd yn cael golwg ar—. Wel, rydym eisoes yn cael golwg ar dir cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau y bydd gan y bobl hynny nad oes ganddyn nhw erddi, y gallu hefyd i fynd i fan lle gallwn ni blannu perllannau cymunedol a mathau eraill o goed a phlanhigfeydd eraill. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y model ar y cyfandir, 'coedwig fach' fel y'i gelwir—coedwig berffaith, bioamrywiol o faint cwrt tennis. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr, yn enwedig ar gyfer ardaloedd trefol, yn yr hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer hynny ac rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan chwilio am safleoedd addas ar gyfer y mathau hynny o fentrau.

O ran y prif ysglyfaethwyr, rydym yn sicr yn pryderu'n fawr bod prif ysglyfaethwyr, yn enwedig adar ysglyfaethus, yn cael eu diogelu ar draws tiroedd Cymru. Felly, mae angen inni weithio gyda'n cymunedau ffermio a chymunedau eraill i sicrhau eu bod yn deall beth yw'r peth iawn i'w wneud i sicrhau bod adar ysglyfaethus yn cael eu diogelu ac yn ffynnu, ac nad ydym yn targedu adar ysglyfaethus ar gam mewn cymunedau ffermio. Rydym wedi gweithio'n galed iawn eisoes ar brosiectau gwirioneddol wych fel—gwn eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef, Mike—prosiect y barcud coch, cyflwyno'r barcud coch, sydd wedi bod yn enghraifft wirioneddol o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd pobl yn gweithio gyda'i gilydd.

Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd—ac nid wyf yn siarad ar ran y Llywodraeth yma, dim ond ar ran fi fy hun—mewn gwaith ailgyflwyno prif ysglyfaethwyr ledled y byd. Mae unrhyw un sydd wedi gweld y prosiect yn Yellowstone i ailgyflwyno'r bleiddiaid yn gwybod beth y gall y prif ysglyfaethwr ei wneud i adfer y dirwedd. Mewn rhannau eraill o'r DU, yn yr Alban, mae afancod wedi'u hailgyflwyno i rai tirweddau. Felly, byddwn ni'n sicr yn ceisio gweithio gyda'n tirfeddianwyr a'n gwyddonwyr a'n pobl natur i ddeall (a) sut i ddiogelu'r prif ysglyfaethwyr sydd gennym o hyd, a (b) lle, os yw'n bosibl, cyflwyno prif ysglyfaethwyr mewn mannau eraill yng Nghymru.      

Photo of Joel James Joel James Conservative 4:33, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr y Gweinidog yn dda, nodwyd bod gan ecosystemau carbon glas botensial enfawr i storio carbon, ac arddangos cyfraddau claddu carbon hyd at 30 gwaith yn uwch na choedwigoedd, sydd, gyda llaw, yn cael cryn sylw anghymesur am eu gallu i storio carbon. Fel y gwyddom ni, mae gan Gymru arfordir hir iawn; mae ganddi fwy na 3 miliwn hectar o gynefin carbon glas, fel morfeydd heli arfordirol a gwelyau morwellt. Gallai eu hehangu nhw ac adfer safleoedd a feddiannwyd gan ffermydd a diwydiant, gynyddu'n aruthrol faint o garbon sy'n cael ei storio a helpu i gyrraedd ein targed carbon yn 2050.

Heb amheuaeth fe fydd y Gweinidog yn gwybod am y cynllun treialu morwellt yn Dale, sir Benfro, lle dangoswyd bod plannu gwelyau morwellt yn cynnig llawer o fanteision yn ogystal â storio carbon, fel cynyddu bioamrywiaeth a helpu i gynnig seilwaith naturiol a chydnerth yn erbyn ymchwydd stormydd. Yn eich araith yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud bod llawer o arian ar gael ar gyfer prosiectau plannu coed yng Nghymru. Heddiw, rydych wedi sôn am eich ymrwymiad i adfywio cynefinoedd arfordirol, a soniodd y Prif Weinidog heddiw hefyd am bwysigrwydd buddsoddi mewn technolegau morol. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried y potensial i forwellt amsugno cymaint mwy o garbon na choed, a all y Gweinidog ymrwymo i flaenoriaethu ecosystemau carbon glas yn ariannol? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:34, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Joel. Rwy'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y rhan y gall yr amgylchedd morol ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r hinsawdd, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sefydlu cynllun wedi'i dargedu ar gyfer adfer cynefinoedd arfordirol morwellt a morfa heli yn nhymor y Senedd hon. Byddwn yn gweithio'n galed i sefydlu prosiect rheoli pysgodfeydd cynaliadwy ar draws portffolios, gan weithio gyda'm cyd-Aelod Lesley Griffiths, gyda dull ecosystem o weithredu, fel y dangoswyd gan y—[Anghlywadwy.]—ddeddfwriaeth newydd, y credaf eich bod yn gyfarwydd â hi, ac a fydd yn dod i rym cyn bo hir. Mae'n amlwg bod angen i ni wneud hyn mewn cydweithrediad â nifer fawr o weithgareddau eraill o amgylch yr arfordir. Mae grŵp gweithredu a chynghori morol Cymru, sy'n fy nghynghori i, yn dechrau datblygu cynllun adfer glas ar gyfer tymor y Senedd nesaf, sy'n canolbwyntio ar weithredu ar gyfer ecosystemau morol cydnerth a'r twf y gallant ei gyflawni, yn union fel y dywedwch, drwy atebion sy'n seiliedig ar natur a datblygiadau yn y gymuned. Felly, rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn wir yn edrych yn union ar hynny. Rydych chi'n llygad eich lle: mae adfer morwellt a morfa heli yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o ddal a rheoli carbon.

Dim ond i ddweud ychydig am y pwynt am goed a wnaethoch chi, mae siarad am goed ychydig bach fel y Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd yn sôn am bandas—y darn eiconig ohono. Nid dyma'r darn pwysicaf o reidrwydd; dyma'r darn mwyaf trawiadol. Felly, rydym ni'n gwbl ymwybodol bod dolydd glaswellt hir, cynefinoedd arfordirol, morfeydd heli, gwastadeddau Gwent, gorgorsydd, mawndiroedd—mae rhestr hir ofnadwy o fathau o dirwedd sy'n dal a storio carbon hefyd. Felly, rwyf eisiau sicrhau pawb, er mai coed yw'r darn eiconig ar y blaen, rydym yn gwbl ymwybodol nad nhw yw'r unig ateb, na hyd yn oed yr ateb mwyaf, mae'n debyg, ond nhw yw'r mwyaf eiconig.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:36, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at ba mor fuddiol yw natur i iechyd meddwl yn ystod eich datganiad, ond rydym hefyd wedi gweld ac fe wnaethoch chi gyfeirio at bryder, ac rydym wedi gweld effaith negyddol yr argyfwng hinsawdd a natur ar iechyd meddwl pobl sy'n byw mewn cymunedau sydd eisoes wedi dioddef effaith y newidiadau hyn ac sy'n ofni dioddef yr un effaith eto. Gwn fod Delyth Jewell wedi codi hyn gyda'r Gweinidog addysg yn gynharach, ond hoffwn weld y pwyslais hwnnw ar y cymorth sydd ar gael a tybed a oes unrhyw gyllid ar gael i gefnogi iechyd meddwl pobl mewn cymunedau sydd mewn perygl fel rhan o gynigion.

Roeddwn hefyd yn falch o glywed yn y datganiad eich bod yn blaenoriaethu cynlluniau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel yr ardal a gafodd ei tharo waethaf gan lifogydd yn 2020, pa gynlluniau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i liniaru llifogydd a pheryglon eraill sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn Rhondda Cynon Taf? A sut gellir grymuso cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf i fod yn rhan o gyflawni cynlluniau o'r fath? Mae llawer o'r camau gweithredu a'r ymateb i adferiad yn dilyn y llifogydd hyd yma wedi'u harwain gan sefydliadau neu awdurdodau yn hytrach na chael eu harwain gan y gymuned, gydag ychydig iawn o gyfathrebu â phreswylwyr neu ychydig iawn o gyfleoedd iddyn nhw fod yn rhan o weithredu ar y cyd. Pryd byddan nhw'n gweld hyn yn newid o'ch datganiad heddiw?

Photo of Julie James Julie James Labour 4:37, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Heledd. Mae'r rheina'n bwyntiau pwysig iawn. O ran y pwynt iechyd meddwl, byddaf yn sicr yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau Jeremy Miles a Lynne Neagle ar draws y Llywodraeth i sicrhau, gan fod gennym gynlluniau adfer natur yn y gymuned, ein bod yn sicrhau bod pobl yn cael eu cysylltu'n ôl â natur. Gwyddom fod y cysylltiad yn ôl â natur yn helpu gydag iechyd meddwl mewn gwirionedd, ac, fel y gwyddoch chi, mae cynllun ar draws y Llywodraeth i edrych ar y math hwnnw o bresgripsiynu cymdeithasol yn ogystal â sicrhau y gall pobl sydd wedi colli eu cysylltiad â natur ei ailddarganfod. Felly, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i ni fwrw ymlaen â rhai o'r materion hynny, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n hapus iawn i wneud hynny hefyd.

O ran rheoli llifogydd yn naturiol, rydym yn buddsoddi tua £3 miliwn dros dair blynedd mewn gwaith rheoli llifogydd fel rhan o'r rhaglen dreialu. Amcangyfrifwn y bydd y rhaglen yn helpu i leihau perygl llifogydd i tua 1,000 o eiddo, ac mae hefyd yn amlwg yn darparu manteision ehangach, fel creu a gwella cynefinoedd a gwella amwynderau cyhoeddus. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu 100 y cant ar hyn o bryd ac mae'n darparu cynllun dysgu rhagorol a fydd yn gwella ein darpariaeth ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol ledled Cymru yn y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym wedi darparu cyllid ar gyfer 15 o brosiectau, sy'n cael eu darparu gan 10 awdurdod rheoli risg gwahanol ledled Cymru. Maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid allweddol, megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Coed Cadw, i sicrhau'r manteision cydfuddiannol hynny. Pan fydd y cynlluniau treialu wedi'u cwblhau, byddwn ni'n gallu dysgu o hynny ac ymgysylltu â'n cymunedau ynghylch lle y dylai'r gyfres nesaf o'r prosiectau fod, gan fy mod yn sicr yn derbyn eich pwynt bod angen i'r cymunedau ymgysylltu'n llawn â'r prosiect yn eu hardal.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:39, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am y datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn cynnwys llawer o bethau y mae gennym yr hawl i edrych ymlaen atyn nhw. Hefyd, rwy'n ddiolchgar iawn ac yn falch o glywed eich ateb i Delyth Jewell yn gynharach yn y sesiwn hon, lle gwnaethoch chi amlinellu'r broses y byddwch yn bwriadu ei defnyddio i ddatblygu targedau; rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol o ran hybu'r rhaglen hon. Ond mae dau beth yr hoffwn i eu codi gyda chi y prynhawn yma: yn gyntaf oll, fy mhryder bod rhywfaint o ddiffyg cydlyniant mewn llawer o'r cynlluniau a'r prosiectau a'r rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu llunio. Mae llawer o bethau da yn digwydd, ac mae llawer o gynlluniau da yn cael eu cyhoeddi, ond rwy'n poeni nad oes y cydlyniant rhwng cynlluniau a fyddai'n sicrhau eu bod mewn gwirionedd yn cyflawni'r uchelgeisiau y gallent fod yn eu cyflawni.

Yr ail beth yw dynodiadau. Adolygodd Llywodraeth Cymru holl egwyddor dynodiadau rai blynyddoedd yn ôl; teimlais fod yr adroddiad yn adroddiad eithaf siomedig. A gwyddom nad yw dynodiadau ar eu pen eu hunain yn arwain at ddiogelu bioamrywiaeth, neu'n sicr mae ganddyn nhw hanes cymysg iawn wrth wneud hynny. Onid yw'n bryd inni adolygu eto'r dynodiadau a ddefnyddiwn i ddiogelu tir, natur a thirweddau yng Nghymru, i gael y math o gydlyniant o ddynodiadau a all atal colli bioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd? Oherwydd, ar hyn o bryd, yr un peth y gallwn ni fod yn glir yn ei gylch yw nad yw'r ystod o ddulliau cyfreithiol sydd ar gael i ni yn cyflawni o ran colli bioamrywiaeth ledled y wlad.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:41, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Alun. Ydw, rwy'n cymryd eich pwynt yn y fan yna, ac, mewn gwirionedd, yn ddigon diddorol, rwy'n cael ychydig o déjà vu yn y fan yma, oherwydd rwy'n cofio gofyn y cwestiwn hwn ichi pan oeddech chi yn Weinidog ac yr oeddwn i yn aelod o'r meinciau cefn, felly rydym wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser. Felly, yr hyn yr ydym wedi'i ofyn yn awr—rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio'r hyn y gellir ei wneud i wella ymhellach y ffordd y mae awdurdodau ein parciau cenedlaethol yn arbennig yn rheoli'r ardaloedd gwarchodedig o fewn eu ffiniau. Mae nifer o ysgogiadau ar gael i ni i wneud hynny, a gwn y bydd y parciau cenedlaethol yn awyddus iawn i gamu ymlaen i wneud hynny hefyd. Felly, byddwn ni'n cynnal cyfres o gyfarfodydd yn enwedig gyda'r parciau cenedlaethol, ond hefyd yn edrych ar ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'n hardaloedd gwarchodedig eraill, i weld beth y gallwn ni ei wneud i wella'r ffordd y caiff ein tirweddau dynodedig eu gwarchod. Ac, fel y dywedais i, nid yw hyn yn ymwneud â diogelu'r dirwedd yn unig, nid yw hyn yn ymwneud â pheidio â gwneud unrhyw ddifrod pellach; mae hyn yn ymwneud ag atal y difrod ac yna ei droi o gwmpas a dod â'r ardaloedd hynny'n ôl i gyflwr cadwraeth da, ac felly yn ôl i fwy o fioamrywiaeth.

Cawsom adroddiad pryderus iawn dros y penwythnos am golli bioamrywiaeth—dylem ni i gyd fod yn bryderus iawn ynghylch hyn. Felly, mae angen inni edrych o ddifrif, nid yn unig ar beidio â gwneud unrhyw niwed pellach ond gwella ac adfer ein holl dirweddau dynodedig ledled Cymru. A byddwn i'n hapus iawn, Alun, i weithio gyda chi, Aelodau eraill y Senedd a'n pwyllgorau i sicrhau ein bod yn cael y gorau posib o'r hyn sydd gennym eisoes, ac, yn wir, edrych i weld a ddylem ni fod yn dynodi tirweddau eraill ledled Cymru.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:42, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Yn eich datganiad, rydych yn gyfeirio at wella

'wella cyflwr cynefinoedd i alluogi rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig i gael mwy o ryddid i grwydro', ac roeddwn i'n ddiolchgar mai un o'r rhywogaethau a enwyd gennych chi oedd y gylfinir. Yn dilyn eich ymateb cadarnhaol a groesewir yn fawr i gynllun gweithredu Gylfinir Cymru ar gyfer adfer y gylfinir, a ydych yn cydnabod bod hyn yn ymwneud â llawer mwy na rhyddid i grwydro, sef bydd y gylfinir yn diflannu fel poblogaeth fridio yng Nghymru mewn dim ond 12 mlynedd, os na wnawn ni rywbeth ar frys, ond, os gwnawn ni rywbeth, bydd manteision lluosog ac amlrywogaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol at gynaliadwyedd dros 80 o rywogaethau eraill, ac mae angen inni groesawu'r boblogaeth ffermio ledled Cymru sydd wedi ymuno â'r agenda hon, a gweithio gyda nhw ac asiantaethau eraill i wneud y goroesiad hwn yn flaenoriaeth i bawb?

Photo of Julie James Julie James Labour 4:43, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mark. Roeddwn i'n falch iawn eich bod wedi hwyluso'r cyflwyniad i'r grŵp gylfinir i mi. Cawsom gyfarfod rhagorol, ac yr oeddem yn canu o'r un llyfr emynau o ran yr hyn y mae angen ei wneud.

Fel y clywsoch chi yn fy natganiad, rwy'n chwilio am gynlluniau enghreifftiol ledled Cymru, lle mae grwpiau eisoes wedi dod ynghyd â chynllun da iawn ar gyfer yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud. Pan wnes i gyfarfod â'r grŵp gylfinir, gofynnais iddyn nhw gael golwg arall ar eu cynllun a gweld a ellid ei ddwyn ymlaen, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yn ôl ganddyn nhw. Ac, fel y dywedais i, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am weithredu'r cyflwyniad ac, yn wir, am fod yn hyrwyddwr y rhywogaeth.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno ei bod yn hawdd cael eich parlysu gan faint yr her sy'n ein hwynebu, gan mai'r DU bellach sydd â'r adnoddau natur prinnaf yn Ewrop. Nid yw arfer da bob amser yn teithio'n dda, ac felly roeddwn i'n tybio sut yr ydym ni'n mynd i rannu'r arfer da sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o'n cymuned. Er enghraifft, nid wyf yn credu bod Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn enwau cyfarwydd, ac mae angen iddyn nhw fod yn gyfarwydd iawn, ac mae angen i ni ymgysylltu â'r holl gyrff a ariennir yn gyhoeddus i fod yn rhan o'r gwaith hwn o achub y blaned.

O ran manteision iechyd meddwl, yr wythnos diwethaf es i i ddiwrnod agored Adferiad Recovery, a gwelais y gwaith gwych sy'n digwydd, gyda phobl yn defnyddio garddio fel ffordd o ymdrin â'u dibyniaeth, ac mae'n ffordd bwerus iawn o helpu pobl ag argyfyngau iechyd meddwl. Y mis nesaf, byddaf yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan blannu coed ffrwythau mewn ardaloedd cynnyrch ehangach sydd wedi eu hamddifadu yn fy nghymuned fel rhan o Blossom Watch, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Ond rwyf hefyd am dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud gan awdurdod lleol Brent, y dysgais amdano neithiwr mewn cyfarfod, y gwn fod eich Dirprwy Weinidog hefyd yn ymwneud ag e, lle y maen nhw'n defnyddio—. Mae'r ffaith bod gennym doriadau yng ngwariant awdurdodau lleol yn golygu eu bod yn torri llai o laswellt, ond maen nhw'n defnyddio hynny fel cyfle i blannu mwy o flodau a phlanhigion peillio, ac mae ganddyn nhw goridor gwenyn hyd yn oed. Mae ganddyn nhw hefyd gylchlythyr misol o fforwm Brent, sy'n sicrhau bod pawb yn y fforwm yn gwybod beth y mae pawb arall yn ei wneud. Tybed a oes unrhyw fath o ffordd electronig y gallem ni ei defnyddio i ledaenu arfer da yn weddol reolaidd.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:46, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am hynna, Jenny; roedd Lee Waters yn rhan o hynny hefyd. Rydym yn sicr yn mynd i geisio dysgu unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu o hynny. Rydym ni eisiau i'n rhaglenni newydd ni fod yn enwau cyfarwydd. Cawsom ein calonogi'n fawr gan nifer y grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi dod at ei gilydd i wneud hyn. Felly, mae gennym eisoes y 29 prosiect ledled Cymru. Pan fydd y cyllid yn cael ei gyflwyno, bydd pobl yn dod yn ymwybodol o'r cynlluniau oherwydd eu bod yn gynlluniau gwych; rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd yn chwarae eu rhan i'w rhoi nhw ar waith hefyd. Ond rydych yn llygad eich lle: yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw cymryd yr hyn a ddysgwn ni o'r holl brosiectau hyn ac yna helpu'r gyfres nesaf o grwpiau cymunedol i ddod at ei gilydd i gael gafael ar y cyllid ar gyfer hyn, ac yn wir, fel y dywedais i mewn ymateb, rwy'n credu i Delyth, nid yn unig y cyllid, ond y ffyrdd o'i drefnu, y ffyrdd o ymgysylltu, y ffyrdd y gallwch fanteisio ar wahanol fathau o gyllid.

Roeddwn yn bresennol mewn gweithgor ar wastadeddau Gwent, dan gadeiryddiaeth ein cydweithiwr John Griffiths, yn ddiweddar iawn, ac roedd yn ddiddorol iawn gweld y sefydliadau gwahanol iawn a oedd wedi dod ynghyd yno gydag ef yn y gadair; gwahanol gynghreiriau o bobl yn dod at ei gilydd mewn arfer da i ennyn brwdfrydedd pobl i fynd allan a gwneud y gwaith corfforol mewn gwirionedd, ond mewn gwirionedd ar gyfer y rhai nad oedden nhw eisiau gwneud y rhan honno, gwneud cyfres gyfan o bethau eraill yn ymwneud â chyfathrebu a chyhoeddusrwydd, cynllunio a'r gweddill sy'n ymwneud â hynny. Felly, rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd i wneud hynny. Mae nifer o gynlluniau rhagorol iawn ledled Cymru yn annog pobl nid yn unig i arddio eu gerddi eu hunain, ond i fynd allan i helpu eraill yn eu cymuned sy'n methu â gwneud hynny, ac rwy'n awyddus iawn i rannu arfer da ar y sail honno hefyd.

Ac yn olaf ond nid lleiaf, mae'r holl fater sy'n ymwneud â phlannu perllannau cymunedol a choed ffrwythau o ddiddordeb gwirioneddol i ni, a byddwn ni'n gweithio'n galed ar hyn—y math o le ar gyfer y goeden gywir yn y lle cywir—i sicrhau y gallwn ni fod â choed ffrwythau wedi'u cynnwys yn nifer y coed yr ydym yn eu plannu ledled Cymru.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:48, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n hoffi'n arbennig y lleoedd natur lleol a chysylltu pobl mewn cymunedau trefol, y mae'r rhan fwyaf o'n poblogaeth yn byw ynddyn nhw wrth gwrs, gyda natur, hyd y gallwn ni. Yng Nghasnewydd, mae cymuned ym Maendy, sydd dim ond dros yr afon o ganol y ddinas, a oedd heb ac sydd heb lawer o le gwyrdd o hyd, ond mae ganddyn nhw sefydliad, Maindee Unlimited, a changen o'r enw Gwyrddu Maendy, sy'n gwneud llawer o waith da iawn i greu gerddi a pherllannau at ddefnydd y gymuned, gan weithio gydag ysgolion i greu coridorau ar gyfer natur ger yr ysgol. Mae ganddyn nhw brosiect gyferbyn â llyfrgell Maendy, lle maen nhw wedi'u lleoli, i ddatblygu darn o dir a oedd unwaith, yn y bôn, yn doiled cyhoeddus gydag ychydig o dir o'i amgylch, o'r enw y triongl, i ddatblygu hwnnw ac, unwaith eto, i'w wyrddio ac i greu caffi cymunedol. Felly, maen nhw'n gwneud llawer o waith da iawn. A tybed, Gweinidog, pe bai grwpiau fel hynny, gyda hanes o gyflawni, yn elwa'n arbennig ar y cynlluniau a'r cyllid sydd ar gael, pan fyddan nhw'n cynrychioli ardaloedd sy'n brin iawn o fannau gwyrdd, ac mae Maendy hefyd yn amrywiol iawn yn ethnig. Mae ganddo lawer o broblemau cymdeithasol ac economaidd, ond mae gwella ansawdd bywyd drwy'r cynlluniau hyn yn gwbl hanfodol ac maen nhw'n gwneud camau pob person lleol yn sioncach o lawer.

Dim ond un mater arall, Gweinidog, tybed a oes unrhyw waith y gallech chi ei wneud gyda Network Rail lle mae ganddyn nhw—unwaith eto, mewn ardaloedd trefol lle mae llawer o bobl yn byw—bontydd rheilffyrdd hyll iawn, mae'n deimlad anghynnes cerdded oddi tanyn nhw gan fod dŵr yn diferu yno, nid ydyn nhw wedi'u goleuo'n dda iawn, maen nhw'n ddi-liw ac yn annymunol—

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:50, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ddod i ben nawr?

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi ceisio gweithio gyda Network Rail er mwyn ceisio bywiogi rhywfaint ar yr ardal hon, gydag efallai artistiaid graffiti ac ati, ond maen nhw'n dweud oherwydd eu meini prawf, oni bai bod problem strwythurol, nad oes ganddyn nhw gyllid ar gyfer y mathau hynny o gynlluniau. Tybed a oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud i weithio gyda nhw i fynd i'r afael â'r problemau a'r cyfyngiadau hynny.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:51, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, John. Wel, o ran yr un olaf yna, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod wedi cael llawer iawn o lwyddiant, gan wisgo fy het arall, yn Abertawe. Rydym wedi gwneud hynny'n union: rydym wedi cael gwaith artistiaid graffiti a goleuadau wedi'u gosod yn un o'r bwâu rheilffyrdd mawr sy'n cysylltu dwy ran o ganol Abertawe gyda'i gilydd, ac rwy'n fwy na pharod i'ch gwahodd i ddod i lawr a chael golwg arno a chael sgwrs gyda'r bobl o orsaf Abertawe a Network Rail a'n helpodd ni i wneud hynny. Felly, mae'n sicr yn bosibl, ac rwy'n fwy na pharod i siarad â nhw ar lefel strategol amdano hefyd. Mae llawer o bethau gwyrdd y gellir eu gwneud gyda'r bwâu hefyd, mewn gwirionedd, nid dim ond eu bywiogi, ac mae gan Network Rail lawer iawn o dir ar hyd ochrau ei gledrau, wrth gwrs, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer coridorau natur a phryfed peillio. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.

Bydd y 29 o brosiectau yr ydym newydd ddyfarnu cyllid ar eu cyfer yn cael eu defnyddio fel cynlluniau treialu, felly bydd cylchoedd ariannu eraill. Fel y dywedais i mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw nad oes gennym gyllidebau amlflwydd ein hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyd-Aelodau Ceidwadol sy'n gwrando ar hyn heddiw yn annog Llywodraeth y DU i roi mwy na setliad blwyddyn inni, fel y gallwn ni roi cyllid amlflwydd i mewn i gynorthwyo grwpiau fel yr un y sonioch chi amdano ym Maendy ac, yn wir, grŵp gwastadeddau Gwent, a fyddai'n elwa'n aruthrol ar rywfaint o gyllid amlflwydd, oherwydd rydym yn gwybod nad yw natur yn rhywbeth untro, mae'n ymwneud â'i hadennill, ei hadfer, ond yna, wrth gwrs, ei chynnal. Felly, mae angen i'r cyllid fod yn amlflwydd er mwyn gallu gwneud hynny.

A, John, rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac eraill ar draws y Senedd i helpu'r gwahanol grwpiau cymunedol sy'n dod at ei gilydd i wyrddu ein hardaloedd trefol, ac yn wir, mewn gwirionedd, i roi mynediad yn ein hardaloedd gwledig i'r cyllid sydd ar gael, ac, fel y dywedais, i ddod at ein gilydd mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol o weithio i sicrhau y gallwn ni wella ein holl leoedd naturiol lleol.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 4:52, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad am gyllid heddiw. Ledled y DU, rydym wedi gweld gostyngiad o 44 y cant mewn 770 o rywogaethau o ganlyniad i golli cynefinoedd a heriau amgylcheddol. Mae'r gronfa rhwydweithiau natur yn dangos yn gwbl glir bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a natur sy'n ein hwynebu. Mae angen trin yr argyfwng hinsawdd a natur gyda'r un brys. Rwy'n dweud hynny oherwydd, yn aml iawn, mae pobl yn sôn am leihau allyriadau carbon, ond yn anghofio'r argyfwng natur y mae angen ei drin yn yr un ffordd.

Mae'r prosiectau hyn, sy'n cynnwys £1.5 miliwn ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn hanfodol er mwyn diogelu ein bioamrywiaeth yn ogystal â rhannu gwybodaeth am sut a pham y mae angen i ni ddiogelu ein dyfodol. Mae'r datganiad hefyd yn cydnabod grym cymunedau, sy'n hollbwysig, ac ers cael fy ethol, rwyf wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau gwirfoddol ac wedi gweld y gwaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr lleol yn ei wneud. Ond wrth wraidd hyn mae'n rhaid cael arweinydd cryf, ynghyd â chymorth cyllid craidd i helpu prosiectau cymunedol i ffynnu, a bydd y gronfa rhwydweithiau natur yn sicr yn darparu hyn.

Yn ddiweddar ymwelais â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i glywed gan ymchwilwyr am y gwaith gwyddonol anhygoel y maen nhw'n ei wneud, gan achub pryfed peillio drwy ddefnyddio tystiolaeth DNA. Enghraifft arall o sut y mae ymchwil yng Nghymru—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:54, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour

(Cyfieithwyd)

—yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Ond roeddwn yn bryderus o glywed y byddai dau o'r tri gwyddonydd y cyfarfûm â nhw yn gweld eu cyllid yn cael ei dorri, un ym mis Mawrth ac un ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, oherwydd daw o gronfa amaethyddol Ewrop, sy'n dod i ben. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru, sy'n wych, ond hefyd pryder ynghylch yr heriau y mae Brexit yn eu hachosi o ran cyllid Ewropeaidd a chynaliadwyedd yr ymchwil wyddonol bwysig iawn hon i fioamrywiaeth a'r ymchwil DNA? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:55, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Carolyn. Diolch yn fawr iawn. Rwyf i hefyd wedi ymweld â'r gerddi botaneg yn gymharol ddiweddar ac wedi gweld y prosiect gwirioneddol ragorol yr ydych chi'n sôn amdano. Mae'n fater o bryder mawr i ni nad yw Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid i sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae prosiectau ymchwil fel yr hyn yr ydych chi newydd ei grybwyll yn sicr yn y rheng flaen o ran colli'r math hwnnw o gyllid, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda nhw ac eraill i sicrhau bod modd gwneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i wneud iawn am o leiaf rhan o hynny. Ond ni allaf i annog Aelodau yma ddigon, yn enwedig yr Aelodau Ceidwadol, i annog eu Llywodraeth i wneud mwy yn y lle hwn, oherwydd bod angen gwirioneddol iddyn nhw sicrhau nad yw Cymru yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel yr ydym ni'n sefyll heddiw, rydym ni'n sicr yn edrych fel ein bod ni yn llawer gwaeth ein byd.

Fe wnes i ryfeddu'n fawr ar y banc hadau cenedlaethol a'r prosiect DNA i lawr yn y gerddi botaneg. Prosiectau fel hynny yw'r mathau o gyngor gwyddonol sydd ei angen arnom i allu cynorthwyo ein hawdurdodau lleol a'n tirfeddianwyr eraill ledled Cymru i ddeall beth y mae angen ei wneud i adfer ein bioamrywiaeth. Y banc hadau yno—rwy'n gwybod yr oeddech chi yno i edrych ar hyn hefyd, Carolyn, o leiaf yn rhannol. Un o'r pethau rwy'n credu y gwnaeth Jenny ei grybwyll oedd y mater ynghylch torri ymylon glaswellt, ac yn y blaen. Yn ogystal ag eisiau cynghorau i ystyried o ddifrif beidio â thorri'r ymylon glaswellt, rydym ni hefyd yn dymuno eu bod yn ystyried o ddifrif blannu rhywogaethau blodau gwyllt brodorol ar hyd yr ymylon hynny fel bod gennym ni goridorau pryfed peillio ar hyd ein llwybrau prifwythiennol. Mae'n bwysig iawn eu bod yn rhywogaethau hadau brodorol yn ogystal â phryfed peillio blodau gwyllt yn unig, am resymau amlwg, oherwydd ein bod ni'n awyddus i wella bioamrywiaeth naturiol ein rhywogaethau brodorol. Roeddwn i'n ymwybodol eich bod chi'n ymweld, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gennych chi am eich taith i lawr i'r gerddi botaneg maes o law, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ei ddefnyddio i lywio ein polisi ni wrth symud ymlaen.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i am ofyn cwestiwn—un cwestiwn—ac mae'n ymwneud â monitro. Yr unig reswm yr ydym ni i gyd yn gwybod bod natur wedi dirywio yw oherwydd yr astudiaethau hydredol sydd wedi digwydd sy'n dweud hynny wrthym ni. Ac rwyf i'n croesawu, yn amlwg, yr holl brosiectau newydd; maen nhw i'w croesawu. Ond, mae'n rhaid i ni beidio â cholli golwg ar yr hyn sydd gennym ni eisoes. Felly, mae fy nghwestiwn i chi yn glir iawn ac yn syml iawn: a oes arian ar gael, ac a fydd yr arian hwnnw yn cael ei fuddsoddi i barhau â'r astudiaethau hydredol hynny sy'n dweud wrthym ni ble'r ydym ni arni nawr, fel ein bod ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gyrraedd lle'r ydym ni eisiau bod?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Joyce. Diolch yn fawr am hynny. Rwy'n falch iawn o gael y cwestiwn yna. Cefais i'r fraint yn ddiweddar o lansio adroddiad Elsevier gyda'r Prif Weinidog ar berfformiad ymchwil Cymru ar nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, ac yr oedd yn gyfarfod diddorol iawn. Rwyf i wedi gweld y map gorchudd tir ar gyfer Cymru o ganlyniad i gwrdd â'r gwyddonwyr a oedd yn bresennol yn y lansiad, ac mae ar gael i'r Aelodau—a gallwn ni sicrhau y caiff ei roi yn y Llyfrgell neu ei ddosbarthu—sy'n gwneud yn union fel yr ydych chi newydd ei awgrymu: mae'n dangos map byw o Gymru dros amser. Felly, mae'n dangos i ni y dirwedd yn newid, ble mae'r canopi, ble mae'r gwrychoedd a'r mannau gwyrdd, a sut mae'r blerdwf trefol yn newid natur y dirwedd yng Nghymru. Felly, rydych chi'n hollol gywir: mae angen i ni wybod yr hyn sydd gennym ni nawr er mwyn gallu diogelu'r hyn sydd gennym nawr a'i wella. Rydym ni hefyd yn gallu gweld o'r map hwn—ac mae arnaf i ofn ei fod yn eithaf amlwg—faint sydd wedi ei golli yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly mae'n agoriad llygad da. Felly, rwy'n argymell adroddiad Elsevier a'r mapiau i'r Aelodau, ac rwy'n ddiolchgar iawn, Joyce, i chi am roi'r cyfle i mi dynnu sylw ato.