– Senedd Cymru am 5:36 pm ar 12 Hydref 2021.
Eitem 8, dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2020-21 heddiw. Ac mae cyhoeddi adroddiad blynyddol yr Athro Sally Holland yn gyfle pwysig i ni ganolbwyntio ar hawliau plant ar y cyd. Mae'n amser pwyso a mesur cynnydd ac ystyried galwadau'r comisiynydd i ni wneud mwy. Ac ni fu erioed blwyddyn arall fel y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Mae effaith y pandemig yn parhau i effeithio ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r comisiynydd plant am ei rhan annibynnol mewn hyrwyddo hawliau plant yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae'r comisiynydd a'i thîm wedi blaenoriaethu anghenion pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gyson, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae hyn wedi bod yn amlwg yn yr ymgysylltu y mae'r comisiynydd plant wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r comisiynydd wedi parhau i ganolbwyntio'n ddi-baid ar blant a phobl ifanc yn ystod yr argyfwng hwn, ac mae hi wedi gweithio'n adeiladol gyda Gweinidogion a swyddogion drwy gydol y cyfan. Ac mae hyn wedi ein galluogi ni i weithio trwy faterion anodd, gan sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried a bod eu hawliau'n cael eu diogelu. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith ar arolygon 'Coronafeirws a Fi' ymhlith plant a phobl ifanc.
Arweiniodd y comisiynydd, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Senedd Ieuenctid a Phlant yng Nghymru, brosiect i glywed yn uniongyrchol sut roedd y pandemig yn effeithio ar agweddau iechyd, addysg a chymdeithasol ar fywydau pobl ifanc. Daeth bron i 44,000 o ymatebion i law ym mis Mai 2020 a mis Ionawr 2021, gan sicrhau bod lleisiau plant wedi eu clywed yn ystod y pandemig. Defnyddiodd y comisiynydd yr arolygon fel cyfle i wrando ar farn plant o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phlant anabl. Amlygodd canfyddiadau'r arolwg sawl maes lle nad oedd cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig arfer eu hawliau yn gyfartal a'u cyfoedion gwyn yng Nghymru neu Brydain, ac roedd hyn yn cynnwys eu gallu i wneud ymarfer corff a chwarae, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ansicrwydd bwyd, a phryderon ynghylch goblygiadau ar eu dysgu. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos i ni'r rhan y mae hiliaeth, gwahaniaethu ac anfantais yn ei chwarae ym mhrofiadau'r bobl ifanc hyn, ac yn rhoi pwyslais i ni ar yr angen i ni gymryd camau yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Cafodd canlyniadau'r holl arolygon eu defnyddio gan bob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys pan oedd angen gwneud dewisiadau anodd ynghylch cyfyngiadau ar fywydau pob dydd plant.
Hoffwn i ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gwaith helaeth gyda'r comisiynydd plant. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfarfod yn rheolaidd â'r comisiynydd, a'r Prif Weinidog ac aelodau eraill o'r Cabinet yn yr un modd, ac mae'r ymgysylltu parhaus hwn wedi ein helpu ni i barhau i ganolbwyntio'n glir ar hawliau plant a phobl ifanc yn ein gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig.
Cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020-21 yr wythnos diwethaf gyda nifer o alwadau i weithredu, gan gynnwys mewn cysylltiad ag iechyd meddwl, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ddefnyddio ein hamser ni heddiw i archwilio'r meysydd hynny lle mae'r comisiynydd wedi galw arnom ni i wneud mwy yn ein gwaith. Mae'r adroddiad yn amlinellu cyflawniadau ei swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a'u gweithgarwch parhaus i ymateb i'r pandemig, ac mae hyn yn cynnwys ei hadolygiad ffurfiol cyntaf o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau. Defnyddiodd ei phwerau ffurfiol mewn cysylltiad ag addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'w hadolygiad ym mis Mawrth eleni.
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys 18 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion sy'n ymwneud â phlant â phrofiad o ofal, addysg, iechyd plant, y glasbrint cyfiawnder ieuenctid a'r strategaeth gofalwyr di-dâl. A bydd y ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd y mae'r comisiynydd wedi eu codi. Hoffwn i groesawu ehangder a dyfnder yr argymhellion. Fodd bynnag, ni fyddaf i'n trafod manylion ein hymateb iddyn nhw heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd.
Cyn i'r Aelodau drafod yr adroddiad hwn, mae'n bwysig nodi bod pandemig y coronafeirws yn parhau i effeithio ar rai o'r argymhellion y mae'r comisiynydd wedi eu cyflwyno, ac mae rhai meysydd lle nad ydym ni wedi gweld y cynnydd y byddem ni wedi ei ddymuno oherwydd yr angen i oedi neu ailflaenoriaethu llwythi gwaith. Er gwaethaf hyn, mae ein bwriadau yn parhau i fod yn benderfynol. Rydym ni'n falch o'n hanes yng Nghymru, gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn parhau i fod yn sail i'n polisi ar gyfer plant. Mae'n ganolog i'n dull gweithredu i wella canlyniadau plant, drwy eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.
Dirprwy Lywydd, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod bod cyfnod yr Athro Sally Holland fel comisiynydd yn dod i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly hwn fydd ei hadroddiad blynyddol olaf. Hoffwn i felly ddiolch i'r comisiynydd am bopeth y mae hi wedi ei wneud i gynorthwyo plant a phobl ifanc drwy gydol ei chyfnod o saith mlynedd yn y swydd. Mae hi wedi bod yn eiriolwr diflino ar ran plant a phobl ifanc ac yn hyrwyddwr eu hawliau a'u lles. Ar hyn o bryd rydym ni'n mynd drwy'r broses i benodi olynydd Sally ar sail drawsbleidiol, a nod y Prif Weinidog fydd gwneud cyhoeddiad yn y flwyddyn newydd.
I gloi, rwy'n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon, wrth i ni ganolbwyntio ar adroddiad annibynnol y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant ledled Cymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hanfodol, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn am y tro cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n gobeithio datblygu gwaith y pwyllgor a'r Cadeirydd blaenorol, a ddangosodd, drwy gydol eu cyfnod pum mlynedd, werth craffu effeithiol gan y pwyllgor wrth gyflwyno newidiadau pwysig i wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Fel pwyllgor, nid ydym ni wedi cael cyfle eto i graffu ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Byddwn ni'n cynnal y sesiwn honno ar 18 Tachwedd.
Gan mai hwn yw adroddiad blynyddol olaf y comisiynydd presennol, hoffwn i ddiolch iddi hi a'i thîm am eu holl waith yn ystod y chwe blynedd a hanner diwethaf i eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn i hefyd adleisio geiriau'r comisiynydd plant, yn ei rhagair i'r adroddiad, i ddiolch i'r holl weithwyr rheng flaen hynny sydd wedi cefnogi, meithrin, addysgu a gofalu am blant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig hwn, ac, wrth gwrs, i dalu teyrnged i'r bron i 700,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi dangos cadernid ymhell y tu hwnt i'w hoedran yn ystod y 18 mis diwethaf.
Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r holl waith y mae'r comisiynydd yn ei wneud. Mae'r hawl i blant fynegi eu barn ar bethau sy'n effeithio arnyn nhw, a bod eu barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, wedi ei deall yn dda. Ac, fel y soniodd y Gweinidog, mae'r arolygon 'Coronafeirws a Fi' y mae'r comisiynydd wedi eu cynnal yn ystod y pandemig, yn enghraifft brin iawn o hyn yn ymarferol, wrth i 44,000 o blant a phobl ifanc gyfrannu atyn nhw dros y cyfnod adrodd. A byddwn ni'n sicr yn ystyried rhai o'r canfyddiadau hyn wrth i ni geisio dyfeisio a mireinio ein cynllun strategol fel pwyllgor.
Mae hefyd yn galonogol iawn gweld y comisiynydd yn dweud bod ei swyddfa, er gwaethaf y pandemig, wedi gallu cyflawni'r holl amcanion a fu cyn y pandemig, gan hefyd wneud gwaith ychwanegol a gododd oherwydd y pandemig. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o argymhellion ar draws amrywiaeth eang o feysydd polisi. Rwy'n siŵr, fel pwyllgor, y bydd rhai o'r rhain yn feysydd y byddwn ni'n eu harchwilio'n fanylach yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Heddiw, hoffwn i ofyn am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru am sut y mae'n bwriadu ymateb i'r argymhellion hynny sy'n ymwneud â phlant mewn gofal. Rwy'n tynnu sylw at y rhain gan eu bod yn ymwneud ag ymrwymiadau clir y rhaglen lywodraethu. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae'r comisiynydd yn galw am gyflwyno map ffordd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf i nodi'r amserlen a'r camau gweithredu ar gyfer cyflawni hyn. A wnaiff y Gweinidog nodi a fydd map ffordd o'r fath yn cael ei gyhoeddi o fewn yr amserlen, ac os na fydd, pam? Yn yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno yn brydlon hawliau a pholisi statudol i'r rhai sy'n gadael gofal fel pecyn cydlynol. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf fod y Llywodraeth yn bwriadu deddfu yn nhymor y Senedd hon i sicrhau bod gan bob person sy'n gadael gofal hawl i gynghorydd personol hyd at 25 oed. A wnaiff y Gweinidog amlinellu heddiw pa elfennau eraill o'r pecyn cymorth y maen nhw'n bwriadu eu darparu i'r rhai sy'n gadael gofal?
Unwaith eto, hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am eu holl waith caled, sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad blynyddol. Mae rôl y comisiynydd fel hyrwyddwr annibynnol, sy'n eirioli dros hawliau a lles plant, wedi bod yn hollbwysig. Rwy'n edrych ymlaen at archwilio'r adroddiad yn fanylach gyda'r comisiynydd ac aelodau'r pwyllgor ar 18 Tachwedd. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf, hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r comisiynydd plant am ei holl waith caled a'i hymroddiad drwy gydol ei chyfnod yn y swydd. Hoffwn i ddiolch iddi hi a'i staff hefyd am baratoi'r adroddiad hwn. Yn anffodus, fel llawer o rannau eraill o gymdeithas, mae plant, yn enwedig plant sy'n agored i niwed y mae eu hamodau wedi eu gwaethygu o bosibl oherwydd y newidiadau sylweddol y maen nhw wedi eu hwynebu yn ystod pandemig COVID, wedi dioddef yn anghymesur, ac yn sicr caiff ei chydnabod bod y comisiynydd plant wedi ceisio yn wirioneddol i ymdrin â llawer o'r materion y maen nhw a'u teuluoedd wedi eu hwynebu. Yn wir, rwyf i wedi darllen adroddiad y comisiynydd â diddordeb mawr, ac mae'n braf iawn gweld y gofal a'r sylw y mae hi wedi bod yn eu rhoi i gynifer o agweddau ar les plant.
A siarad yn bersonol, roeddwn i hefyd yn falch o weld sôn am y digwyddiad bord gron a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni ac a roddodd lwyfan i bobl fyddar iau i leisio eu pryderon. Fel y gŵyr yr Aelodau efallai, rwyf i wedi siarad yn gyhoeddus am yr anawsterau clyw yr oeddwn i'n eu hwynebu wrth dyfu i fyny a'r effaith y mae wedi ei chael ar fy nysgu. Fel y gallwch chi ei weld o'r hyn rwy'n ei wisgo o amgylch fy ngwddf, mae'n dal yn rhywbeth sy'n cael effaith arnaf i, ac o ganlyniad rwy'n awyddus iawn i weld gwelliannau yn cael eu cyflawni yn y maes hwn. Felly, rwy'n deall, ers blynyddoedd lawer, fod y gymuned fyddar wedi rhannu eu rhwystredigaethau â swyddfa'r comisiynydd nad yw anghenion y gymuned yn cael sylw, ac er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at rywfaint o ymgysylltu, serch hynny, ni wnaeth unrhyw argymhellion penodol ar gyfer plant byddar. Rwy'n credu bod hyn yn drueni, o ystyried faint o waith ac ymdrech a roddodd y gymuned fyddar ynddo i gael Llywodraeth Cymru i wneud darpariaeth ddigonol ar gyfer eu hanghenion.
Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ailbwysleisio'r angen am siarter genedlaethol yng Nghymru i helpu i ddarparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, ar gyfer plant a phobl ifanc fyddar a'u teuluoedd. Byddai siarter o'r fath yn galluogi awdurdodau lleol i gynllunio ac adnoddu cymorth o fewn fframwaith sydd wedi ei gydnabod yn genedlaethol ac yn helpu i sicrhau cysondeb darpariaeth ledled Cymru. Yn yr un modd, mae angen i ni gydnabod yn ffurfiol yng Nghymru mai Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf pobl fyddar, ac mae angen i ni ymdrin ar frys â'r pryderon y maen nhw wedi eu codi ynghylch safon ac ansawdd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol arbenigol.
Tua diwedd y pumed Senedd, cynigiodd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood Fil sy'n ceisio sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau, gyda chamau gweithredu'n cynnwys sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol Iaith Arwyddion Prydain, er enghraifft. Cafodd y Bil gefnogaeth drawsbleidiol, ac rwy'n gwybod ei bod yn un yr oedd llawer o bobl fyddar yn disgwyl yn eiddgar iddo gael ei gyflwyno, ond, yn anffodus, nid yw'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno eto. Ar ran pawb sy'n dioddef o golli clyw a'u teuluoedd a'u cefnogwyr, a gaf i nawr alw ar y Llywodraeth hon i ymrwymo i gyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain i Gymru yn ystod tymor hwn y Senedd? Mae diffyg cyfleoedd i dderbyn addysg, gwasanaethau iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill i lawer o bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a chaiff ei hadrodd yn eang fod canran fawr o bobl fyddar yn ei chael hi'n anodd cyflawni cyrhaeddiad addysgol uwch, a all effeithio arnyn nhw drwy gydol eu bywydau. O ystyried effaith yr hyn y gall cymorth priodol a chywir ei gyflawni i helpu plant byddar i fyw bywyd llawn ac egnïol, rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni roi hyn ar waith—y ddeddfwriaeth hon.
Yn olaf, hoffwn i hefyd ymdrin â'r mater sydd wedi ei grybwyll yn adroddiad y comisiynydd ar faint o amser y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd i gyflwyno hawliau a pholisïau statudol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal fel pecyn cydlynol. Cytunodd y Llywodraeth ag argymhellion yr adroddiad 'Uchelgeisiau Cudd' yn 2017, sydd bron i bum mlynedd yn ôl, ac eto nid ydyn nhw wedi gweithredu'r diwygiadau hynny i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gafodd eu cynnig o hyd. Yn yr un modd, gofynnodd ei chyd-grŵp gwasanaethau cymdeithasol a thai i'r Llywodraeth hefyd ddatblygu safonau cenedlaethol i fynd i'r afael â phryderon ynghylch ansawdd, digonolrwydd ac addasrwydd llety lled annibynnol ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal hyd at 25 oed, ond mae'n ymddangos bod y cynnydd ar y cynigion hyn wedi dod i ben.
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei hadroddiad fod bwlch gweithredu rhwng y dyheadau sydd wedi eu nodi gan Lywodraeth Cymru mewn polisi a deddfwriaeth a'i hymrwymiad i weithredu a darparu adnoddau ar lawr gwlad. Ac mae'n ymddangos mai'r un stori sydd yma hefyd. Mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn ymwybodol iawn o ba mor amharchus yw hyn nid yn unig i bawb sydd wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech ar gais y Llywodraeth hon, ond i'r holl blant a phobl ifanc hynny sy'n cael cam hefyd o ran derbyn y gofal priodol sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r Llywodraeth hon wedi cytuno i'r argymhellion y maen nhw wedi gofyn amdanyn nhw, ac eto nid ydych chi wedi gwneud fawr ddim o ran eu gweithredu. Rwy'n credu y dylai'r mater o ofalu am iechyd a lles ein plant a'n pobl ifanc oresgyn llinellau plaid wleidyddol, ond mae'r ffaith bod dal angen i'r comisiynydd alw am weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn ffiaidd. A wnaiff y Gweinidog egluro i'r holl bobl ifanc hynny a fyddai wedi elwa ar weithredu'r ddeddfwriaeth hon sydd wedi ei hargymell pam mae'r Llywodraeth hon wedi methu yn barhaus â'i gweithredu? Rwyf i hefyd yn meddwl tybed a fyddai'r Gweinidog yn ddigon dewr mewn gwirionedd i ymddiheuro am hyn ac ailymrwymo i weithredu'r argymhellion y cytunwyd arnyn nhw mor bell yn ôl. Diolch.
Diolch am y cyfle i drafod yr adroddiad yma. Hoffwn i ganolbwyntio ar agweddau penodol o'r adroddiad, rhai sydd angen sylw buan a rhai sydd heb gael sylw hyd yma y prynhawn yma. A hoffwn i gymryd y cyfle i holi'r Gweinidog am ei sylwadau, gan dderbyn, wrth gwrs, nad ydy'r ymateb llawn swyddogol ar gael eto.
Trof yn gyntaf at blant sy'n cael eu hatal neu eu diarddel o'r ysgol. Sut yn y byd ei bod hi'n bosib fod angen diarddel plentyn tair oed, plentyn pump oed a phlentyn saith oed o'r ysgol? Sut bod angen diarddel 768 o blant tair i saith oed dros gyfnod o flwyddyn? Mae'r ffigurau yma gan y comisiynydd plant yn frawychus, ac mae'n amlwg nad yr un broses o ddiarddel a ddylai fod ar waith ar gyfer plant ifanc o'i chymharu â'r broses ar gyfer pobl ifanc hyd at 16 oed—er bod angen codi cwestiynau am y broses efo plant hŷn hefyd, gyda llaw. Ond, o ran y plant ieuengaf, mae'r comisiynydd wedi canfod bod un plentyn wedi cael ei ddiarddel 18 o weithiau mewn blwyddyn. Nid sôn am ystadegyn ydyn ni yn y fan yma, ond sôn am blentyn, ac mae'n hollol amlwg dydy diarddel plentyn dro ar ôl tro ddim yn mynd at wraidd y broblem nac yn ymateb i'w anghenion. Mae'r plant yma angen eu cefnogi, nid eu troi ymaith, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi polisi ar waith i atal diarddel plant dan wyth oed, ac mae angen adolygu'r canllawiau diarddel ar gyfer plant hŷn hefyd. Hoffwn i glywed y prynhawn yma fod hyn yn gonsýrn a bod yna waith ar droed i newid y sefyllfa.
Maes arall sy'n peri pryder yn sgil adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ydy diwygio gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae'r comisiynydd yn dweud yn glir iawn na fu digon o gynnydd. Ac yn allweddol, araf iawn a fu'r cynnydd tuag at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Yn ystod y pandemig, fe dynnodd y comisiynydd sylw at blant a oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa ac oedd yn colli eu hawliau. Felly, a gawn ni wybod beth ydy'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r glasbrint yn llawn ac, yn y cyfamser, faint o bryder ydy hi i'r Gweinidog nad oes yna bwyslais ar ddulliau amgen yn hytrach nag anfon plant i'r ddalfa? Does yna ddim digon o gyfleon ar gyfer gwasanaethau adferol. Fe dynnodd y comisiynydd sylw hefyd at y broblem o blant o Gymru yn cael eu gosod yn y ddalfa yn Lloegr a byddai'n dda clywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud efo'r broblem benodol yna.
Troi at faes arall, sef cofrestru staff mewn ysgolion annibynnol efo Cyngor y Gweithlu Addysg, neu yn wir y diffyg cynnydd tuag at orfodi hyn er mwyn diogelu disgyblion, yn enwedig i ddiogelu merched rhag aflonyddu rhywiol. Mae'n fater o gonsýrn i'r comisiynydd ers tro, ac rwy'n rhannu'r consýrn. Mae Plaid Cymru wedi bod yn rhannu’r consýrn yma bod y Llywodraeth mor araf yn datrys y problemau cofrestru, felly byddai’n dda gwybod bod y Llywodraeth o’r diwedd yn mynd i weithredu deuddegfed argymhelliad adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a hynny er mwyn diogelu disgyblion ysgol yng Nghymru.
A dwi'n troi yn olaf at fater arall o bryder, sef plant sydd yn cael eu dysgu gartref. Mae'r comisiynydd wedi dadlau nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei chyflwyno ar addysg gartref ddewisol, nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd yma'n ddigonol, a dydy o ddim ychwaith yn mynd yn ddigon pell o safbwynt diogelu hawliau plant. Hoffwn i wybod beth ydy'r rhesymeg y tu ôl i beidio â dilyn cyngor y comisiynydd i ddod â deddfwriaeth gynradd ymlaen ar y pwnc yma. Dwi'n gwybod bod yna brinder amser o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, ond tybed oes yna resymau eraill dros fod mor amharod i weithredu'n gadarn yn y maes yma. Felly, hoffwn i glywed sylwadau'r Gweinidog ar y meysydd yma os gwelwch chi'n dda. A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r comisiynydd am ei gwaith diflino, yn dal ati i bwyso am y newidiadau sydd eu hangen? Y tristwch ydy ein bod ni'n dal wrthi yn eu trafod nhw, a'n bod ni'n dal angen gweld gweithredu.
Jane Dodds. Allwn ni droi'r sain ymlaen? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hefyd dwi eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Sally Holland hefyd.
Diolch am eich holl waith, nid yn unig drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ond ers cael eich penodi yn 2015.
Hoffwn ganolbwyntio ar un mater bach, ac eto, rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych ar fap ffordd ynglŷn â'r mater penodol hwn, a phlant mewn gofal yw hynny. Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 38 y cant dros y degawd diwethaf i dros 6,000 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru o fis Mawrth ddwy flynedd yn ôl, a disgwyliwn y bydd y ffigurau'n fwy diweddar yn dangos cynnydd ychwanegol. Galwodd y comisiynydd plant yn gyntaf ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ofal preswyl yn 2016, ac er i'r argymhelliad hwn gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn 2017 a 2018, mae'r cynnydd o ran cymryd camau i ddiddymu elw mewn gwasanaethau gofal preswyl i blant wedi bod yn araf iawn. Fodd bynnag, rwy'n teimlo'n obeithiol y bydd gwaith ar y maes cymhleth hwn yn mynd rhagddo, yn enwedig ar ôl i'm cynnig deddfwriaethol ar yr union fater hwn fynd drwy'r Senedd cyn toriad yr haf.
Yng ngwanwyn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Bapur Gwyn ar 'Ail-gydbwyso gofal a chymorth', sy'n cynnig datblygu fframwaith gofal cymdeithasol cenedlaethol i osod arferion comisiynu teg i ddarparwyr. Mae hyn ynghyd ag addewid cryf gan Lafur Cymru i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn ystod tymor y Senedd hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr gyflwyno'r map ffordd hwn erbyn 1 Ebrill 2022, a fydd yn nodi'r amserlenni a'r camau gweithredu y byddan nhw yn eu dechrau i gael gwared yn ddiogel ar wneud elw o ddarpariaeth gofal cymdeithasol plant. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: pryd y cawn ni y map ffordd hwnnw i wireddu'r uchelgais hwn? Rwyf yn deall yn llwyr gymhlethdod y materion hyn ac nid wyf eisiau amharu ar y broses, ond mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion ffurfiol. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Noswaith dda, pawb. Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i staff am eu gwaith parhaus i ddiogelu hawliau plant Cymru, ac am yr ymroddiad y maen nhw wedi'i ddangos drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae gennyf broblem gyda'r safbwynt a gymerwyd dros ddarparwyr gofal annibynnol. Mae'r sector preifat yn darparu wyth o bob 10 lleoliad ar gyfer plant mewn gofal. O ystyried y twll du enfawr sy'n bodoli o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ni allwn ddisgwyl i'r sector cyhoeddus gamu i mewn. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferthion gyda phwysau cost cyn y pandemig. Mae gwasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn cael eu tanariannu'n druenus a bydd diffygion ariannol yn llawer gwaeth wrth i ni ddod allan o'r pandemig.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan bod awdurdodau lleol yn pryderu am y galw a roddir ar wasanaethau wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo. Mae ôl-groniad o achosion llys o hyd sy'n ychwanegu at yr heriau a wynebir wrth wneud lleoliadau priodol a chynaliadwy ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Heb ddarparwyr preifat, byddai'r sefyllfa'n llawer gwaeth. Er bod y sector preifat yn darparu 80 y cant o leoliadau, yr oeddem yn dal wedi gweld dros 365 o blant y tu allan i Gymru y llynedd, yn anffodus. Nid gyda'r darparwyr gofal y mae'r broblem, mae gyda'r system. Wedi'r cyfan, mae ein GIG a'n system ofal yn seiliedig ar yr egwyddor o sectorau cyhoeddus a phreifat yn gweithio law yn llaw â'i gilydd. Heb y sector preifat, ni fyddai gennym feddygon teulu, dim deintyddion, dim optegwyr, dim meddyginiaethau, a nifer fawr o blant a phobl ifanc heb unrhyw ofal.
Diffyg cyllid ac, yn bwysicach na hynny, y galw yw'r prif faterion sy'n wynebu gofal plant. Yr wythnos diwethaf, amlinellodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ffaith amlwg: mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu dwy ran o dair ers 2004. Canfu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod gan Gymru yn gyson nifer uwch o blant sy'n derbyn gofal na gweddill y DU, ac mae'r bwlch yn parhau i ehangu. Mae hefyd wedi canfod bod amrywiad lleol yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, gyda'r niferoedd mewn rhai ardaloedd cyngor yn parhau i fod yn sefydlog neu'n gostwng. Canfuwyd bod rhywfaint o'r amrywiad yn deillio o wahanol arferion a pholisïau gwaith cymdeithasol ar draws cynghorau. Canfu'r ganolfan hefyd fod barnwyr Cymru yn fwy tebygol na'u cymheiriaid yn y DU o wneud gorchmynion sy'n caniatáu i gynghorau gymryd plant i ofal, ac rwy'n gofyn i Sally Holland a'i thîm ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn.
Pam mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o orfod derbyn gofal yn y pen draw? Rydym i gyd yn gwybod fod plant mewn gofal yn fwy tebygol o ddioddef canlyniadau gwaeth. Er ei bod yn iawn i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy'n gadael gofal, y camau gorau y gallwn ni eu cymryd yw atal plant rhag mynd i ofal yn y lle cyntaf a chofio mai atal ddylai fod ein prif pwyslais. Diolch yn fawr iawn.
Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd plant yn nodi bod grwpiau o blant yn wynebu anghydraddoldeb ar hyn o bryd oherwydd amrywiaeth o ffactorau, ond hoffwn ganolbwyntio ar effaith tlodi. Rwy'n croesawu yr adroddiad hwn, ac anogaf Lywodraeth Cymru i ystyried ei hargymhellion gyda'r ymdeimlad o frys a awgrymir, yn enwedig o ran ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim. O ystyried penderfyniad creulon San Steffan i dorri credyd cynhwysol yr wythnos diwethaf gan £20, a'r diffyg diddordeb, mae'n ymddangos, wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn gwirionedd, rydym yn gwybod y bydd plant Cymru yn dioddef y gaeaf hwn heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i lywodraethu er budd pobl Cymru, ac felly byddai methu ag amddiffyn y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed rhag cyni y Torïaid yn ymwrthod yn llwyr â'r cyfrifoldeb sylfaenol hwn. Mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru weithredu'r egwyddorion y mae'n honni ei bod yn eu cynrychioli—mae angen mabwysiadu'r egwyddor o gyffredinolrwydd, er enghraifft, a oedd yn hanfodol i sefydlu'r GIG a'r wladwriaeth les, os ydym ni am roi terfyn ar dlodi plant a'r anfanteision y mae'n eu hachosi, a amlinellir gan yr adroddiad hwn.
O ran mynd i'r afael â thlodi plant, dywed yr adroddiad fod y comisiynydd wedi argymell bod y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun cyflawni, ond bod y Llywodraeth wedi gwrthod hyn. Mae'r adroddiad yn nodi bod y Llywodraeth wedi cynnal eu hadolygiad mewnol eu hunain o dlodi plant a chanfu nad oedd pawb yn cael eu hawliau llawn. Mae ymwybyddiaeth isel o hawliau, a waethygir gan rwystrau llythrennedd ac iaith, ac mae'r rhaglenni sydd wedi'u cyfyngu gan god post/ardal yn eithrio rhai pobl mewn angen. Byddai cyflwyno polisïau cyffredinol fel prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn ysgolion y wladwriaeth yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'r enghraifft a roddwyd yn yr adroddiad o deulu a aeth heb unrhyw daliadau am brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfyngiadau symud am chwe mis oherwydd mater trawsffiniol awdurdodau lleol a newidiadau i bolisi awdurdodau lleol yn dangos yn glir pam y byddai gweithredu system prydau ysgol am ddim cyffredinol yn sicrhau na fyddai unrhyw deuluoedd o Gymru yn cael eu hunain mewn angen fel hyn. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny hyd yma, o ystyried ei hymrwymiad tybiedig i egwyddorion sosialaidd, y galwadau eang gan ymgyrchwyr gwrth-dlodi a hawliau plant i wneud hynny, a'r corff mawr a rhyngwladol o dystiolaeth sy'n cyfeirio at effaith drawsnewidiol prydau ysgol am ddim i bawb. Nid oes amheuaeth bod angen i'r Llywodraeth gymryd camau brys ar dlodi plant. Ni fydd mwy o'r un peth yn ddigon. Mae angen gweithredu beiddgar os ydym ni am roi terfyn ar y staen foesol hon ar ein cymdeithas. Ni allai argymhelliad adroddiad y comisiynydd plant y dylid mynd i'r afael ar frys â chymhwysedd prydau ysgol am ddim fod yn gliriach.
Wrth i'r gaeaf agosáu a'r pwysau ar deuluoedd Cymru â phlant yn cael eu hamlygu mewn adroddiad ar ôl adroddiad, ac yn y Siambr hon dro ar ôl tro, mae angen i'r Llywodraeth osod targed statudol i leihau tlodi plant a gweithredu'n ddi-oedi i ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim, ac mae'n rhaid i hyn ddigwydd yn awr, wrth i deuluoedd Cymru sydd â phlant wynebu gaeaf caled ac anodd, mae eu costau byw yn codi wrth i'w hincwm gael ei dorri mor greulon. A all y Gweinidog roi sicrwydd i ni y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn o'r diwedd? Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw sydd wedi cyfrannu at y ddadl ar adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant. Hefyd, roedd yn bwysig iawn clywed gan Jayne Bryant, cadeirydd newydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y bydd ei phwyllgor yn ystyried hyn ac yn ystyried yr argymhellion a'r adroddiad hefyd. Mae hyn i gyd yn mynd i helpu i'n hysbysu a'n harwain wrth i ni symud ymlaen. Hefyd, diolch i Jayne Bryant am gydnabod unwaith eto lais a swyddogaeth annibynnol, gref bwysig y comisiynydd plant ac, yn wir, y gydnabyddiaeth bod y comisiynydd plant a Chadeirydd pwyllgor y gweithwyr allweddol hynny yn y rheng flaen yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a chadernid, fel y mae'r comisiynydd plant wedi tynnu sylw ato yn yr adroddiad, ein plant a'n pobl ifanc drwy'r cyfnod mwyaf heriol hwn i'n cenhedlaeth ni ac i'w cenedlaethau nhw y mae gennym gymaint o gyfrifoldeb dros wrando arnyn nhw, dysgu ganddyn nhw a'u cefnogi.
Felly, mae'n gwbl glir bod arolygon Coronafeirws a Fi yn bwysig iawn. Rwy'n diolch i Joel James am ei gydnabyddiaeth hefyd o swyddogaeth bwysig y comisiynydd plant, ac am gydnabod un maes penodol. Mae'n bwysig eich bod yn tynnu sylw at y bwrdd crwn a gynhaliwyd a chydnabod anghenion plant byddar. Er bod y ddadl hon yn ymwneud â'r adroddiad, byddaf yn sicr yn ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith a'n hymateb i siarter y BSL, a'r ymchwil sy'n cael ei wneud, wrth gwrs, ar ôl ymateb i ddadl Mark Isherwood yn y Senedd ddiwethaf. Rwy'n hapus iawn i ymateb ar wahân a diweddaru cydweithwyr ac Aelodau ar y mater hwnnw.
Mae'r Aelodau wedi cyfeirio at argymhellion a meysydd pwysig lle disgwylir i Lywodraeth Cymru ymateb yn briodol ac yn llawn i'r argymhellion hynny, y byddwn yn eu gwneud maes o law, fel y dywedais i, erbyn diwedd mis Tachwedd. Ac rwy'n credu bod yr argymhelliad o ran hawliau statudol i'r rhai sy'n gadael gofal yn allweddol iawn i hyn, gan fod yr ail argymhelliad yn ein galw i
'fynd ati'n gyflym i gyflwyno hawliau statudol a pholisïau ar gyfer ymadawyr gofal, ar ffurf pecyn cydlynus.'
Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno'n agos iawn. Er mwyn tawelu meddyliau cydweithwyr yma heddiw ac Aelodau'r Senedd, rydym wedi ymrwymo i ddeddfu yn nhymor y Senedd hwn i sicrhau bod gan bob un sy'n gadael gofal hawl i gynghorydd personol hyd at 25 oed. A gallwn ni wneud y newid hwn drwy reoliadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mae amserlennu a blaenoriaethu is-ddeddfwriaeth yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer y tymor hwn, ac rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cael ei ddatblygu yn 2022-23. Felly, mae hwn yn gyfle pwysig i dawelu meddyliau pobl. Wrth gwrs, rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i fod yn oedolion ac i fod yn annibynnol, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod tymor diwethaf y Senedd a'r canlyniadau a gyflawnwyd. Mae hyn yn ymwneud â chyflawni'r ymrwymiad hwn i roi'r hawl statudol honno i'r rhai sy'n gadael gofal gael mynediad at gynghorydd personol hyd at 25 oed.
Ac, wrth gwrs, mae materion allweddol a godwyd gan yr Aelodau heddiw. Cododd Siân Gwenllian y mater pwysig o ran yr argymhellion ynghylch gwaharddiadau ar gyfer ein plant ieuengaf yn y cyfnod sylfaen. Yn 2019, wrth gwrs, byddwch yn cofio i ni gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru, a gyhoeddwyd yn ôl yn 2015, ar waharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae hwn yn nodi'r cymorth y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ei roi ar waith ar gyfer pob plentyn sydd wedi'i wahardd o'r ysgol ac o unedau cyfeirio disgyblion, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael cymorth ac ymyrraeth gynnar nad yw'n gadael unrhyw blentyn ifanc wedi'i wahardd o addysg. Rwyf yn gwbl glir mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio gwaharddiad. Mae hyn yn ymwneud â thanategu'r ymrwymiad bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael addysg fel y gallan nhw ffynnu a llewyrchu mewn cymdeithas, ac felly yr ymyrraeth gynnar a'r gefnogaeth gynnar hanfodol a phwysig hynny sy'n hollbwysig, ac rwy'n diolch i Siân Gwenllian am godi'r pwynt hwnnw.
Ond hefyd, mae'n bwysig cydnabod y materion sy'n ymwneud â'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, ac rwy'n falch bod gennyf gyfrifoldebau, ond wrth gwrs mae cyfrifoldebau llawer o'r argymhellion hyn ar draws Llywodraeth Cymru ac yn cael eu rhannu ar y cyd o ran ein cyfrifoldebau. O ran symud ymlaen gyda'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, mae gennym gynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru, amserlenni cyflawni prosiectau wedi'u hadnewyddu, ac fe'u cyhoeddwyd mewn ymgynghoriad â'n partneriaid ym mis Mawrth eleni, ond hefyd £500,000 ychwanegol i'r rhaglen glasbrint hefyd—partneriaeth gref wrth symud ymlaen. A gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a minnau, y cytunwyd i weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflawni canlyniad a fydd yn gweld plant yn y systemau lles a chyfiawnder yng Nghymru wedi'u cydleoli yn yr un adeilad a safle. Mae gennym raglen ar y cyd. Mae'r prosiect yn y ddalfa hefyd yn rhaglen ar y cyd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn symud ymlaen, a gallaf hyd yn oed ymateb yn gadarnhaol heddiw o ran yr argymhellion hynny.
Wrth gwrs, mae llawer yma; Ni allaf eu hateb i gyd, ond byddwn i'n gwneud hynny pan fydd gennym ein hadroddiad terfynol. Wrth gwrs, mae cydnabod y materion sy'n ymwneud ag ysgolion annibynnol, diogelu a lles pobl ifanc yn hollbwysig, ac mae angen i ni edrych ar hyn o ran pwysigrwydd cofrestru staff sy'n gweithio yn y sector ysgolion annibynnol gyda Cyngor Gweithlu Addysg, a fyddai'n ategu'r darpariaethau diogelu sydd eisoes ar waith. Wrth gwrs, addysg yn y cartref eto—argymhelliad arall gan y comisiynydd plant. A, Dirprwy Lywydd, fe wnaf ddweud bod hwn eto'n faes lle'r ydym yn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Wrth gwrs, bu effaith COVID-19, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, ond mae'r gwaith, er bod yn rhaid ei oedi yn 2020, wedi'i ailgychwyn.
Nawr, rwyf eisiau canolbwyntio o'r diwedd ar y ddau bwynt terfynol allweddol a wnaed gan Yr Aelodau. Rhoddodd Jane Dodds gefnogaeth bwerus iawn—fel y gwnaeth hi yn flaenorol—i'r argymhelliad o ran dileu gwneud elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae'n un o'r blaenoriaethau uchaf i'r Llywodraeth hon. Ac fe ddywedaf hynny wrth Gareth Davies—mae hynny o'r flaenoriaeth uchaf, ac rydym yn bwriadu dileu'r holl elw preifat o ofal plant o ran cartrefi gofal plant.
Yn olaf, Sioned Williams, ie, wrth gwrs, rydym ni'n gweld y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran prydau ysgol am ddim nid yn unig fel piler canolog i'n dull o fynd i'r afael â thlodi, ond hefyd yr adolygiad cymhwysedd. Rwy'n credu ei bod yn dda bod y comisiynydd plant, hefyd, yn cydnabod pwysigrwydd ein brecwast ysgol am ddim, lle'r oeddem yn arwain y ffordd drwy gyflwyno'r brecwast am ddim hwn mewn ysgolion cynradd yn 2004. Ond yn amlwg, bydd y pwyntiau pwysig a wnaed yn y ddadl hon heddiw, sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd sy'n effeithio ar ein plant a'n pobl ifanc, yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen i ymateb yn llawn i adroddiad y comisiynydd plant. A gaf i ddweud i gloi, mae gennym draddodiad balch iawn o roi hawliau plant wrth wraidd ein penderfyniadau? Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd plant yn un o'r ffyrdd yr ydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif, a dyna sydd wedi digwydd y prynhawn yma, sy'n bwysig o ran sut yr ydym ni'n cefnogi hawliau plant fel hawliau i blant a phobl ifanc. Rwyf eisiau sôn am y ffaith y bydd fy nghyd-Aelod Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi cynllun hawliau plant diwygiedig Llywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn a bydd yn nodi'r trefniadau sydd gennym ar waith ar gyfer rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn pan fydd Gweinidogion yn arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd eto'n ymuno â mi i ddiolch i'r comisiynydd, Sally Holland, am bopeth y mae hi wedi'i wneud i sicrhau bod pob plentyn yn gwybod am eu hawliau, sut i gael gafael ar yr hawliau hynny a sut i herio pan nad ydyn nhw yn derbyn yr hawliau hynny. Mae hi wedi gwneud hyn yn gyson yn ystod ei thymor yn y swydd a dymunwn yn dda iddi wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor. Diolch i chi, i gyd, am yr holl swyddogaethau yr ydych chi wedi'u chwarae heddiw yn y ddadl heddiw. Bydd ein hymateb ym mis Tachwedd yn dangos pa mor ddifrifol yr ydym yn cymryd ein hymrwymiad i hawliau plant. Rydym yn parchu argymhellion ac adroddiad ein comisiynydd plant. Diolch yn fawr.
Diolch, Weinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol a Rheol Sefydlog 12.36.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.