Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Hydref 2021.
Weinidog, un o brif nodau adolygiad o wariant y DU yw codi'r gwastad ledled y DU er mwyn cynyddu a lledaenu cyfleoedd. Fodd bynnag, fel y clywsom yn y cwestiwn blaenorol heddiw, mae Cymru'n parhau i wynebu prinder sgiliau sylweddol, sy'n rhwystro economi Cymru a gallu'r gweithlu i addasu i ddiwydiannau a thechnoleg sy'n newid yn barhaus. Mae ymchwil gan y Brifysgol Agored yn dangos bod bwlch sgiliau Cymru yn 2020 yn fwy na'r Alban a chwech o wyth rhanbarth Lloegr. O'r 50,000 o raglenni prentisiaeth a gychwynnwyd yn 2019-2020, 740 yn unig a oedd ym maes gweithgynhyrchu, a 5,000 ym maes adeiladu. Weinidog, pa warantau y gallwch eu rhoi mai un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu unrhyw gyllid cynyddol a ddaw i Gymru fydd ei ddefnyddio i godi'r gwastad yn economi Cymru drwy ddiwallu anghenion busnesau er mwyn sicrhau na fydd prinder sgiliau yma yng Nghymru?