Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Hydref 2021.
Wel, mae cryn dipyn o eironi yn y cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, gan nad yw Llywodraeth y DU yn ariannu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r £375 miliwn y byddem wedi'i dderbyn yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd llawer o'r cyllid hwnnw yn cael ei fuddsoddi mewn sgiliau, cyflogadwyedd, prentisiaethau, Banc Datblygu Cymru a phrosiectau seilwaith strategol eraill. Felly, mae'n amlwg fod datgysylltiad rhwng awydd yr Aelod am gyllid ychwanegol yn y maes hwn a realiti gwirioneddol yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran peidio â chadw at ei haddewid na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd.