Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 13 Hydref 2021.
Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gwnaethom ddarparu cynnydd o 3.8 y cant i gyllideb graidd llywodraeth leol, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol a ddarparwyd gennym yn 2020-21. Yn ogystal, rydym wedi darparu dros £325 miliwn drwy'r gronfa galedi i lywodraeth leol er mwyn helpu llywodraeth leol i ymateb i'r pandemig.