Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni hefyd, darparodd Llywodraeth Cymru £40 miliwn yn ychwanegol mewn adnoddau i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol yn benodol yn 2021-22 drwy'r gronfa adfer gofal cymdeithasol. Drwy hyn, mae cyngor RhCT wedi penderfynu talu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion a chynorthwywyr personol dan gontract o fis Rhagfyr ymlaen, sydd i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal fel rhan o’ch rhaglen lywodraethu, a fydd cynghorau yn y dyfodol yn derbyn y cyllid ychwanegol i gyflawni hyn yn flynyddol fel rhan o’u setliad blynyddol?