Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Hydref 2021.
Rwy'n cytuno'n llwyr; mae'r clafr yn glefyd cymhleth ac anodd iawn. Nid wyf yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig ydyw; rwy'n credu ei fod yn fater i'r diwydiant gyda'i gilydd. Yn sicr, buom yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Yn anffodus, oherwydd penderfyniadau y bu'n rhaid i mi eu gwneud am y gyllideb mewn perthynas â COVID, ni fu modd imi gyflwyno'r cyllid hwnnw, ond yn sicr rwy'n cael trafodaethau yn awr am gam nesaf y cynllun datblygu gwledig, ac yn sicr gallaf eich sicrhau chi a'r diwydiant y bydd cyllid i helpu i ddileu'r clafr yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau.