Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r clafr, neu'r sgab, yn fater pwysig iawn, eto yn ymwneud â defaid ym maes llesiant anifeiliaid yn arbennig, ac yn fater sydd efallai ddim wedi derbyn ffocws digonol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n broblem sydd yn helaeth ac yn cynyddu, yn anffodus. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei fod yn clustnodi rhyw £5 miliwn i helpu cael gwared ar y clafr nôl ar ddechrau 2019. Yna, er mawr siom ym mis Tachwedd y llynedd, fe gyhoeddwyd y byddai'r £5 miliwn yn cael ei ddargyfeirio i gefnogi cynlluniau COVID. Mae'r sector amaeth nawr yn awyddus iawn bod Llywodraeth Cymru yn adfer y £5 miliwn yma i'r ymdrechion i waredu'r clafr, ac yn gwireddu eu hymrwymiad a'r addewid a wnaethoch chi i'r diwydiant. Mae yna arian, fel rŷch chi'n gwybod, dros ben yn y cynllun datblygu gwledig, ac ym marn Plaid Cymru, dylai'r Llywodraeth ddyrannu £5 miliwn o'r cynllun hwnnw i helpu'r diwydiant i waredu'r clafr. Felly, ydy'r Gweinidog yn fodlon ymrwymo i gadw at ei haddewid gwreiddiol er mwyn taclo'r her bwysig hon?