Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:29, 13 Hydref 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod hon yn Wythnos Wlân, a llynedd, cododd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd pryderon gyda chi am gyflwr y farchnad wlân yng Nghymru. O ganlyniad i'r pandemig, roedd y cwymp yn y farchnad wlân yn golygu bod ffermwyr yn talu rhyw £1 am gneifio dafad a dim ond cael rhyw 19c neu 20c yn ôl am bob rholyn o wlân ar gyfartaledd. Diolch byth, mae prisiau gwlân wedi codi rhywfaint bach ers hynny, ond mae'n bell o fod yn ddigonol. Mae'n amlwg felly bod angen meddwl am ddulliau gwahanol o ddefnyddio gwlân er mwyn helpu'r diwydiant. Ac mae gwlân, fel mae pawb yn gwybod, yn cael ei ddefnyddio ers tro byd fel insiwleiddydd effeithiol iawn. Yng ngoleuni'r sylw cynyddol sy'n cael ei rhoi i newid hinsawdd a gwella'r amgylchedd, mae rhinweddau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig i adeiladwyr a phrynwyr cartrefi. Felly, ydych chi'n fodlon rhoi ystyriaeth i gefnogi'r diwydiant gwlân yng Nghymru a defnyddio gwlân i insiwleiddio'r tai y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu codi, gan gynnwys y cynllun retroffitio? Diolch yn fawr.