Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:31, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Rydych yn gwneud pwyntiau cymwys iawn ynghylch pris gwlân. Rwy'n ceisio meddwl—rwy'n credu mai ar ddiwedd tymor y Llywodraeth ddiwethaf y gwelsom y prisiau gwlân yn gostwng o ddifrif a chefais gyfarfodydd gydag awdurdod gwlân Prydain i geisio gweld beth y gallem ei wneud i helpu Cymru. Cyflwynais sylwadau i Lywodraeth y DU gyda gweinidogion cyfatebol o'r Alban.

Yn sicr, gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn gyfrifol am dai ac am ôl-osod wedi cael trafodaethau am hyn, oherwydd, fel y dywedwch, mae gwlân yn ddeunydd inswleiddio da iawn. Felly, os yw honno'n un ffordd y gallwn barhau i helpu i gefnogi gwlân Cymru, byddwn yn sicr yn ystyried gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr pa mor bell y mae'r Gweinidog wedi mynd gyda'i thrafodaethau, ond gwn ei bod wedi cael trafodaethau cychwynnol ynglŷn â hyn.