– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 13 Hydref 2021.
Mae pawb sydd am bleidleisio ar gael. Iawn, rydym yn awr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac rwyf am siarad Saesneg i wneud yn siŵr nad wyf yn ei gael yn anghywir. Pleidleisiwn yn awr ar ddadl Plaid Cymru, y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 42 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig.
Felly, symudwn at bleidlais ar y gwelliannau. Pleidlais ar welliant 1 yn gyntaf. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 41 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 1.
Symudwn yn awr at welliant 2, a galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 2.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7803 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021;
b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd;
c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang;
d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050;
e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725);
f) bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol.
2. Cadarnhau ei ymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net zero.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru.
b) cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol.
c) cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol.d) diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas.
4. Yn galw ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. A gaf fi gadarnhau bod y bleidlais honno hefyd wedi cynnwys Julie, oherwydd mae'n ymddangos fy mod un yn brin? O'r gorau. Dyna ni. O blaid 56, neb yn ymatal, neb yn erbyn, felly derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd. Diolch. A daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw.