– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 13 Hydref 2021.
Symudwn yn awr at y ddadl fer.
Galwaf ar Alun Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ganiatáu'r ddadl fer hon. Mae Tom Giffard wedi gofyn am funud o fy amser y prynhawn yma, felly byddaf yn sicrhau fy mod yn cwblhau fy sylwadau mewn pryd iddo allu siarad.
Mae codi'r gwastad yn un o'r pethau mewn gwleidyddiaeth nad oeddem erioed wedi clywed amdano ychydig flynyddoedd yn ôl, ac nid ydym yn clywed ei ddiwedd heddiw. Mae un o'r rhannau niferus o broses codi'r gwastad Llywodraeth y DU yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn gyson, ond nid yw erioed wedi'i ddiffinio. Ac i lawer ohonom, rwy'n credu—. Rwyf yn y sefyllfa anhapus heddiw o bosibl o fod wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i gofio'r pethau hyn yn digwydd ar fwy nag un achlysur. Ac un o'r pethau sy'n siomedig iawn am ddull Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ymdrin â'i hagenda gyffredinol ar gyfer codi'r gwastad yw nad yw'n diffinio unrhyw dargedau, nid yw'n diffinio unrhyw amcanion ac nid yw'n caniatáu unrhyw atebolrwydd. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn Weinidog rhaglenni Ewropeaidd yn Llywodraeth Cymru rhwng 2011 a 2013, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ailnegodwyd cyllideb yr UE ar y pryd. Hefyd cafwyd ddeddfwriaeth newydd ar gronfeydd strwythurol.
Roedd Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn rhan o'r broses honno. Roeddent yn rhan o'r broses honno am ei bod wedi'i gwneud yn gyhoeddus, fe'i gwnaed gydag atebolrwydd a democratiaeth a chraffu a thryloywder. Pasiwyd y ddeddfwriaeth yn gyhoeddus. Trafodwyd y gyllideb yn gyhoeddus. Roedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses o ddiffinio safbwynt y Deyrnas Unedig ar yr holl faterion hynny. Cafwyd secondiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod modd defnyddio arbenigedd Llywodraeth Cymru yn y ffordd orau i lywio safbwynt Llywodraeth y DU ar y pryd. Mynychais Gynghorau Ewropeaidd a buom yn trafod y materion hynny yn y Siambr hon ar sawl achlysur.
Roedd pob un o'r gwahanol agweddau hynny'n sail i bolisi. Nid oes yr un o'r pethau hynny'n wir heddiw am agenda codi'r gwastad—nid oes yr un o'r pethau hynny'n wir heddiw. Nid oes unrhyw dryloywder. Nid ydym yn gwybod beth yw amcanion Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid ydynt wedi cyhoeddi unrhyw dargedau, nid ydynt wedi cyhoeddi amserlen, maent wedi methu gwneud pob ymgynghoriad a addawyd ganddynt, ac ni fu unrhyw atebolrwydd ar unrhyw ffurf o gwbl. Mae'n wers ar sut i beidio â llunio polisi a sut i beidio â chynnwys pobl. A dywedaf hynny fel cyflwyniad oherwydd mae'n bwysig nad ydym yn gwneud y pwyntiau hynny mewn perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig, ond ein bod yn sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn ailadrodd y gwallau hynny a'r camgymeriadau hynny hefyd. Mae bob amser yn bwysig dysgu o hanes yn hytrach nag ailadrodd camgymeriadau hanes.
Ac yn fy amser i yma, rwyf wedi gweld nifer o fentrau gwahanol yn cael eu lansio ar gyfer ein hagenda codi'r gwastad ein hunain yng Nghymoedd de Cymru. Cofiaf Lywodraeth Cymru'n Un, lle gweithiodd y ddau Weinidog, Leighton Andrews a Jocelyn Davies wedyn, yn eithriadol o galed ar gyflawni agendâu ar gyfer Blaenau'r Cymoedd ac ar gyfer y Cymoedd yn gyffredinol. Cofiaf wedyn y gwaith a wnaed er mwyn cyflwyno rhaglenni eraill yn y Llywodraeth a etholwyd yn 2011, ac fel y bydd llawer o'r Aelodau'n cofio, cefais fy mhenodi gan Carwyn Jones i arwain tasglu'r Cymoedd, a bennwyd i arwain y gwaith hwn ar ôl etholiad 2016. Ac wrth i mi edrych yn ôl dros y cyfnod hwnnw, rwy'n meddwl am y gwersi y dylem fod yn eu dysgu, fel Llywodraeth Cymru ac fel Senedd. A beth yw'r gwersi hynny?
Mae yna wers o ran cysondeb personél, cysondeb Gweinidogion. Bu gormod o Weinidogion yn rhan o hyn dros gyfnod rhy fyr, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog sydd yn ei le y prynhawn yma yn ei le am sawl prynhawn ac y bydd yn gallu hyrwyddo agenda bolisi sy'n gyson dros amser. O ystyried y ddadl yr ydym newydd ei chael ar yr hinsawdd, yr eironi yw mai'r unig bolisi cyson a gyflwynwyd yn y Cymoedd oedd deuoli'r A465. Dyma'r unig bolisi cyson a ddilynwyd dros y degawd diwethaf, ac mae anawsterau wedi codi, ond mae Gweinidogion wedi mynd ar ei drywydd, ac mae Gweinidogion olynol wedi sicrhau bod y polisi wedi'i gyflawni ac yn cael ei gyflawni. Ond nid ydym wedi cael cysondeb o ran polisi, ac nid ydym wedi cael cysondeb o ran dull o weithredu, ac nid ydym wedi cael cysondeb o ran personél, ac mae hynny wedi gwanhau ein gallu i gyflawni ar ran y Cymoedd.
Nid ydym wedi sicrhau chwaith fod gennym yr uchelgeisiau a'r amserlenni a'r targedau wedi'u cytuno bob amser, ac nid ydym bob amser—a dyma'r pwynt allweddol yr hoffwn ei wneud yn fy sylwadau y prynhawn yma—wedi canolbwyntio'n ddigonol ar gyflawni. Cofiaf yn dda y sgwrs a gefais gyda Carwyn Jones pan wnaeth fy mhenodi i arwain tasglu'r Cymoedd. Dywedodd, 'Rwyf am i chi arwain tasglu'r Cymoedd.' Nid oedd unrhyw amwysedd yno. Dywedodd, 'Nid oes gennych gyllideb ac nid oes gennych adran; rwyf am i chi ddod â phobl at ei gilydd er mwyn cyflawni dros Gymoedd de Cymru.' Nid oedd gennyf gyllideb ar gyfer rhentu man cyfarfod na darparu te neu goffi. Yr hyn yr oedd yn rhaid inni ei wneud oedd perswadio Gweinidogion—a bydd y Gweinidog ei hun yn cydnabod pa mor anodd y gall hyn fod—i roi benthyg swyddogion i mi yn y bôn, i roi benthyg cyllidebau i mi ac i roi ymrwymiad gwleidyddol i mi. A dyna un o'r pethau anoddaf y gallwch ofyn i unrhyw un ei wneud mewn Llywodraeth, oherwydd mae swyddogion—. Mae llawer o nonsens yn cael ei ddweud am y gwasanaeth sifil. Mae'r gwasanaeth sifil yn beiriant gwych ac mae ganddo lawer iawn o bobl dalentog, ond mae'n gweithio mewn modd hierarchaidd; mae'n gweithio i Weinidog. A phan fyddwch yn gofyn i swyddog weithio i Weinidog arall, nid yw'n gweithio, ac roedd hynny'n eithriadol o anodd.
Ond fe wnaethom nodi ein huchelgeisiau ac roeddwn yn glir iawn, a daeth hyn yn dilyn y bleidlais ar Brexit—a chredaf fod gan y bleidlais ar Brexit yng Nghymoedd de Cymru lawer mwy i'w wneud â'r lle hwn nag â Brwsel; roedd gan y bleidlais lawer mwy i'w wneud â methiannau yma ac yn Llundain nag â methiannau ym Mrwsel, felly credaf fod angen inni gydnabod hynny. Ac un o'r pethau yr oeddwn am ei wneud oedd sicrhau bod gennym lefel o atebolrwydd, a bydd yr Aelodau yma'n cofio i mi ddod i'r Siambr hon a nodi targedau, nodi amcanion, nodi amserlenni y byddem yn eu cyflawni dros y cyfnod hwnnw o bedair neu bum mlynedd. Rwy'n siomedig na wnaeth y Llywodraeth flaenorol adrodd ar y materion hynny. Dylent fod wedi gwneud hynny. Rhoesom ein gair i'r bobl yn y cymunedau y byddem yn cyflawni'r pethau hyn dros y cyfnod o bum mlynedd. Nid ydym wedi adrodd ar yr hyn a wnaethom, ac mae angen inni allu gwneud hynny.
Mae angen inni allu sicrhau bod rhaglen y Cymoedd Technoleg—ac rwy'n ddiolchgar am amser y Gweinidog i'w thrafod yr wythnos hon—yn cael ei chyflwyno yn fy etholaeth i. Gwnaethom addewid i bobl Blaenau Gwent y byddem yn cyflwyno'r rhaglen honno, a chofiaf yn dda y cyhoeddiad a wnaeth Ken Skates gyda mi yng Nglyn Ebwy ar hynny. Gwnaethom addewid, ac mae angen inni gyflawni hynny ac mae angen inni nodi sut y bydd hynny'n digwydd. Hefyd, rydym angen nodi—a dyma'r cyfle yr hoffwn i'r Gweinidog ei gymryd, nid y prynhawn yma efallai, ond dros yr wythnosau nesaf ar ddechrau'r Senedd hon—yr hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.
Un o'r gwersi y credaf fod angen inni ei dysgu yw ei bod yn bwysicach buddsoddi mewn lleoedd a all weithredu fel catalydd ar gyfer newid na dweud bod gan bawb rywbeth, sydd, yn y pen draw, yn annigonol. Roeddwn yn glir iawn wrth nodi'r uchelgeisiau ar gyfer tasglu'r Cymoedd, fod gennym—. Credaf iddo droi'n saith hyb, a chofiaf fod yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn awyddus iawn inni gael wyth neu naw hyb i gynnwys y Cymoedd yn ei etholaeth ef, a phwy all ei feio? Byddwn i wedi gwneud yr un peth yn union. Ond fe wnaethom nodi'r gyfres honno o hybiau, a hoffwn ddeall beth yn union sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r polisi hwnnw.
Hefyd—ac mae hon yn siom bersonol fawr iawn i mi—nid ydym wedi darparu'r parc rhanbarthol. Roeddwn yn teimlo bod hwnnw'n gysyniad ysbrydoledig a oedd yn dod â phobl at ei gilydd, a chofiaf siarad â phobl mewn gwahanol rannau o'r Cymoedd am yr hyn y gallem ei wneud drwy'r parc rhanbarthol, a hoffwn weld hynny'n cael ei gyflawni, Weinidog. Credaf ei fod yn rhywbeth a allai ysgogi newid ar draws de Cymru, fel ein bod yn gwneud mwy na sicrhau twf economaidd yn ein cymunedau, fel sydd angen inni ei wneud, ond ein bod hefyd yn buddsoddi yn nyfodol cymunedau a phobl a lleoedd. Weithiau, rwy'n credu ein bod yn sôn am ddatblygu economaidd yn nhermau ffigurau'n unig, ond rhaid inni siarad yn nhermau pobl a lleoedd hefyd. Ac roedd parc y Cymoedd yn fodd o wneud hynny. Ac mae'r gwaith y mae'r Aelod dros Ogwr wedi'i wneud mewn gwahanol leoedd wedi bod yn dempled ar gyfer hynny mewn gwirionedd.
Ond gadewch imi ddweud hyn wrth gloi fy sylwadau: y wers a ddysgais drwy gydol y cyfnod hwn ac wrth edrych yn ôl yw, beth bynnag fo uchelgais a diffuantrwydd yr uchelgais hwnnw a'r ffordd y mynegir y weledigaeth, ni chaiff byth mo'i gyflawni oni bai bod gennych fodd i wneud hynny. A dyma fyrdwn fy sylwadau y prynhawn yma. Nid ydym erioed wedi creu'r cyfrwng cyflawni a all sicrhau newid radical a pharhaol a chyson; rydym wedi creu llu o bwyllgorau, llond gwlad o gomisiynau, ac rydym wedi creu cyfle i bobl siarad. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw mynd ati i gyflawni, ac amlinellais—. A bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy safbwyntiau ar greu asiantaeth datblygu'r Cymoedd, a chynnwys cymunedau, llywodraeth leol, busnesau a Llywodraeth Cymru yn dod at ei gilydd, fel y maent wedi'i wneud yn ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban gan sicrhau effaith wirioneddol mewn gwahanol rannau o'r wlad honno.
Credaf y byddwn yn parhau i ailadrodd ein camgymeriadau oni bai ein bod yn creu modd a mecanwaith ar gyfer cyflawni. A dyma un o'r pethau y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn eu hystyried. Rydym wedi gweld dinas-ranbarth Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf yn methu sicrhau unrhyw fuddsoddiad ystyrlon ym Mlaenau'r Cymoedd; cawsom y buddsoddiad yn Zip World yn Hirwaun, ond nid ydym wedi gweld unrhyw fuddsoddiad ystyrlon arall. Nid ydym wedi gweld cynllun swyddi i fanteisio ar y gwaith ar ddeuoli'r A465; nid ydym wedi gweld y strategaeth economaidd a all fod yn sail i hynny, a dyna un o'r pethau y ceisiais ei sefydlu yn y swydd, ac nid yw wedi cael ei ddilyn ers i mi adael y swydd. Yr hyn y mae angen inni allu ei wneud, Weinidog, yw creu'r dull o gyflawni—y dull o gyflawni a'r gallu i gyflawni. Gwyddom fod gennym bobl wych yn gweithio mewn llywodraeth leol. Mae gennym swyddogion gwych yn gweithio yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym arweinwyr llywodraeth leol gwych ar draws gwahanol rannau o'r Cymoedd. Ond yr hyn nad oes gennym yw'r capasiti yn y sefydliadau hynny i sicrhau newid parhaol ar y raddfa y mae angen i ni ei wneud.
Ac mae hynny'n golygu newid. Mae'n golygu newid ein dull o weithredu, herio ein hunain, gofyn cwestiynau anodd i ni'n hunain a bod yn onest yn y ffordd yr wyf wedi ceisio bod yn onest y prynhawn yma, a gwneud penderfyniadau yr ydym weithiau'n teimlo'n anghyfforddus yn eu cylch. Gwn nad yw Llywodraeth Cymru, ar wahanol adegau, wedi cefnogi dull o weithredu sy'n seiliedig ar asiantaethau. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn fanwl ar yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig ac yn edrych yn fanwl ar yr hyn a wnaed ac a gyflawnwyd gennym yn y gorffennol, ac yn edrych yn fanwl ar yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd yn y dyfodol. Diolch.
Diolch, Alun, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw. Rwy'n credu ei bod yn ddadl bwysig iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi amser i mi siarad.
Un o'r gwersi allweddol a ddysgais o'ch sylwadau oedd eich bod yn iawn i ddweud, 'Iawn, mae codi'r gwastad yn ymadrodd gwleidyddol newydd ffasiynol,' os mynnwch, ond nid cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn unig ydyw. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae rhan wrth reswm, ond credaf fod gan bob lefel o lywodraeth, a'r sector preifat hefyd, rôl i'w chwarae.
I'r perwyl hwnnw, roeddwn am ddefnyddio fy sylwadau heddiw i sôn yn benodol am fy mhrofiad fel cynghorydd lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn benodol am gymhwyso proses y CDLl a sut y mae honno'n gwneud cam â chymunedau'r Cymoedd. Oherwydd, yn fy marn i, mae honno'n astudiaeth achos ynddi ei hun. Felly, i'r perwyl hwnnw, rwy'n datgan fy niddordeb yn y mater hwn yn gyntaf fel cynghorydd presennol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwelaf fod yr Aelod dros Ogwr yma, ac felly ni fydd angen i mi egluro daearyddiaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Ond i'r rhai nad ydynt yn gwybod, mae gennych dri phrif gwm yng ngogledd yr etholaeth—cymoedd Ogwr, Llynfi a Garw—a'ch trefi mwy o faint yn y de. Ond yn anffodus, o edrych ar y broses gynllunio honno, a phroses y CDLl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'n dangos dau hanner gwahanol iawn i'r stori.
Fe roddaf enghraifft ichi: yn CDLl 2018-33 cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, dim ond 14 y cant o'r cartrefi y bwriedir eu hadeiladu sydd yn ardaloedd y Cymoedd hynny, neu ardal porth y Cymoedd. Neu, o'i roi mewn ffordd arall, dim ond 1,360 o'r 9,200 o gartrefi a gynlluniwyd sydd wedi'u lleoli yn y cymunedau hynny. Y cwestiwn y mae angen inni ei ofyn i ni'n hunain yw, 'Pam?' Pam y mae proses ein CDLl ym Mhen-y-bont ar Ogwr—ac mewn mannau eraill yn ôl pob tebyg—yn gwneud cam â chymunedau'r Cymoedd?
Wrth gwrs, mae gan rai lleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr dir llwyd sylweddol y gellid adeiladu arno yng nghymunedau'r Cymoedd hyn. Rwyf wedi cael y trafodaethau hyn gyda swyddogion ac yn y gorffennol, maent wedi dweud wrthyf nad yw'r ardaloedd hyn mor ddeniadol i ddatblygwyr. Ond does bosibl nad y gynffon yn ysgwyd y ci yw hynny. Mae angen inni sicrhau bod tai'n cael eu hadeiladu lle byddant yn gwneud y mwyaf o les cyhoeddus—[Torri ar draws.]—yn hytrach na gorlenwi cymunedau eraill am eu bod yn fwy deniadol. [Torri ar draws.]
[Anghlywadwy.]—hyd yn hyn.
Rwy'n ymddiheuro. Fe ddof i ben yn fuan. Dylai ein polisïau cynllunio fod o fudd i'n cymunedau, nid ein datblygwyr. Mae un o adroddiadau cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ei hun yn dweud:
'mae problemau capasiti trafnidiaeth cyfredol yn atal datblygiad sylweddol ychwanegol yn yr ardal ar hyn o bryd'.
Gan nad ydym yn buddsoddi yng nghymunedau'r Cymoedd, fe'u hystyrir yn llai deniadol i fyw ynddynt. Ond wedyn, nid ydym yn datrys yr angen hwnnw am dai ychwanegol oherwydd diffyg capasiti trafnidiaeth. Mae'n gylch dieflig.
Os ydym am godi'r gwastad yn y Cymoedd, ni allwn ganiatáu i hyn barhau. Mae arnom angen system gynllunio sy'n gweithio i'n holl gymunedau, ac sy'n eu gwneud yn fwy deniadol i fyw ynddynt drwy fuddsoddiad pellach gan bob haen o Lywodraeth, ac annog awdurdodau lleol nid yn unig i ddewis yr opsiwn hawdd o ran cyrraedd targedau tai, ond y rhai sydd â'r budd hirdymor mwyaf i'n cymunedau hefyd.
Galwaf ar Weinidog yr Economi i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Alun Davies am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n drafodaeth wirioneddol ddiddorol ac amserol mewn nifer o ffyrdd. Hoffwn ddiolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau meddylgar. Bydd y rhan fwyaf o fy sylwadau'n ymwneud ag ardal Blaenau'r Cymoedd wrth gwrs, am mai o'r fan honno y daw Alun Davies, fel y mae'n ein hatgoffa'n rheolaidd, ac mae wedi bod yn bleser ei glywed yn sôn am yr hanes hir pan wyf wedi bod ym Mlaenau Gwent, yn ogystal ag i lawr yma.
Ond byddwn yn dweud wrth Tom Giffard a'i gyfraniad, os ydym yn mynd i geisio cael system lle gallwn gyfeirio buddsoddiad yn fwriadol tuag at ardaloedd llai breintiedig, mae heriau gwirioneddol yn y dull o weithredu sy'n deillio, nid yn unig o godi'r gwastad, ond o reoli cymorthdaliadau a'r Bil Rheoli Cymorthdaliadau sy'n mynd drwy Senedd y DU, y bydd gan yr Aelodau yma ddiddordeb ynddo. Oherwydd os bydd hwnnw'n mynd rhagddo ar y sail bresennol, mae'n ei gwneud yn llawer iawn anos buddsoddi yn yr ardaloedd llai breintiedig hynny. Yn hytrach na gweld proses lle mae'n haws ac yn fwy deniadol i fuddsoddi yn yr ardaloedd lleiaf cefnog hynny, bydd yn anos fyth ei wneud. Mae'n rhan o'r her a welwn, her y cyfeiriodd Alun Davies ati, am label cyffredinol 'codi'r gwastad' nad oes neb yn mynd i anghytuno ag ef yn ei hanfod, ac eto realiti'r dewisiadau polisi sy'n cael eu gwneud. Byddaf yn sôn rhagor yn nes ymlaen am godi'r gwastad.
Y gwir amdani yw bod llawer o'r gwaith a wnaethom i gefnogi Blaenau'r Cymoedd yn arbennig wedi bod yn bosibl o ganlyniad i waith Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y trydydd sector, addysg uwch, y sector preifat a'r sector gwirfoddol wrth gwrs, i ddarparu cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. I roi hynny yn ei gyd-destun, mae rhaglenni ariannu presennol yr UE wedi helpu i greu 3,600 o swyddi ac wedi cefnogi mwy na 2,000 o fusnesau ac wedi helpu bron i 9,000 o bobl i gael gwaith, yn ardal Blaenau'r Cymoedd yn unig.
Oherwydd y llwyddiant hwn treuliasom gryn dipyn o amser yn cynllunio fframwaith, gyda phartneriaid allweddol yng Nghymru, ar gyfer buddsoddi yn seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb, gyda blaenoriaethau clir i Gymru. Dyma sut y mae dull Tîm Cymru yn edrych, ac rydym yn bwriadu adeiladu ar hynny a'r gwaith a wnawn yn awr, ynghyd â gwaith y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei wneud, felly ceir cyfryngwr diduedd i edrych ar y dystiolaeth ryngwladol o ran sut y gallwn weithredu datblygu economaidd rhanbarthol yn llwyddiannus.
Yn ystod fy natganiad fis diwethaf ar gynlluniau'r DU ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE a'r agenda codi'r gwastad yn gyffredinol, rhannais nid yn unig fy mhryderon, ond pryderon Llywodraethau cenedlaethol datganoledig eraill yn y DU, seneddau, pwyllgorau ac arbenigwyr blaenllaw. Mae'n dal yn wir fod dull Llywodraeth y DU hyd yma yn gymysglyd, yn anhrefnus, yn brin o unrhyw resymeg economaidd sylweddol neu gydlynol, ac nid oes cytundeb na mewnwelediad yn perthyn i'r dull cyfredol. Os bydd yn parhau ar y daith hon, bydd yn methu cyflawni'r canlyniadau y mae ein cymunedau'n eu haeddu. Ac nid wyf yn golygu i Gymru'n unig yma chwaith oherwydd y gwir amdani yw nad fy marn i'n unig y bydd pobl yn gyfarwydd â hi, ond pe baech yn cael y sgwrs hon gyda llywodraeth leol, y sector addysg uwch, neu'r trydydd sector yn yr Alban neu Loegr yn ogystal ag yma yng Nghymru, byddai'r farn yn debyg ar y cyfan. Yr her yw mynd drwy'r dryswch hwnnw a chyrraedd fframwaith a allai sicrhau'r math o fanteision y gallai pob Llywodraeth o wahanol liwiau ledled y DU ymrwymo iddynt a chytuno arnynt.
Mae fy rhagflaenydd a minnau wedi gofyn am gyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU sy'n arwain yn y maes hwn i drafod y pryderon hynny ac i fod eisiau dod i gytundeb am ffordd well ymlaen. Mae'n hen bryd cynnal y cyfarfodydd, o ystyried bod dros 18 mis wedi mynd heibio ers Brexit. Yn anffodus, gwyddom nad yw'r gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa codi'r gwastad wedi gweld un penderfyniad yn cael ei wneud o'r cynlluniau peilot a gyhoeddwyd. Dim un penderfyniad ar y cynlluniau peilot hynny. Rydym ar y pwynt lle na fydd awdurdodau lleol ledled y DU yn llwyddo i wario'r arian hwnnw o fewn y flwyddyn galendr hon, ac mae honno'n her wirioneddol. Rydym yn colli blwyddyn o amser ac arian ac mewn gwirionedd, fel y mae pethau, byddwn yn colli mwy o amser i mewn i'r flwyddyn nesaf, oherwydd credaf y bydd yn heriol iawn i unrhyw Lywodraeth ddarparu fframwaith priodol a fydd yn barod ac ar gael i'w weithredu o fewn y flwyddyn nesaf.
Felly, rydym yn disgwyl yn awr y gallem gael fframwaith polisi lefel uchel i gyhoeddi'r gronfa ffyniant gyffredin yn yr adolygiad o wariant yn ddiweddarach y mis hwn. A dywedaf eto fy mod yn gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Michael Gove, yn mabwysiadu ymagwedd wahanol i'w ragflaenwyr, ac yn gyffredinol yn gweithio gyda ni i ddarparu arian ledled y DU a fydd yn sicrhau gwell gwerth am arian, gwell canlyniadau, ac na fydd yn peryglu'r gwaith o ddarparu cynlluniau cenedlaethol fel Busnes Cymru, prentisiaethau a'r banc datblygu. Mae'r dull presennol o weithredu hefyd yn peryglu'r cyllid hanfodol ar gyfer ystod eang o bartneriaid eraill, nid llywodraeth leol yn unig, sy'n hanfodol ar gyfer y twf yn ein cymunedau, ond fel y dywedais, y trydydd sector, busnes, ac addysg uwch ac addysg bellach hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol fod Alun Davies wedi tynnu sylw at ei rôl flaenorol fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros raglenni Ewropeaidd, nid dim ond y rôl hirsefydlog a fu gan y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gwneud y dewisiadau hynny gyda Chymru ac ar ei rhan, ond y realiti ein bod wedi dysgu gwersi ar beth i'w wneud. Symudasom oddi wrth ddull a oedd yn ymwneud â phrosiectau bach iawn, i edrych ar brosiectau mwy o faint a mwy strategol. Ac eto, mae'r peilot presennol ar gyfer y gronfa godi'r gwastad a'r gronfa adfywio cymunedol yn ceisio symud oddi wrth hynny'n fwriadol i gael dull llawer llai, llawer mwy lleol o weithredu na fydd yn caniatáu i brosiectau rhanbarthol neu arwyddocaol yn genedlaethol gael eu cyflwyno. Felly, mae llawer gennym i'w ddysgu am yr hyn a wnaethom yn dda, yn ogystal â'r hyn nad ydym yn credu ei fod wedi gweithio, ac mae hynny'n rhan o'r her a nodwyd gan yr Aelod ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Ond er gwaethaf yr holl heriau sy'n ein hwynebu, yng Nghymru rydym yn bendant yn fwyaf llwyddiannus pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu atebion, ac roeddwn yn falch o glywed Alun Davies yn tynnu sylw at y dalent a'r ymrwymiad sy'n bodoli o fewn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac yn y sector preifat hefyd yn wir. Ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'r partneriaid hynny—felly, busnes, undebau llafur, llywodraeth leol, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru. Rydym i gyd wedi cael sgyrsiau, nid yn unig yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, lle maent wedi bod yn gymharol ddwys, ond mewn gwirionedd ers i mi fod yn Weinidog a chyn hynny. Mewn sawl ffordd, mae'r pandemig wedi dod â ni yn nes fyth at ein gilydd, nid yn unig ar gyfer y busnes anodd o oroesi, ond y cyfleoedd i wella ac adfywio.
Nawr, mae'r Aelod wedi tynnu sylw at y ffaith bod tasglu'r Cymoedd wedi dod i ben, ond mae Dawn Bowden a minnau yn gweithio i ymgorffori gwaith y tasglu yn ein cynlluniau hirdymor o fewn y Llywodraeth yn ogystal â chyda'r partneriaid y soniais amdanynt. Ac ni ellir gwadu bod angen gwneud mwy, ac mae'r her y mae'r Aelod yn ei gosod yn un deg ynglŷn â sut y gwnawn wahaniaeth: yn hytrach na siarad am yr hyn y dymunwn ei wneud, beth y mae hynny'n ei olygu i bobl a chymunedau ar lawr gwlad? Ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion a phartneriaid gydweithio'n agosach, nid yn unig gydag ymroddiad parhaus, ond i gofio bod a wnelo hyn â gwella canlyniadau. Ac rwy'n cydnabod peth o her yr Aelod ynglŷn â gweithio ar adolygiadau neu brosiectau ar draws y Llywodraeth. Cefais rywfaint o'r profiad hwnnw yn fy rôl gyntaf yn y Llywodraeth, ac roedd yn her cael Gweinidogion i gydweithio tuag at amcan a rennir y dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ar y pryd. Felly, mae her yma, ond mae llawer o hynny'n ymwneud â'r gwahanol ysgogiadau sydd gennym, ymrwymiad Gweinidogion, a'r gallu i ddefnyddio arian i'r un cyfeiriad er mwyn cyflawni amcanion.
Ond rydym yn glir yn ein huchelgais ar gyfer adferiad economaidd sy'n adeiladu Cymru fwy teg, mwy gwyrdd a mwy ffyniannus. Ac roedd yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y buddsoddiad yn rhaglen y Cymoedd Technoleg, sy'n rhan o'r weledigaeth honno, ac mae'n gwneud cynnydd; mae'n gweld mwy o ganlyniadau. Roeddwn yng nghyfleuster Thales yn ddiweddar, gydag eraill, a sylwodd yr Aelod fy mod yno. Roeddwn yn falch iawn o'i gael yn cymeradwyo fy ymweliad â'i etholaeth. Ond i weld beth sy'n digwydd wedyn i adeiladu ar hynny, nid yn unig ar gyfer yr un prosiect, ond ar gyfer y cyfleoedd i fusnesau eraill, a'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch cael hybiau i dynnu pobl at ei gilydd mewn gweithgarwch.
Ac yn yr un ffordd, cyfarfu'r Prif Weinidog hefyd â chynrychiolwyr o CiNER Glass Limited, sy'n ceisio creu cyfle cyflogaeth sylweddol, eto ym Mlaenau Gwent. Ac mae'n wir, wrth gwrs, y byddant wedi'u lleoli'n ffisegol ym Mlaenau Gwent, ond mae'r ardal teithio i'r gwaith yn golygu y byddem yn disgwyl i bobl o'r tu allan i'r fwrdeistref sirol, ac etholaeth yr Aelod, gael eu cyflogi yno. Nawr, bydd hynny nid yn unig yn dod â swyddi i'r ardal, bydd yn ceisio defnyddio technoleg i helpu i gyrraedd targedau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru ei hun a bydd hefyd yn fuddsoddiad yn yr economi gylchol.
Ddydd Llun cyfarfûm â phrif weithredwyr ac arweinwyr gwleidyddol o'r pum awdurdod lleol sy'n ffurfio ardal Blaenau'r Cymoedd i drafod ein huchelgais cyffredin a sut yr ydym gyda'n gilydd yn trosi'r rheini'n flaenoriaethau ar y cyd ar gyfer gweithredu. Ac roedd y cyfarfod yn un cadarnhaol; nid yw hynny wedi bod yn wir bob amser. Os meddyliwch, tua 10 mlynedd yn ôl, roedd cael pum awdurdod lleol a'r Llywodraeth yn yr un ystafell gyda'i gilydd i gytuno ar brosiect, a chytuno ein bod yn mynd i ddefnyddio ein priod ddulliau gweithredu i wneud rhywbeth cadarnhaol—ac unwaith eto, nid yw hynny'n golygu na ddigwyddodd y sgyrsiau hynny erioed, ond credaf ein bod bellach mewn gwell lle i weld hynny'n troi'n realiti, sef y prif bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: nid amcanion yn unig, ond a fyddwn ni wedyn yn cyflawni'r canlyniadau y ceisiwn eu gosod i ni ein hunain yn ogystal?
Felly, mae hyn yn ymwneud hefyd â manteisio ar y cyfle i ailegnïo ac ailgynllunio llawer o ganol ein trefi a'n strydoedd mawr ar draws y Cymoedd, a'r newyddion da, er ein bod yn cydnabod bod llawer i'w herio, yw bod cyfleoedd hefyd o ran ble mae hynny eisoes wedi'i wneud yn llwyddiannus. Mae cyfleoedd i ddysgu o'r hyn sydd eisoes wedi gweithio. Ac rydym yn cydnabod canol trefi fel rhan o fywyd a gweithgarwch dynol, a'r angen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a phwysigrwydd ymdeimlad o le ar gyfer lle mae pobl yn byw o ran cael canol tref neu stryd fawr ffyniannus.
Felly, mae ein dull 'canol trefi yn gyntaf' wedi'i ymgorffori yn ein fframwaith cynllunio, 'Cymru'r Dyfodol', ac mae'n golygu mai canol trefi ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ynglŷn â lleoliad gweithleoedd a gwasanaethau. Mae'n rhywbeth yr oeddwn o ddifrif yn ei gylch yn fy rôl flaenorol fel Gweinidog iechyd: rhan o'r rheswm pam ein bod wedi edrych ar fuddsoddi mewn optometreg a fferylliaeth ar y stryd fawr. Ac felly, mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu £136 miliwn i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol trefi a dinasoedd yng Nghymru, gyda £3 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi wedi ei gymeradwyo ar gyfer etholaeth yr Aelod yn unig, i gefnogi dros £8 miliwn o fuddsoddiad ledled y sir. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod canol trefi yn wynebu llawer o heriau sydd wedi'u gwaethygu gan y pandemig.
Nawr, nodaf yr hyn a oedd gan yr Aelod i'w ddweud am y parc rhanbarthol, a'r pwynt am fuddsoddi mewn pobl a lle ac nid gweld llwyddiant yn unig yn nhermau niferoedd swyddi ond mewn perthynas ag a yw'n lle da i fyw ynddo. A yw pobl yn falch o ble y dônt, ac am aros yno hefyd? A allwch fod yn llwyddiannus yn y lle hwnnw a pheidio â theimlo'r angen i symud oddi yno a symud ymlaen? Felly, mae parc rhanbarthol y Cymoedd yn dal i fod yn rhywbeth yr hoffem ei weld yn llwyddo, a gwn y bydd yr Aelod am barhau i siarad â mi a fy nirprwy ynglŷn â hynny.
Mae'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol a gweithio mwy hyblyg yn rhoi cyfle inni sicrhau ymwelwyr newydd a rhoi egni newydd yn ôl yng nghalonnau llawer o gymunedau llai y Cymoedd. Dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau peilot ar gyfer hybiau cydweithio ac i'w cefnogi ar draws nifer o gymunedau'r Cymoedd.
Ac rwy'n cydnabod yr hyn a oedd gan yr Aelod i'w ddweud am Zip World Tower yn Hirwaun a phwysigrwydd twristiaeth. Mae Croeso Cymru wedi gweithio'n galed ar hyrwyddo'r Cymoedd, ac mae 60 y cant o'r lleoliadau y mae Croeso Cymru yn rhoi sylw iddynt o fewn ardal y Cymoedd. A dylwn ddweud fy mod wedi ymweld â Zip World, ac roedd—mae fy nodyn yn dweud y dylwn fod wrth fy modd; roeddwn ar ben fy nigon yn dod i lawr, ac roedd yn ddiwrnod allan gwych, a byddwn yn hapus i fynd eto gyda fy mab. Ac felly, mae'r pwynt yno am fod eisiau dychwelyd dro ar ôl tro. Gallaf ddweud yn onest, yn ystod y busnes anodd o geisio cael fy hun a phobl eraill wedi ein hethol—gyda rhai wedi'u hethol am y tro cyntaf—gwelais fwy o gymunedau'r Cymoedd ac rwy'n cydnabod bod potensial gwirioneddol yno. Rwyf innau hefyd am weld mwy o bobl yn mwynhau hynny fel rhan reolaidd o fywyd hefyd.
Rwyf am orffen drwy gydnabod bod cryfderau a chyfleoedd inni adeiladu arnynt. Yn bendant, mae'r heriau i gydnabod a mynd i'r afael â'n heconomïau lleol yn ganolog i'n dull o adfywio'r economi yn seiliedig ar leoedd. Edrychaf ymlaen at wneud hynny drwy weithio gyda'r Aelod a chyda'r cyfuniad o her a chefnogaeth y bydd yn ei gynnig wrth wneud hynny, ynghyd â chynrychiolwyr eraill y Cymoedd. Felly, nid yw'r sgwrs wedi gorffen o ran ble'r ydym arni heddiw; mae llawer mwy o bwyntiau inni wneud penderfyniadau arnynt er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. A rhaid i'n ffocws fod ar y canlyniadau a sut i wneud gwahaniaeth ymarferol gyda ac ar gyfer y bobl y mae'r Aelod yn eu cynrychioli ac y mae'n fraint gennyf innau eu gwasanaethu hefyd.
Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr, bawb.