Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 19 Hydref 2021.
Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru yn cydgyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Wrth i ni drafod y cynnig, rydym hefyd wrth gwrs yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mis sy'n dathlu ffigyrau du pwysig yn ein hanes, yn ogystal â nodi mor greiddiol yw profiad a thystiolaeth pobl ddu i'n diwylliant, hanes sy'n bwysig drwy'r flwyddyn, wrth reswm.