1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2021.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd? OQ57077
Diolch i Alun Davies am hynny, Llywydd. Bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad y prynhawn yma ar ein dull o gefnogi economi Cymru, gan gynnwys ffyrdd pellach y bydd buddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd yn manteisio yn llawn ar y cyfle strategol a grëwyd gan ddeuoli'r A465.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae pobl ym Mlaenau'r Cymoedd wedi gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn nyfodol eu pobl, eu cymunedau a'n heconomi. Yn fwy na deuoli'r A465, fel y mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio ato, rydym ni hefyd wedi gweld buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg, rydym ni wedi gweld buddsoddiad yn y rheilffordd. Yn aml iawn, caiff y buddsoddiadau hyn eu gwneud gan nad ydym ni wedi gweld dim o'r buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae rheilffordd Glynebwy yn enghraifft dda o hynny. Pan fyddwn ni'n clywed am godi'r gwastad, yr hyn a welwn ni yw tric consuriwr; rydym ni'n gweld rhithlun, rydym ni'n gweld mwg a drychau. Yr unig gysondeb yr ydym ni wedi ei weld gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw torri addewidion. Mae angen buddsoddiad ar bobl Blaenau'r Cymoedd yn nyfodol ein cymunedau ac maen nhw'n haeddu hynny. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi fod angen i honno fod yn neges gyson ac yn rhan o'r rhaglen ehangach o fuddsoddiad yng Nghymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru?
Diolch i Alun Davies am y pwyntiau yna. Rwyf i wedi cael cyfle, Llywydd, ers yr wythnos diwethaf, i ddarllen ei gyfraniad yn y ddadl fer yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu iddo ei esbonio yn gryno iawn pan ddisgrifiodd dull codi'r gwastad Llywodraeth y DU fel gwers
'ar sut i beidio â llunio polisi a sut i beidio â chynnwys pobl.'
Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i wneud y buddsoddiadau hynny. Cafodd y Gweinidog gyfarfod ar 11 Hydref ag arweinwyr a phrif weithredwyr y pum awdurdod lleol sydd â buddiant daearyddol ym Mlaenau'r Cymoedd i siarad am fuddsoddiadau strategol—mor wahanol i'r gronfa codi'r gwastad fel y'i gelwir. Rydym ni'n dal i ddisgwyl canlyniadau rownd gyntaf y cyllid hwn, gyda phedwar mis yn weddill erbyn hyn o'r flwyddyn ariannol y bydd modd gwario'r arian hwnnw ynddi. Bydd yn rhoi £10 miliwn i ni, rydym ni'n credu, yng Nghymru, o'i gymharu â £375 miliwn y byddem ni wedi ei gael pe baem ni wedi parhau i fod aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.
Eisteddais yn y Siambr hon a chlywais yr Aelodau ar y meinciau acw yn dweud wrth bobl yng Nghymru fod sicrwydd cwbl bendant na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Deg miliwn o bunnoedd yw'r hyn sydd gennym ni; byddem ni wedi cael £375 miliwn. Ac mae'r £10 miliwn hwnnw, Llywydd, mewn perygl gwirioneddol o gael ei wastraffu yn sgil penderfyniadau a fydd yn dameidiog, penderfyniadau a fydd—ac rydym ni'n gwybod hyn o'u hanes blaenorol—wedi eu hysgogi yn wleidyddol, yn hytrach nag ymateb i anghenion y bobl. [Torri ar draws.] O, ie, nid yw'r ffaith nad yw Robert Jenrick yn aelod o'r Cabinet yn Llywodraeth y DU mwyach yn golygu bod ei agwedd at wleidyddiaeth wedi mynd gydag ef. Rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn y ffordd y mae Alun Davies wedi ei awgrymu, yn ceisio gwneud ein buddsoddiadau mewn ffordd sy'n diwallu anghenion hirdymor a strategol y cymunedau lleol hynny, a byddwn yn parhau i wneud yn union hynny.
Gyda pharch, Prif Weinidog, mae 'pentan yn gweiddi parddu' yn dod i'r meddwl yn hynny o beth. Mae'n amlwg o ddadl fer Alun Davies yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, mai'r cwbl a wna'r Llywodraeth hon a Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru yw esgus rhoi sylw i'r problemau economaidd dwfn yn y Cymoedd. Mae'n iawn sefydlu tasglu a pharthau menter y Cymoedd, ond i sicrhau newid gwirioneddol, mae angen cymorth a pholisi dilynol. Ac, yn bwysicaf oll, fel y nododd Alun Davies yn gwbl briodol yn y ddadl fer, mae angen i arian ei ddilyn. Pryd mae'r Llywodraeth hon yn mynd i ymrwymo eu hunain—ymrwymo yn wirioneddol—i fuddsoddi yn y Cymoedd, nid geiriau yn unig, yr ydych chi'n siarad amdano yn barhaus, a'i gefnogi gyda pholisïau a fydd yn wirioneddol yn adfywio ein cymunedau? Diolch byth bod y DU yn cydio yn y danadl ac yn gofyn yn wirioneddol i'n cymunedau beth sydd ei angen arnyn nhw ac yn buddsoddi ynddyn nhw.
Dros £1 biliwn ar ddeuoli'r A465, £200 miliwn i greu gwasanaethau rheilffordd rhwng Glynebwy a'r arfordir, £0.5 miliwn i wneud yn siŵr y gallai Tŵr Zip World agor i ddarparu swyddi a phrofiadau twristiaeth yn y rhan honno o Gymru—dim ond tair enghraifft o arian gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y rhan honno o Gymru. Os oes gan yr Aelod honiadau y mae'n dymuno eu gwneud ynghylch rhagfarn wleidyddol yn y ffordd y caiff arian ei wario gan Lywodraeth Cymru, dylai eu gwneud nhw, a dylai roi enghreifftiau i ni yn cefnogi'r hyn a ddywedodd. Fe wnaf i anfon adroddiad ymchwiliad Tŷ'r Cyffredin i ddefnydd Robert Jenrick o arian cyhoeddus mewn etholaethau Ceidwadol ati. Gadewch iddi gyflwyno tystiolaeth o hynny yng Nghymru, a byddwn yn barod i wrando arni.