Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 19 Hydref 2021.
Llywydd, cyn toriad yr haf, gwnes i ddatganiad i'r Aelodau yn nodi'n fanylach y cynlluniau ar gyfer comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. A heddiw, gallaf barhau i rannu gyda chi'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud ers hynny, ac yn arbennig o ran penodiadau i'r comisiwn annibynnol a chyhoeddi'r amcanion cyffredinol.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod ein hundeb o bedair gwlad dan bwysau fel erioed o'r blaen a bod angen diwygio ar frys erbyn hyn. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymdrechu'n gyson i ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adeiladol. O'n rhan ni, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi ceisio ysgogi trafodaeth dro ar ôl tro am ddyfodol hyfyw i'r Deyrnas Unedig.
Yn 2017, fe wnaethom gyhoeddi 'Brexit a Datganoli', a oedd yn nodi ein cynigion ar gyfer ymateb cadarnhaol a chreadigol i oblygiadau cyfansoddiadol ymadael â'r UE. Ac yn 2019, nododd 'Diwygio ein Hundeb' ein 20 cynnig ar gyfer llywodraethu'r DU yn y dyfodol, a chyhoeddwyd fersiwn wedi'i diweddaru gennym yn gynharach eleni. Fodd bynnag, ymddengys mai eu hunig ymateb yw ceisio mynnu rhyw fath o unoliaeth gyhyrol, ceisio mwy o reolaeth o’r canol, tresmasu ar faterion cymhwysedd datganoledig a dangos ei pharch at ein Senedd drwy dorri confensiwn Sewel a thanseilio'r setliad datganoli a democratiaeth Gymreig.
Nid yw'r materion hyn yn ymwneud â rhyw ddadl gyfansoddiadol ddi-baid rhwng pleidiau gwleidyddol neu Lywodraethau, ond maen nhw’n mynd at wraidd ein democratiaeth, ac yn ein barn ni, mae'r achos dros ddiwygio cyfansoddiadol wedi'i wreiddio yn y broses o rymuso pobl Cymru, gan alluogi penderfyniadau sy'n effeithio ar les ein cymunedau a'n cenedl i gael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Sefydlu'r comisiwn annibynnol yw'r cam nesaf yn y ddadl honno. Mae'r amser yn iawn ar gyfer sgwrs genedlaethol ddifrifol yng Nghymru am yr opsiynau ar gyfer ein dyfodol.