Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 19 Hydref 2021.
Llywydd, amcan cyffredinol cyntaf y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu opsiynau cadarn ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol. Rydym yn dymuno i'r comisiwn annibynnol gychwyn sgwrs â phobl Cymru ynghylch beth allai'r opsiynau hynny fod.
Mae ein hundeb dan fwy o fygythiad heddiw nag ar unrhyw adeg, ac ni ellir anwybyddu hyn: o Lywodraeth bresennol y DU a'i hymdrechion mynych i danseilio datganoli, i alwadau o'r newydd am ddatganoli yn Lloegr, i'r pwysau am ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, a'r trafodaethau parhaus am ddyfodol cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon. Felly, ail amcan cyffredinol y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu'r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Nawr, nid ydym o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint y dasg sy'n wynebu'r comisiwn annibynnol. Mae hon yn sgwrs sy'n fwy na gwahaniaethau gwleidyddol pleidiol. Er mwyn bod yn ystyriaeth ystyrlon o farn Cymru gyfan, mae angen i'r comisiwn fod yn annibynnol ar y Llywodraeth a gallu ystyried y sbectrwm barn a phrofiadau. Bydd y comisiwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn gallu cael gafael ar adnoddau Llywodraeth Cymru i wneud eu gwaith, ond bydd cadeiryddion ac aelodau'r comisiwn yn pennu eu cyfeiriad eu hunain.
Rwy'n falch iawn o ddweud wrth y Senedd yn ffurfiol am y cyhoeddiad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, ein bod wedi sicrhau dau berson o'r safon uchaf i arwain y gwaith hwn fel cyd-gadeiryddion y comisiwn: Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister. Mae Laura McAllister yn academydd o Gymru, yn gyn bêl-droedwraig rhyngwladol ac yn uwch weinyddwr chwaraeon. Ar hyn o bryd mae'n athro polisi cyhoeddus a llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n adnabyddus fel dadansoddwr a sylwebydd gwleidyddol, ac mae hi wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Senedd ar nifer o brosiectau i'w diwygio i'n sefydliadau.
Mae Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, yn academydd a diwinydd nodedig sydd ag ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol. Mae eu cefndiroedd a'u profiadau yn creu cyfuniad pwerus, sy’n gallu dod â chonsensws gan hefyd herio pawb sy'n gysylltiedig i feddwl yn greadigol am ein dyfodol cyfansoddiadol. Rydym wedi cael nifer o gyfarfodydd cynhyrchiol iawn gyda'r cyd-gadeiryddion am y comisiwn annibynnol, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld yr arweiniad y byddan nhw'n ei roi i'r gwaith hwn.
Hoffwn ddiolch i bob plaid yn yr ystafell hon am eu hymgysylltiad cadarnhaol a'u cefnogaeth adeiladol wrth sefydlu'r comisiwn annibynnol. Rwyf yn ddiolchgar am yr amynedd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan bawb sy'n gysylltiedig. Rwy'n fodlon bod yr amcanion cyffredinol yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng cyfarwyddo gwaith y comisiwn annibynnol, a rhoi'r rhyddid iddyn nhw ddatblygu argymhellion yn annibynnol ar y Llywodraeth, a'u gallu i ymgysylltu'n rhydd ac yn agored â phawb sydd â diddordeb.
Mae disgwyl i'r comisiwn ddechrau ar y gwaith fis nesaf. Rydym yn gwneud cynnydd da o ran penodi aelodau i'r comisiwn annibynnol, ac rwy’n bwriadu cyhoeddi gweddill yr aelodau yn ddiweddarach y mis hwn neu'n gynnar yn y mis canlynol. Bydd y comisiwn annibynnol hefyd yn gallu comisiynu ymchwil, dadansoddi a barn arbenigol drwy banel o arbenigwyr a sefydlwyd at y diben hwn. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach i'r Senedd ar gynnydd y comisiwn annibynnol o ran ymgysylltu, ac ar sefydlu'r panel arbenigol.
Rydym yn rhagweld adroddiad interim gan y comisiwn annibynnol erbyn diwedd 2022. Dylai'r comisiwn annibynnol lunio'r adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023. Bydd yr amcanion cyffredinol ar gael ar wefan y comisiwn annibynnol.
Mae hon yn fenter hanfodol bwysig. Mae'n ymwneud â dyfodol Cymru a llesiant a ffyniant pobl Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd am ei weld yn llwyddo, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfnod o waith ac ymgysylltiad trawsbleidiol adeiladol ledled Cymru i gyflwyno adroddiad cryf gydag argymhellion beiddgar. Byddaf yn diweddaru'r Senedd eto ar ôl i aelodau annibynnol y comisiwn gael eu penodi, ac ar ôl cyfarfod cyntaf y comisiwn annibynnol. Diolch, Llywydd.