Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 19 Hydref 2021.
Os caf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a'r crynodeb, rwy’n credu, o hanes datganoli—yn sicr fy atgof i o ddechrau'r 1970au, pan fo'n rhaid i mi ddweud roedd rhai ohonom nad oeddem yn siŵr y byddai byth yn digwydd, ond y wers yr ydych yn ei dysgu yw bod pethau'n newid a bod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu mai Benjamin Franklin a ddywedodd eich bod, drwy fethu â pharatoi, yn paratoi i fethu. Ac fe ddywedodd hefyd, pan fyddwch chi wedi gorffen newid, eich bod wedi gorffen. Ac rydym mewn proses o newid, a dyna pam rwy'n credu bod yn rhaid i ni groesawu'r newid hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar am eich cyfeiriad at y dyfyniad a briodolwyd i mi gan Dominic Cummings; yr Arglwydd Frost oedd e mewn gwirionedd. Roeddwn i'n meddwl bod yr Arglwydd Frost yn fwy perthnasol ar y sail ei fod ar hyn o bryd yn arwain y trafodaethau ar yr ymadawiad â'r UE, felly efallai fod ei sylwadau'n werth eu hystyried yn ofalus iawn.
A gaf i ddweud eto fy mod yn credu ei bod efallai'n gamgymeriad canolbwyntio ar opsiynau unigol penodol, boed yn annibyniaeth, boed yn ffederaliaeth, ffederaliaeth radical, unoliaeth ac yn y blaen? Rwy'n credu mai'r man cychwyn o ran y neges mae'n rhaid iddi ddod drosodd yw ein bod eisiau gweld newid a fydd o fudd i bobl Cymru, a fydd yn dod â phenderfyniadau'n nes at bobl, i roi mwy o reolaeth i bobl dros y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Felly, mae sybsidiaredd i mi yn un sylfaenol.
Fe wnaethoch chi sôn, wrth gwrs, am y cyfweliad gyda Keir Starmer ac wrth gwrs comisiwn Llafur y DU sydd yno. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r sylwadau hynny a'r comisiwn hwnnw'n ei ddangos, wrth gwrs, yw nad yw'n ymwneud â'r sefyllfa yng Nghymru yn unig, neu'r Alban, neu Ogledd Iwerddon, mae galwadau clir am ddatganoli pŵer, er mwyn grymuso pobl a chymunedau'n well mewn perthynas â'r datganoli hwnnw sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr. Efallai fod y ddadl yno 10 mlynedd ar ei hôl hi, ond mae'n sicr yn cyflymu ac mae'n sicr yn berthnasol, yn fy marn i, i'r ddadl sy'n dod ar gyfer y dyfodol. Fy marn i yw, mewn perthynas â chomisiwn Plaid Lafur y DU ac unrhyw gomisiynau eraill sydd yno, y byddwn i'n gobeithio y byddai'r comisiwn hwn, sy'n gomisiwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ar sail ymrwymiad maniffesto ond sy'n annibynnol ar y Llywodraeth ac sydd â mandad i ystyried pob opsiwn, am ymgysylltu ag unrhyw broses sy'n digwydd sy'n berthnasol i bobl Cymru ac sy'n berthnasol i'r dasg sydd ganddyn nhw.
Ac o ran a fydd Llywodraeth y DU yn gwrando, mae Llywodraethau’n mynd, mae Llywodraethau'n dod, mae newidiadau i wleidyddiaeth. Rwy’n credu, os gall y comisiwn gael y math o ymgysylltu yr ydym ni eisiau ei weld yn ei gael, os yw'n gallu creu'r math hwnnw o gonsensws ymhlith pobl Cymru a, gobeithio, yn drawsbleidiol hefyd ar yr angen am newid, yna byddwn ni'n llwyddo. Felly, rydym ni naill ai'n dadlau ein hachos, rydym ni naill ai'n ymgyrchu dros y mathau o newidiadau y credwn y dylid eu gwneud a'r mathau o werthoedd sydd gennym, fel arall beth yw diben y lle hwn? Mae newid yn rhywbeth sy'n digwydd bob amser. Mae'n digwydd bob amser, ac mae'n cael ei ddyfynnu'n fawr fod datganoli'n broses nid yn ddigwyddiad, wel, mae hanes yn newid yn barhaus. Mae'r byd rydym ni’n byw ynddo yn newid, a rhaid i mi ddweud bod y byd yr oeddwn i'n byw ynddo pan ddechreuais i edrych ar ddatganoli ar ôl Kilbrandon ym 1974 wedi newid yn aruthrol. Dydych chi ddim yn gweld Tipp-Ex a phapur carbon yn swyddfeydd pobl fel roeddech chi’n ei weld unwaith. Mae'r chwyldro technolegol wedi newid cymaint, fel mae'r byd wedi'i wneud yn fyd-eang.
Felly, rwy’n gweld y comisiwn ac rwy’n gweld, gobeithio, yn gryno i'r pwyntiau a godwyd gennych: rydym ni'n byw mewn byd byd-eang, rhaid i Gymru wneud ei llais ei hun a'i ffordd ei hun a'i hunaniaeth ei hun yno. Mae'n rhaid iddi weithio gyda'r cymdogion o'i chwmpas, mae'n rhaid iddi ddatblygu'r rhyngddibyniaethau, ac mae hynny'n mynd yn sylfaenol i'n democratiaeth. Ond, y tu hwnt i bopeth, nid yw hyn yn ymwneud â ni fel gwleidyddion, pa blaid bynnag yr ydym, yn dweud ein bod yn gwybod beth sydd orau i bobl Cymru, mae'n golygu dweud mewn gwirionedd fod heriau o'n blaenau, a'r ffordd orau ymlaen o benderfynu beth y dylen nhw fod yw drwy ymgysylltu â phobl Cymru, y bobl sy'n ein hethol. Ac rwy'n credu mai dyna pam mae'r comisiwn mor hanfodol bwysig. Diolch, Llywydd.