– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 20 Hydref 2021.
Mae'r ddadl fer heddiw i gael ei chyflwyno gan Samuel Kurtz. Felly, gwnaf ofyn i Samuel Kurtz i gyflwyno ei ddadl.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud yr un o fy amser i James Evans, Rhun ap Iorwerth, Peter Fox, Cefin Campbell ac Alun Davies. Hoffwn ddatgan buddiant cyn i mi ddechrau.
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a adwaenir yn fwy cyffredin fel CFfI Cymru, yn fudiad ieuenctid gwirfoddol ac yn elusen gofrestredig sy'n gweithredu'n ddwyieithog ledled y Gymru wledig. Dechreuodd fy mywyd gyda CFfI pan oeddwn yn llanc smotiog 12 oed a wisgai frêd, wrth imi gael fy llusgo i ymarfer pantomeim y clwb gan fy mrawd hŷn.
O, do fe wnaeth. [Chwerthin.]
Nawr, ychydig yn hŷn, gyda llai o smotiau ond yn dal i wisgo bresys, fy mraint enfawr yw bod yn gadeirydd CFfI sir Benfro, ac rwy'n falch o wisgo fy nhei CFfI sir Benfro heddiw.
Pam, felly, y teimlais yr angen yn fy nadl fer gyntaf yn y Siambr hon i drafod CFfI Cymru? Ai oherwydd y ffrindiau di-rif a wneuthum ac rwy'n parhau i'w gwneud drwy fy ymwneud â'r sefydliad hwn? Ai oherwydd y sgiliau niferus y gall pobl ifanc eu dysgu a'u datblygu rhwng 10 a 28 oed? I mi, fel rhywun sydd wedi bod drwy'r mudiad, rwy'n credu nad oes digon o bobl y tu allan iddo yn deall, yn sylweddoli ac yn gwerthfawrogi'n llawn yr hyn sydd gan y CFfI i'w gynnig.
Sefydlwyd CFfI Cymru yn 1936, a cheir 12 ffederasiwn sirol ledled Cymru. Y clwb hynaf yw CFfI Clunderwen, dafliad carreg o fy etholaeth i, yn etholaeth gyfagos Paul Davies o'r Preseli, sir Benfro. Sefydlwyd y clwb hwn yn 1929 gan Mr E.R. Phillips, y rhoddir ei enw bellach i'r tlws a gyflwynir i'r clwb yn sir Benfro sydd wedi cyfrannu fwyaf at elusen a'u cymuned leol.
Yn y flwyddyn cyn COVID, roedd gan Gymru 4,645 o aelodau. Yn anffodus, ac yn ddealladwy, gostyngodd yr aelodaeth fwy na 50 y cant yn y flwyddyn 2020-21, i 2,173. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi gweld llu o aelodau'n dychwelyd i'r mudiad yn ystod y misoedd diwethaf wrth i'r cyfyngiadau ganiatáu, ac wrth i'r trothwy oedran uchaf godi o 26 i 28 oed.
Mae clybiau ffermwyr ifanc yn cynnig man cyfarfod i bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru allu cymdeithasu, dysgu sgiliau newydd, cystadlu a phrofi pethau newydd. Fodd bynnag, mae'r enw'n gamarweiniol braidd, gan nad oes raid i chi fod yn ffermwr i fod yn ffermwr ifanc. Yn naturiol, er bod llawer o gystadlaethau'n tueddu tuag at amaethyddiaeth, o ddiogelwch fferm a chodi ffensys i drefnu blodau a barnu stoc, ceir cystadlaethau hefyd fel y pantomeimau a'r dramâu llwyfan, siarad cyhoeddus, cystadlaethau chwaraeon a llawer mwy. Mae rhywbeth i bawb mewn gwirionedd.
Mae'r mudiad yma yng Nghymru yn ddwyieithog, gyda nifer o gystadlaethau yn y Gymraeg, gydag Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn cael ei dangos ar S4C yn aml. Mae'r iaith a diwylliant Cymraeg yn cydblethu gyda mudiad y ffermwyr ifanc.
Er bod CFfI Cymru yn elusen ei hun, nid yw eu haelodau'n colli cyfle i godi arian mawr ei angen ar gyfer elusennau eraill, yn lleol ac yn genedlaethol. Fy hoff atgof CFfI oedd pan oeddwn yn un o 27 o aelodau a chefnogwyr CFfI sir Benfro a feiciodd y 250 milltir o faes sioe Hwlffordd i'n cyfarfod cyffredinol blynyddol cenedlaethol yn Blackpool, dros bedwar diwrnod. Cawsom lety gan CFfI arall ar ein taith yng Nghroesoswallt, ac ar ôl cyrraedd Blackpool fe'n cyfarchwyd gan dorfeydd hwyliog, braidd yn feddw. Wrth i'r llwch setlo a'r briwiau beicio wella, yn cynnwys fy rhai i, y cyfanswm a godwyd oedd £27,000, wedi'i rannu rhwng Prostate Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae'r mudiad hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a theithio achrededig i rannau pell o'r byd. Mae hyd yn oed yn cynnig yr hyn y byddai rhai'n ei ystyried yn bethau mwy syml, megis sut i gadeirio cyfarfod yn llwyddiannus, ac fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gallaf weld y sgiliau cadeirio rhagorol hynny ar waith gan fod Paul Davies ei hun yn gyn-aelod o'r ffermwyr ifanc, ac yn cadeirio'r pwyllgor gyda sgiliau rhagorol.
Fodd bynnag, mae cyfyngiadau'r 18 mis diwethaf wedi golygu bod y mudiad wedi gorfod addasu. Er bod nosweithiau clwb a chystadlaethau wedi symud ar-lein, nid anghofiodd y ffermwyr ifanc am eu rôl yn eu hardaloedd. Drwy gydol y pandemig, roedd aelodau ledled Cymru yn gwasanaethu eu cymunedau lleol yn ardderchog. Cyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 hyd yn oed, roedd clybiau eisoes yn trefnu teithiau siopa a chasglu presgripsiynau ar gyfer eu cymdogion mwyaf agored i niwed. Wrth i'r cyfnod clo fynd rhagddo, aelodau'r CFfI, fel rhan o'r rhwydwaith gwirfoddolwyr, a gefnogodd ein pobl fwyaf gwledig a bregus. Unig reswm yr aelodau dros wneud hyn oedd er mwyn cefnogi'r rhai anghenus, ac wrth gwrs, parhaodd llawer o ffermwyr ifanc i ffermio'r tir, i edrych ar ôl eu hanifeiliaid ac i ofalu am eu cnydau.
Cefais fy atgoffa o hyn nos Sul, yng ngŵyl ddiolchgarwch CFfI sir Benfro, pam roddodd pob clwb yn y sir hamper mawr o fwyd tuag at fanc bwyd lleol, PATCH. Hyd yn oed mewn gwasanaeth lle gallai'r ffermwyr ifanc yn hawdd fod wedi eistedd yn ôl a bod yn ddiolchgar am yr hyn a oedd ganddynt, roeddent yn meddwl am y rhai sy'n llawer llai ffodus, ac yn eu cefnogi—sy'n dyst i'r hyn yw'r ffermwyr ifanc. Yr wythnos diwethaf yn agoriad brenhinol y Senedd, roedd Eleri George, cyn gadeirydd CFfI Keyston sir Benfro, yma yn cynrychioli ei chlwb fel hyrwyddwr COVID—cydnabyddiaeth fach i'r nifer fawr o aelodau a gefnogodd eu cymunedau drwy gydol y cyfnod hwn.
A dyna pam roeddwn am gyflwyno'r ddadl fer hon y prynhawn yma ar fudiad y CFfI, oherwydd pan fydd rhai pobl am ladd ar ieuenctid heddiw fel rhai hunanol, diog ac anghwrtais, gallaf ddweud yn onest na allai'r bobl hynny erioed fod wedi ymwneud ag aelodau cydwybodol, gofalgar ac anhunanol clybiau ffermwyr ifanc Cymru.
Ac os caf, Weinidog, wrth ichi wrando ar Zoom, hoffwn gyfeirio'n ôl at rai o'r pwyntiau y soniodd eich cyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, amdanynt yn ei ddatganiad ddoe. Soniodd am warant pobl ifanc Llywodraeth Cymru, a sut y byddai rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn helpu i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau i'r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Soniodd hefyd am werth cefnogi economïau lleol cryfach i helpu i gynnal y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru, yn enwedig. Os yw'r Llywodraeth hon yn chwilio am enghreifftiau o ble y mae'r dyheadau hyn eisoes ar waith, lle caiff pobl ifanc eu cefnogi, lle caiff eu sgiliau eu datblygu a lle caiff y Gymraeg ei chynnal, nid oes angen iddynt edrych ymhellach na chlybiau ffermwyr ifanc Cymru, sydd wedi bod yn cynhyrchu pobl ifanc gydwybodol yng nghefn gwlad Cymru ers degawdau.
Mae'r ddadl fer y prynhawn yma wedi bod yn llafur cariad i mi. Rwy'n eithaf siŵr na fyddwn yma ac na fyddwn y person ydwyf heb y CFfI, ac am hynny rwy'n ddiolchgar iawn, er nad yw rhai o Aelodau'r gwrthbleidiau efallai. Ond faint o bobl ifanc a allai elwa o'r sefydliad hwn? Sut y gallwn ni yma helpu i gefnogi ein clybiau ffermwyr ifanc lleol i recriwtio mwy o aelodau, gan wella'r cyfleoedd i'r rhai nad ydynt yn eu cael o bosibl? Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau sy'n gwrando ar y ddadl hon, a'r hyn na allaf ond dychmygu yw'r cannoedd a'r miloedd lawer o bobl sy'n gwylio'r ddadl hon yn fyw, i fynd i ddweud wrth bobl eich bod yn gwybod beth y gall y CFfI ei gynnig i bobl ifanc Cymru. A chofiwch, nid oes raid i chi fod yn ffermwr i fod yn ffermwr ifanc. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl yma, cyfle i ddweud gair neu ddau ac, yn syml iawn, eisiau dweud diolch ydw i heddiw yma—diolch am fudiad ffermwyr ifanc sydd yn cynnig gymaint o gyfleoedd i bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru, diolch am fudiad sy'n gwneud cymaint o gyfraniad at y gymdeithas wledig yng Nghymru, am fudiad sydd yn gwneud gymaint i hybu y Gymraeg yn y cymunedau hynny, a diolch, wrth gwrs, i'r byddinoedd o wirfoddolwyr rhyfeddol sydd yn cynnal y cyfan. Mae fy mhlant i fy hun wedi cael gymaint o gyfleon gwerthfawr drwy'r ffermwyr ifanc, ac mae o'n dal yn rhan bwysig o fywyd ein teulu ni. Ac yn y cyfnod diweddar yma, mae o wedi bod yn gynhaliaeth ac yn gefnogaeth i gymaint o bobl ifanc ac i'w cymunedau, ac mae eisiau i ninnau rŵan gynnig y gefnogaeth yna yn ôl i'r mudiad yn ei dro, wrth iddo fo wynebu'r heriau sydd wedi cael eu taflu ato fo drwy'r pandemig yma. Mae o, heb os, yn un o sefydliadau ieuenctid pwysicaf Cymru. Mae o wedi profi hynny tu hwnt i gwestiwn yn ei 85 mlynedd gyntaf, ac mi ddylem ni gyd fod yn ei hybu fo i sicrhau ei fod o'n cael dyfodol disglair hefyd.
James Evans.
Diolch, Lywydd, a gobeithio y byddwch yn hyblyg gyda fy munud. Hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am roi munud o'i amser heddiw, ond yn fwy na hynny, hoffwn ddiolch i fudiad CFfI yn sir Faesyfed am roi'r sgiliau a'r cyfle i mi allu sefyll yma heddiw a siarad yn y ddadl hon. Mae CFfI yn gwneud llawer iawn o waith i ddatblygu pobl ifanc, o siarad cyhoeddus i helpu elusennau, barnu stoc, dysgu parch tuag at gymuned a dod o hyd i gariad. [Chwerthin.]
Rhoddodd CFfI gyfle i mi gynrychioli fy nghlwb, clwb Rhosgoch yn fy sir, sef sir Faesyfed, ac wedi hynny yn fy ngwlad, Cymru, a'r ffermwyr ifanc cenedlaethol yng nghyngor Ewropeaidd y CFfI wedyn. Ac roedd gallu cynrychioli ffermwyr ifanc o bob rhan o Gymru a Lloegr yn anrhydedd enfawr, ac roedd yn wych. Ddydd Sul, roeddwn yn rhoi yn ôl i sefydliad a roddodd gymaint i mi wrth imi feirniadu'r gystadleuaeth siarad cyhoeddus, ac roedd y safon yn wych, a da iawn bawb a gymerodd ran.
Mae CFfI yn sefydliad gwych, ac yn bersonol rwy'n credu mai dyma'r mudiad ieuenctid gorau yn y byd i gyd. Mae'n wych, a hoffwn ddiolch i bawb yn y mudiad am y gwaith anhygoel a wnewch. Fel y dywedodd trefnydd blaenorol CFfI sir Faesyfed, Gaynor James, wrthyf ychydig ar ôl canlyniad yr etholiad, 'Oni bai am yr hen CFfI, Evans, ni fyddech chi lle rydych chi heddiw.' A hoffwn gadarnhau, oni bai am 'yr hen CFfI', yn bendant ni fyddwn yma heddiw. Diolch.
Hoffwn longyfarch yr Aelod dros sir Benfro am hyn—. Wel, nid sir Benfro gyfan; gallaf weld Paul Davies yn gwaredu.
Pe bai'n bosibl potelu'r CFfI, rwy'n credu y byddai gennym rywbeth y gallech ei werthu a'i ddosbarthu ledled y byd. Un o bleserau mawr bywyd fu gweithio gyda phobl ifanc wrth iddynt baratoi ar gyfer rali sirol, neu wylio rhai o'r cystadlaethau siarad cyhoeddus, a tybed faint o farciau y byddem wedi'u cael y prynhawn yma. Ac edrych hefyd ar bethau fel y gwyliau drama sy'n digwydd. Mae'n fudiad gwych sy'n gwneud gwaith gwych, ac ochr yn ochr â'r Urdd, rwy'n meddwl ein bod wedi ein bendithio yng Nghymru. Mae gennym ddau sefydliad sy'n cyfrannu cymaint at ddatblygu pobl ifanc a rhoi dechrau gwych mewn bywyd iddynt. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw sut y gallwn barhau i weithio gyda'r CFfI i sicrhau nid yn unig fod dyfodol ffermio yn ddiogel, fod dyfodol cymunedau gwledig yn ddiogel, ond bod dyfodol y wlad hon yn ddiogel hefyd, a chredaf y dylem i gyd fod yn ddiolchgar i'r CFfI am y gwaith y maent yn ei wneud, o un diwrnod i'r llall, a hefyd am yr holl hwyl y maent wedi gallu ei gynhyrchu i lawer ohonom dros ormod o flynyddoedd. Diolch.
Diolch i Sam am roi munud i gyfrannu i'r ddadl bwysig yma. Ie, mae'n rhaid i ni gydnabod cyfraniad aruthrol y clybiau ffermwyr ifanc am roi profiadau amhrisiadwy a sgiliau gydol oes i'n pobl ifanc ni. Fel dywedodd Alun Davies, rŷn ni wedi gweld cymaint o'r bobl ifanc yma yn datblygu i gyfrannu i'w cymunedau pan fyddan nhw'n hŷn ac yn dod i swyddi uchel iawn yng Nghymru, ac mae'r profiad maen nhw wedi'i gael gyda'r ffermwyr ifanc wedi bod yn aruthrol o bwysig.
Fel mae llawer wedi dweud, heblaw am fod yn un o'r dating agencies mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, mae'r ffermwyr ifanc wedi rhoi gymaint o brofiadau i'm mhlant i. Yn anffodus, cefais i ddim o'r cyfle. Yn nyffryn Aman, doedd yna ddim clwb ffermwyr ifanc, yn anffodus, ond mae fy mhlant i wedi cael profiad arbennig o fod yn aelodau o glwb ffermwyr ifanc Llanfynydd, ac wedi cymryd rhan mewn eisteddfodau a siarad cyhoeddus a hyd yn oed tynnu rhaff a phethau mor wych â hynny. Fel dywedodd Sam, un o'r pethau sydd wedi codi fy nghalon i yw gweld y bobl ifanc yma yn ystod y pandemig yn mynd ati i gefnogi cymunedau, fel dywedaist di, drwy gasglu presgripsiwns a gwneud siopa ac yn y blaen.
Dau beth yn glou. Mae rhyw 70 y cant o holl glybiau ffermwyr ifanc yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Nawr, dwi ddim yn mynd i gael cyfle i fynd i weld bob un ohonyn nhw, ond fyddwn i yn leicio gweld nifer ohonyn nhw dros y blynyddoedd nesaf. Ond y peth pwysicaf hefyd yn yr ardaloedd yna yw bod y mudiadau yn cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn croesawu dysgwyr mewn atyn nhw hefyd ac yn datblygu eu sgiliau nhw. Byddwn i'n mynd mor bell â dweud efallai taw'r mudiad ffermwyr ifanc yw un o'r mudiadau iaith pwysicaf sydd gyda ni yng Nghymru, a boed i hynny barhau i'r dyfodol. A dymuniadau gorau i'r ffermwyr ifanc.
Hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am roi munud o'i amser gwerthfawr i mi. Rwy'n teimlo fy mod ymhlith ffrindiau heddiw wrth inni sôn am y pwnc hwn sy'n ein clymu ac mae'n dangos cryfder y mudiad CFfI wrth iddo ddod â ni at ein gilydd. Mae'r mudiad hwnnw bob amser wedi bod yn rhan sylfaenol o'r gymuned wledig: fel y dywed Alun, elfen allweddol o'r gwead sy'n rhwymo popeth sy'n arbennig am fywyd cefn gwlad. Rwy'n tybio fy mod am fynd yn ôl at genhedlaeth hŷn. Roedd gen innau smotiau hefyd yn y dyddiau hynny, wrth imi dyfu i fyny yng nghefn gwlad sir Gaerfyrddin, yn aelod o glwb ffermwyr ifanc Sant Cynog ym mhentref Llangynog. Roedd yn lle a helpodd fy natblygiad personol mewn gwirionedd, am yr holl resymau a glywsom heddiw. Cofiaf fynd i'r cystadlaethau siarad cyhoeddus, a barnu stoc, a pharatoi ar gyfer rali, ar gyfer ymarfer tynnu rhaff, ar gyfer yr holl bethau hynny. Roedd hynny 50 mlynedd yn ôl, ac mae'n dal i barhau'n gryf heddiw. Ond fel y dywedodd Sam, nid dim ond mudiad i ffermwyr yw'r mudiad ffermwyr ifanc; mae'n fudiad eang, a hyd yn oed 50 mlynedd yn ôl, roedd pobl o bob cefndir yno. Mae'n fudiad balch sydd â chymaint i'w gynnig i bobl ifanc Cymru. Mae'n amlygu'r gorau ynddynt, gan feithrin hyder wrth greu dinasyddion cyflawn, cryf a chymdeithasol sydd ag empathi a chariad at yr amgylchedd hyfryd a'r economïau o'u cwmpas. Ni ddylem byth golli golwg ar gyfraniad ein ffermwyr ifanc i fywyd cefn gwlad, a dylem fod yn barod i'w cefnogi lle bynnag y gallwn. Hir y parhaed.
Y Gweinidog nawr i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Sam Kurtz, am ddewis pwnc mor wych ar gyfer eich dadl fer gyntaf. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau hefyd.
Drwy eu gweithgareddau, mae clybiau ffermwyr ifanc Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i bobl ifanc ddatblygu eu huchelgeisiau, eu sgiliau a'u hyder, a gwyddom fod yr ymddygiadau hyn yn gwbl amhrisiadwy wrth iddynt chwilio am waith, datblygu neu gymryd meddiant ar fusnes ffermio sefydledig neu geisio dechrau mentrau newydd—neu ddod yn Aelod o'r Senedd yn wir, fel y clywsom heddiw gan rai o'n Haelodau newydd yn enwedig.
Rwy'n credu bod Sam wedi gwneud pwynt pwysig iawn pan ddywedodd fod clybiau ffermwyr ifanc yn gyfrinach braidd, weithiau, y tu allan i'r sector amaethyddol neu ein cymunedau cefn gwlad. Ni allaf ddweud fy mod erioed wedi bod yn aelod o CFfI, ond rwy'n cofio—rwy'n ceisio meddwl—tua 46 mlynedd yn ôl, mae'n debyg, cael fy llusgo i ddisgo lleol wedi'i gynnal gan glwb ffermwyr ifanc, ac yn wir, fe wnaeth y ffrind a'm llusgodd i yno ddod o hyd i'w gŵr yn y disgo y noson honno.
Ddydd Llun, dechreuodd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, sgwrs am yr heriau demograffig hirdymor sy'n wynebu economi Cymru a'r angen i gefnogi ein pobl ifanc i wneud eu dyfodol yng Nghymru. Felly, hoffwn dawelu meddwl Sam, oherwydd cyfeiriodd at hynny, fod rôl CFfI Cymru yn ein helpu i gyflawni'r un peth, ac wrth symud ymlaen, credaf y bydd yn amhrisiadwy i ni.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i wireddu ein gwarant i bobl ifanc, rhaglen uchelgeisiol a fydd yn anelu at roi cymorth i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gymorth i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Mae gan Gymru lawer o'r cydrannau eisoes ar waith i ddarparu'r sylfaen ar gyfer gwarant dda i bobl ifanc. Mae gan bobl ifanc amrywiaeth eang o raglenni at eu defnydd sy'n cynnwys hyfforddeiaethau, ReAct, rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol, cymorth dechrau busnes a chyfrifon dysgu personol, ac mae partneriaid fel CFfI Cymru yn chwarae rhan allweddol yn cynorthwyo ein pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd o'r fath drwy'r warant.
Fel Llywodraeth, rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd, a thrwy Syniadau Mawr Cymru, rydym am ysbrydoli pobl ifanc i fod yn fentrus a'u helpu ar eu taith i ddechrau busnes. Gan weithio gyda'r CFfI, mae Syniadau Mawr Cymru wedi darparu modelau rôl ysbrydoledig ar gyfer cyfarfodydd lleol, i ddarparu cyngor a chymorth busnes i'w haelodau sydd am ddechrau busnes. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i roi cymorth i newydd-ddyfodiaid a'r rhai sydd am ymuno â'r diwydiant amaethyddol. Mae pobl ifanc sy'n ymuno â'r diwydiant yn sicrhau bod y sector amaethyddol yn parhau'n egnïol, gan sicrhau cyfleoedd cyflogaeth fel y gall pobl ifanc aros yn eu cymunedau cefn gwlad. Os ydym am gynnal cymunedau hyfyw a ffyniannus, mae'n hanfodol fod gan bobl ifanc hyder i gyflawni eu huchelgeisiau yn eu cymunedau cefn gwlad.
Cyfeiriodd Sam at bwysigrwydd hyn i'r Gymraeg ac nid wyf yn credu y gellir ei orbwysleisio, gyda dyfodol yr iaith a'n targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ynghlwm wrth gymunedau gwledig ffyniannus. Mae adran y Gymraeg yn rhoi grant cyllid craidd o bron i £125,000 i CFfI Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg o fewn eu rhaglen weithgareddau. Mae'r cyllid hwn yn rhoi dros £63,000 i swyddfa CFfI Cymru i gefnogi eu cynlluniau cenedlaethol ac i gyflogi swyddog datblygu'r Gymraeg sy'n gyfrifol am greu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg, yn ogystal â chynorthwyo eu haelodau i ddod yn siaradwyr Cymraeg newydd. Caiff y £62,000 sy'n weddill ei ddosbarthu i bob un o'r ffederasiynau sirol, i'w wario ar weithgareddau penodol i gefnogi'r defnydd o'r iaith ym mhob sir.
Rydym i gyd yn gwybod pa mor arwyddocaol yw rôl y CFfI ym mywydau ein pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru—yn enwedig y camau y mae wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth a lliniaru effeithiau problemau iechyd meddwl ymhlith eu haelodau. Fel aelod o bartneriaeth diogelwch fferm Cymru, gwn fod y sefydliad wedi gweithio'n galed i leihau nifer y marwolaethau a damweiniau ar ffermydd drwy sicrhau bod ei aelodau'n ymwybodol o sut i leihau risgiau a hefyd sut i newid ymddygiad.
Pan gefais ohebiaeth gan y CFfI yr haf diwethaf am y pandemig a'r effaith ariannol ar y sefydliad, gofynnais i fy swyddogion gyfarfod â chynrychiolwyr y sefydliad i archwilio ffyrdd posibl o roi cymorth. Roeddwn yn falch o glywed bod CFfI wedi llwyddo yn eu cais i gronfa cydnerthedd diwylliannol Llywodraeth Cymru, ac wedi cael dros £130,000 yn 2020, gyda £87,000 arall wedi'i ddyfarnu eleni.
Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc i amaethyddiaeth Cymru a'n cymunedau gwledig ehangach yn ysbrydoledig. Fel y clywsom, nid oes enghraifft well o hyn nag yn ystod y pandemig. Er bod y cyfyngiadau COVID angenrheidiol yn golygu na allai clybiau gyfarfod wyneb yn wyneb, roeddent yn parhau i gysylltu â'i gilydd a chyfarfod ar-lein. Cefnogent eu cymunedau lleol drwy gynorthwyo a chefnogi pobl a oedd wedi'u hynysu a thrwy helpu gweithwyr allweddol.
Mae aelodau CFfI yn glod i'w teuluoedd, eu clybiau a chymunedau gwledig ehangach. Rwy'n falch ein bod, fel Llywodraeth, yn parhau i gefnogi'r sefydliad, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd CFfI Cymru, yn yr un modd, yn parhau i gefnogi ein pobl ifanc sydd â chariad at amaethyddiaeth a bywyd gwledig am flynyddoedd lawer i ddod. Edrychaf ymlaen at lawer mwy o ymweliadau difyr a hwyliog ag aelodau CFfI dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr iawn.
Dyna ni. Diolch i bawb am ddadl fer ardderchog. Dyna ddiwedd ein gwaith ni am y dydd heddiw.