Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, mae nifer ohonom ni yn fan hyn yn bryderus iawn am y cynnydd sylweddol yn nifer y Biliau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio eu pasio mewn meysydd datganoledig. Bydd nifer ar y meinciau yna yn gyfarwydd â’r adnod,
‘Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed’.
Wel, gwrandawed ar hyn, y rheini ar feinciau’r Torïaid: yn y pedwerydd Senedd, wyth LCM; yn y chweched Senedd yn barod, 14 LCM. Mae rhai o’r Biliau, fel y Bil Cymwysterau Proffesiynol, yn rhoi pwerau i Weinidogion i newid Deddfau cynradd y lle hwn ac i newid Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dwi’n siŵr gwnewch chi gytuno gyda fi, Cwnsler Cyffredinol, ddylai setliad datganoledig ein gwlad ni ddim bod yn fympwy i Weinidog y Torïaid yn San Steffan. Beth ŷch chi, wedyn, felly, yn ei wneud i amddiffyn y Senedd rhag Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy’n ceisio tanseilio ein datganoli ni? Diolch.