Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:36, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Rwyf am aros gyda'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf am ddyfynnu rhai geiriau doeth i chi, Gwnsler Cyffredinol. Fe'u hysgrifennwyd ym mis Mawrth 2021, gan gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pryd, mewn llythyr at Weinidog yr amgylchedd. Dyma'r geiriau:

'Mae'r dadleuon a gyflwynwyd gennych i gefnogi deddfu gan senedd y DU a Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig wedi canolbwyntio'n aml ar faterion yn ymwneud ag eglurder a hygyrchedd y gyfraith neu sicrhau cydymffurfiaeth â pholisi yn Lloegr. Mae'r rhain yn ddadleuon o blaid peidio â dal pwerau yn y maes hwn o gwbl ac yn ein barn ni, nid oes unrhyw rinwedd yn perthyn iddynt.

'Rydym yn pryderu am effaith gronnol sylweddol a niweidiol olyniaeth o benderfyniadau a wnaed sydd wedi arwain at Senedd y DU a Llywodraeth y DU yn deddfu'n drwm ar faterion datganoledig o fewn eich portffolio.'

Wel, rwy'n cytuno â'r geiriau hynny, Gwnsler Cyffredinol, a'ch geiriau chi ydynt wrth gwrs. Nawr, a ydych chi'n dal i arddel y geiriau hynny, Gwnsler Cyffredinol, ac os felly, pam y bu ichi gefnogi rhoi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd fis diwethaf, a beth yw eich meini prawf ar gyfer rhoi cydsyniad i orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn y dyfodol? Diolch yn fawr.