6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:10, 2 Tachwedd 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd. Drwy ein rhaglen flaenllaw ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn helpu i gyflawni 180 o brosiectau i wella ysgolion a cholegau neu adeiladu rhai newydd. Mae'r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu ein partneriaeth gydweithredol gref gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, colegau, ColegauCymru ac awdurdodau esgobaethol. Mae wedi caniatáu i benderfyniadau strategol gael eu gwneud yn lleol ar flaenoriaethau buddsoddi mewn addysg ledled Cymru. Fel un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd a'n bwriad i fod yn genedl carbon isel, rydyn ni nawr wedi cyrraedd man allweddol o ran ein buddsoddiad yn ein hystâd addysg.

Rydyn ni’n adeiladu ar sylfaen gadarn. Mae'r rhaglen wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad at gynaliadwyedd a datgarboneiddio, gan dargedu sgôr 'rhagorol' o dan BREEAM, dull asesu amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ar gyfer adeiladau newydd. Rwy'n falch o ddweud nad prosiectau adeiladu newydd yw'r unig rai ag ymrwymiad at gynaliadwyedd, gan fod angen i bob prosiect cyweirio ac ymestyn hefyd gael sgôr ynni A. Ar ben hynny, roedd gofyn i bob prosiect o dan fandiau A a B gael o leiaf 15 y cant o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Drwy weithredu mewn ffordd gyson, drawsbynciol, mae'r rhaglen wedi darparu llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â meysydd polisi eraill, fel teithio llesol, bioamrywiaeth, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, y gymuned a'r cwricwlwm, i enwi dim ond rhai. Mae'r rhaglen wedi gweithredu fel cyfrwng i sicrhau'r gwerth mwyaf posib o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg yng Nghymru, ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd da hwn, mae dyletswydd arnom ni i wneud mwy—llawer mwy—os ydyn ni am fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar ein planed, ac ar genedlaethau'r dyfodol.

Gydag wythnos gyntaf Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig dan ei sang yn Glasgow, mae'n bleser gen i ddweud bod ein huchelgais i ddatblygu adeiladau addysg carbon sero net hefyd yn dod ymlaen yn dda. Drwy ein rhaglen rydyn ni eisoes yn darparu'r ysgolion carbon sero net cyntaf yng Nghymru. Fe ymwelais â'r cyntaf o'r rhain, Ysgol Gynradd Llancarfan, ddoe.