– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog addysg ar weithredu carbon sero net a'r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Galwaf ar Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Drwy ein rhaglen flaenllaw ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn helpu i gyflawni 180 o brosiectau i wella ysgolion a cholegau neu adeiladu rhai newydd. Mae'r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu ein partneriaeth gydweithredol gref gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, colegau, ColegauCymru ac awdurdodau esgobaethol. Mae wedi caniatáu i benderfyniadau strategol gael eu gwneud yn lleol ar flaenoriaethau buddsoddi mewn addysg ledled Cymru. Fel un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd a'n bwriad i fod yn genedl carbon isel, rydyn ni nawr wedi cyrraedd man allweddol o ran ein buddsoddiad yn ein hystâd addysg.
Rydyn ni’n adeiladu ar sylfaen gadarn. Mae'r rhaglen wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad at gynaliadwyedd a datgarboneiddio, gan dargedu sgôr 'rhagorol' o dan BREEAM, dull asesu amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ar gyfer adeiladau newydd. Rwy'n falch o ddweud nad prosiectau adeiladu newydd yw'r unig rai ag ymrwymiad at gynaliadwyedd, gan fod angen i bob prosiect cyweirio ac ymestyn hefyd gael sgôr ynni A. Ar ben hynny, roedd gofyn i bob prosiect o dan fandiau A a B gael o leiaf 15 y cant o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.
Drwy weithredu mewn ffordd gyson, drawsbynciol, mae'r rhaglen wedi darparu llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â meysydd polisi eraill, fel teithio llesol, bioamrywiaeth, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, y gymuned a'r cwricwlwm, i enwi dim ond rhai. Mae'r rhaglen wedi gweithredu fel cyfrwng i sicrhau'r gwerth mwyaf posib o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg yng Nghymru, ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd da hwn, mae dyletswydd arnom ni i wneud mwy—llawer mwy—os ydyn ni am fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar ein planed, ac ar genedlaethau'r dyfodol.
Gydag wythnos gyntaf Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig dan ei sang yn Glasgow, mae'n bleser gen i ddweud bod ein huchelgais i ddatblygu adeiladau addysg carbon sero net hefyd yn dod ymlaen yn dda. Drwy ein rhaglen rydyn ni eisoes yn darparu'r ysgolion carbon sero net cyntaf yng Nghymru. Fe ymwelais â'r cyntaf o'r rhain, Ysgol Gynradd Llancarfan, ddoe.
Er mwyn adeiladu ar hyn, rwy'n cyhoeddi heddiw, o 1 Ionawr 2022, y bydd yn ofynnol i bob prosiect adeiladu, adnewyddu ac ymestyn mawr sy'n gofyn am gymorth ariannol drwy'r rhaglen, ddangos sut y mae'n cyflawni carbon sero-net, ynghyd â gostyngiad o 20 y cant ar faint o garbon a ymgorfforir—hynny yw, y carbon a allyrrir drwy ddeunyddiau adeiladu a'r broses adeiladu. Hefyd, er mwyn manteisio i'r eithaf ar ysgolion a cholegau carbon sero-net, bydd gan bob cynnig gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bioamrywiaeth, teithio llesol a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan. Rydym yn gweithio gyda'r bwrdd teithio llesol i sefydlu gofynion sylfaenol ar gyfer ysgolion a cholegau newydd i gefnogi 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021'.
I fod yn glir, bydd y gofyniad carbon sero-net yn berthnasol i bob cynnig achos busnes nad yw wedi cael ei gymeradwyo yn ystod y cam achos busnes amlinellol erbyn 1 Ionawr 2022. Rwy'n deall, wrth gwrs, y gallai cyflawni'r nod hwn effeithio ar gost gyffredinol prosiectau. Fodd bynnag, mae'r gost o beidio â chymryd unrhyw gamau yn debygol o fod yn llawer mwy. Felly, rwyf eisiau anfon neges glir at ein dysgwyr ifanc ein bod yn gwrando, ac ein bod yn gweithredu. I'r perwyl hwn, rwyf yn ehangu'r cynllun treialu carbon sero-net, a fydd yn parhau i ariannu 100 y cant o'r costau ychwanegol i gyflawni'r ymrwymiad carbon sero-net o dan y don bresennol hon o fuddsoddiad.
Mae angen i ni sicrhau bod ymrwymiadau cynaliadwyedd a datgarboneiddio yn rhan annatod o'n bywyd bob dydd. Mae hyn yn arbennig o wir am aelodau iau ein cenedl. Mae angen i ni ddarparu ffordd effeithiol iddyn nhw ddysgu am yr amgylchedd o'u cwmpas, gan gynnwys yr adeiladau y maen nhw'n dysgu ynddyn nhw. Gwelais enghreifftiau o hyn yn ystod yr ymweliad ddoe. Mae tîm y prosiect wedi datblygu adnoddau addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar garbon sero-net, sydd yn gysylltiedig â'n cwricwlwm ac sy'n darparu cyswllt pendant rhwng y dechnoleg yn eu hysgol newydd a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd o'u cwmpas. Mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli nad yw'r ymrwymiadau hyn yn ymwneud â buddsoddi mewn adeiladau yn unig, maen nhw hefyd yn ymwneud â buddsoddi yn y bobl sy'n gweithio ac yn dysgu ynddyn nhw.
Wrth symud ymlaen, byddaf yn disgwyl i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach, ynghyd â'u timau dylunio a darparu, weithio'n agos gyda'n plant, ein pobl ifanc a'n staff fel eu bod yn cael y cyfle i helpu i gynllunio eu hamgylchedd dysgu. Dyna pam yr wyf hefyd yn cyhoeddi heddiw y byddwn yn sicrhau bod cronfa her ysgolion cynaliadwy ar gael i ysbrydoli'r gwaith o gyflwyno nifer o ysgolion cynradd arloesol a chynaliadwy sydd mewn cytgord â'u hamgylchoedd naturiol. Dyma gyfle clir i adeiladu ar gwricwla ysgolion, gan gydnabod mai un o bedwar diben Cwricwlwm Cymru yw galluogi dinasyddion gwybodus a moesegol. Mae cynaliadwyedd yn orfodol o fewn Cwricwlwm newydd Cymru a bydd yn rhan o addysg pob dysgwr drwy gydol ei daith ddysgu. Bydd ysgolion sy'n elwa ar y gronfa yn cynnwys dysgwyr wrth ddatblygu neu weithredu atebion cynaliadwy ac amgylcheddol fel rhan o'u dysgu. Byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y gronfa her gyffrous hon cyn bo hir.
Yn olaf, er bod rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain wedi mabwysiadu ymagwedd organig tuag at gynaliadwyedd a datgarboneiddio, teimlaf mai dyma'r amser iawn i ystyried newid ein brand fel ei fod yn gwneud datganiad clir am ein hymrwymiadau ar gyfer yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, bydd 1 Ionawr 2022 yn gweld enw newydd ar gyfer y rhaglen, sef 'cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu'.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog. Rydym yn llwyr gefnogi eich datganiad o'r meinciau hyn, gan ein bod yn rhannu eich teimladau, eich nodau a'ch amcanion yr ydych wedi'u hamlinellu yn eich datganiad. Mae angen i ostwng yr effaith ar yr amgylchedd ac ymladd newid hinsawdd fod wrth wraidd popeth a wnawn nawr. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i chwarae ein rhan i adael y byd yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, felly'r nod o wneud amgylcheddau ysgol ein plant a'n pobl ifanc yn sero-net yw'r peth iawn i'w wneud, felly hefyd cynyddu eu mewnbwn yn eu datblygiadau. Fodd bynnag, mae'r costau ychwanegol yn sylweddol, ac er mwyn dod yn ysgolion sero-net, bydd angen 10 neu 15 y cant yn ychwanegol arnoch ar ben cost adeiladu'r ysgol beth bynnag.
Rydym wedi gweld ymrwymiadau gwirioneddol wych i'r nod o sero-net gan ein hawdurdodau lleol, ac fel cynghorydd presennol yng Nghyngor Sir Fynwy, dylwn ddatgan hynny, ond gwn fod Cyngor Sir Fynwy wedi dangos ei ymrwymiad llwyr i sicrhau sero-net drwy ymrwymo i ysgol garbon sero-net yn y Fenni. Ond mae'n amlwg ei fod yn mynd i wynebu brwydr, yn yr hinsawdd bresennol, i fforddio'r uchelgais hwn. A ydych yn credu, Gweinidog, y dylai awdurdodau lleol orfod wynebu trafferthion pan fydd eu hymrwymiad i'n hamcan cyffredin yn glir?
Os yw'r Llywodraeth hon wedi gwir ymrwymo i'r amcanion a'r dymuniadau a nodir yn y datganiad hwn, onid Llywodraeth Cymru ddylai dalu'r holl gostau i hybu adeiladau newydd sero-net ac i alluogi ysgolion i addasu i gyflawni'r un nod? Dywedwch yn eich datganiad eich bod yn deall y gallai cyflawni'r nod hwn effeithio ar gostau cyffredinol prosiectau, gyda'r costau sylweddol a ddaw yn sgil cyflawni sero-net, credaf fod hyn, efallai, yn danddatganiad, Gweinidog.
Er bod eich cynlluniau'n uchelgeisiol, maen nhw hefyd yn ddymunol, ond byddan nhw'n methu, Gweinidog, os na sicrheir bod cyllid ychwanegol ar gael i ysgolion ac awdurdodau lleol ar gyfer y prosiectau bioamrywiaeth a'r cyfleusterau gwefru cerbydau trydan ymhlith y llu o newidiadau eraill yr ydych yn disgwyl eu gwneud mewn unrhyw gynlluniau newydd. Ar ben y costau ychwanegol i gael ysgolion yn sero-net, bydd sefydlu gofynion sylfaenol newydd o 2022 ymlaen i gyd yn dod gyda chost ynghlwm. Pwy sy'n mynd i dalu am hyn? Dywedwch eich bod yn ehangu'r cynllun treialu carbon sero-net, ond am ba hyd? Dim ond am y ddwy flynedd nesaf a'r don bresennol hon o dan fand B, neu a fydd hyn yn parhau drwy fand C ar 100 y cant? Ac a fydd band C? Rwy'n credu bod arnom angen ychydig mwy o eglurder ynglŷn â hynny, Gweinidog, os gwelwch yn dda. A phryd y byddwch mewn sefyllfa i nodi beth fydd eich cynlluniau ar gyfer y band C hwnnw os yw am barhau fel y gall awdurdodau lleol baratoi?
Cyhoeddwyd Band B o ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, wrth gwrs, yn 2017. Cyflwynodd awdurdodau lleol eu cynlluniau amlinellol strategol ar gyfer yr ysgolion yr oeddent eisiau eu hadeiladu neu eu hadnewyddu rhwng 2019-24. Nid oedd sero-net hyd yn oed bryd hynny ymhlith y telerau ac amodau, ac mae llawer o'r ysgolion hyn bellach wedi'u cwblhau. Ac er fy mod yn cytuno â chi y dylai'r rhai sy'n cael eu datblygu fod yn sero-net erbyn hyn, y realiti yw y bydd hyn yn ychwanegu 10 i 15 y cant yn ychwanegol ar ben y gost, fel yr wyf wedi dweud, sy'n gost eithaf swmpus. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn talu'r costau ychwanegol hynny?
Rydych chi hefyd wedi cyhoeddi y bydd ysgolion newydd yn sero-net erbyn y mis ar ôl nesaf. Beth am ysgolion sydd eisoes yn cael eu hadeiladu? Mae'r ysgolion hyn wedi bod yn cael eu datblygu ers blynyddoedd. Ni all eu cynlluniau newid ar fyr rybudd, ni waeth pa mor deilwng o sylw yw datganiad o'r fath heddiw, datganiad sydd i'w groesawu. Er bod rhai ysgolion yn elwa ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae canran yr ystad gyffredinol yn fach iawn o hyd. Felly, Gweinidog, er mwyn cyflawni ein nodau ar y cyd, mae angen addasiadau ac arian ar bob ysgol i ddod yn sero-net. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn rhagweld rhaglen i helpu mwy o ysgolion i fod yn effeithlon o ran ynni, ôl-osod hen foeleri, gosod goleuadau LED a gosod ffynonellau ynni?
Mae gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc ar y prosiectau hyn yn gwbl sylfaenol i lwyddiant, fel yr ydych wedi'i amlinellu, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny, ac mae'n wych bod cynaliadwyedd yn rhan annatod o'n cwricwlwm newydd. Byddwn yn croesawu'r syniad am gronfa her ysgolion cynaliadwy yr ydych newydd ei chyhoeddi a'i bwriadau, ond faint o arian fydd yn y gronfa hon, Gweinidog? Yn fras faint o ysgolion fydd yn gallu manteisio ar y gronfa, oherwydd onid yw hyn yn rhywbeth yr ydych eisiau i bob ysgol ei gyflawni, nid dim ond yr ychydig a fydd, efallai, yn elwa ar ei gyflawni? Er bod hyn yn swnio'n wych, mae arnom angen mwy o fanylion, ac edrychaf ymlaen at y manylion hynny, wrth symud ymlaen.
Mae rhai o'r ysgolion sydd wedi deillio o'r cydweithio hwn gydag awdurdodau lleol, CLlLC, ysgolion a cholegau ledled Cymru wedi cynhyrchu rhai ysgolion anhygoel. Ymwelais â Threfynwy, ag Ysgol Gyfun Cil-y-coed, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ddiweddar, ac maen nhw'n wirioneddol drawiadol. A fydd cyllid ychwanegol iddyn nhw ddatblygu ymhellach i gael y statws sero-net hwnnw? Nid yw'n deg cyhoeddi cyfarwyddebau gan Lywodraeth Cymru unwaith eto yn ystod y cyfnod hwyr hwn yn y cynllun a rhoi beichiau ariannol newydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch gadarnhau yn awr i mi, Gweinidog, y bydd eich amcanion a nodir yn y datganiad hwn mewn gwirionedd, er nad ydych wedi'i ddatgan, yn cael eu hategu gan arian i dalu'r holl gostau i dalu am bob nod ac amcan. Diolch.
Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gofyn pedwar cwestiwn, a siarad yn fras—atebwyd dau ohonyn nhw yn y datganiad, ac ni atebwyd y ddau arall. Felly, dim ond i gadarnhau, fel yr eglurais yn y datganiad, fod cydnabyddiaeth glir o gostau ychwanegol manyleb carbon sero-net, ac rwy'n cydnabod y ffigurau a nododd yn ei chwestiwn. Yn union yn yr un ffordd yr ydym wedi talu'r costau hynny fel costau ychwanegol yn y cynlluniau treialu sero-net yr ydym wedi bod yn eu cynnal mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y nodais yn fy natganiad, byddwn yn parhau i dalu'r costau hynny o ran ysgolion sy'n cyflwyno'u hunain o dan y fanyleb newydd o fewn y don bresennol hon o fuddsoddiad. Y pwynt yw, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, pan fydd manyleb unrhyw waith adeiladu, yn wir—ond yn y cyd-destun hwn, ysgolion—yn newid, mae goblygiad cost i hynny i ddechrau, am resymau y byddwch yn eu deall, ond mae'r gost honno, yn y pen draw, yn lleihau ac yn dod yn rhan o'r fanyleb safonol, a disgwyliwn y bydd hynny'n digwydd yn yr achos hwn hefyd. Ond yn y tymor byr, wrth i'r farchnad addasu i'r fanyleb ac wrth i'r gadwyn gyflenwi addasu iddi, rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi'r buddsoddiad hwnnw, a dyna pam y gwneuthum yn glir yn fy natganiad y byddem yn parhau i ariannu 100 y cant o gostau ychwanegol yr ymrwymiad carbon sero-net o dan y don bresennol hon.
O ran ysgolion sydd yn y system ar hyn o bryd, sef ei hail gwestiwn, eglurais yn fy natganiad y bydd y gofyniad yn berthnasol i bob cynnig achos busnes nad yw wedi cael ei gymeradwyo ar gam achos busnes amlinellol erbyn 1 Ionawr 2022. Felly, os yw'r ysgol eisoes yn cael ei hadeiladu, drwy ddiffiniad, mae eisoes wedi pasio'r cam hwnnw. Felly, gobeithiaf fod hynny'n egluro'r pwynt hwnnw i'r Aelod.
O ran y ddau bwynt arall a gododd, y mae'r ddau ohonyn nhw yn bwyntiau pwysig iawn yn fy marn i, mae'n wir dweud, yn amlwg, fod rhannau helaeth o ystad ysgolion Cymru yn adeiladau hŷn, ac felly mae'n gwneud pwynt pwysig ynghylch sut y gallwn sicrhau bod yr ysgolion hynny hefyd yn gallu chwarae eu rhan yn y daith yr ydym arni tuag at Gymru sero-net. Mae'r cynllun a gyhoeddodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf yn ei gwneud yn glir bod gwaith i'w wneud i fapio ystad ysgolion Cymru i ddeall, mewn gwirionedd fesul ysgol, beth yw'r anghenion, ac a fydd wedyn yn darparu llwyfan ar gyfer rhaglen ôl-osod, yn effeithiol. Ond mae hynny'n uchelgais tymor hwy, a dweud y gwir, ac mae'n uchelgais llawer mwy cymhleth.
Roeddwn yn siarad â phobl yn yr ysgol yn Llancarfan ddoe am yr heriau, os ydych yn mynd i gyflwyno pwmp gwres ffynhonnell aer mewn ysgol hŷn, nid yw'n fater o osod y pwmp yn unig; mae'n ymwneud â'r system ddosbarthu, mae'n ymwneud ag insiwleiddio yn yr ysgol, felly mae'n brosiect llawer mwy cymhleth. Ond amlinellir y gwaith hwnnw yn y cynllun a gyhoeddodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf.
O ran y gronfa her ysgolion cynaliadwy, byddaf yn sicrhau bod mwy o fanylion ar gael yn amlwg am hyn yn y modd y mae'n gofyn yn y cwestiwn. Mae'r cwestiynau y mae'n eu codi yn gwestiynau cwbl ddilys, yn amlwg. Mae'n gwneud y pwynt sef oni ddylai pob ysgol fod yn y categori hwn. Mae'n debyg mai fy safbwynt i yma yw y byddem yn disgwyl i'r ysgolion hyn fod yn arbennig o arloesol wrth ddefnyddio'r cynhyrchion, er enghraifft. Felly, efallai y byddwch yn dychmygu adeiladu â phren a mathau eraill o ffyrdd eithaf arloesol o adeiladu, a dylunio, yn cael ei wneud ar y cyd â defnyddwyr yr ysgol. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym eisiau ei wneud yw deall sut y gall y cysyniad hwnnw weithio'n ymarferol ac yna cymryd y rhannau ohono sy'n gweithio a'u gweithredu'n ehangach. Felly, dyna'r meddylfryd y tu ôl iddo, a gobeithio, pan gaiff y cynllun ei lansio yn y pen draw, y bydd diddordeb ym mhob cwr o Gymru. Rwy'n sicr yn gobeithio y gwelaf i hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y datganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, ac fel rydych chi wedi sôn eisoes, mae hi'n wych gallu codi adeiladau newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae angen inni fod yn ôl-ffitio ein stoc bresennol ni o adeiladau er mwyn lleihau allyriadau mewn ffordd ystyrlon, fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. A fedraf i ddim pwysleisio'r pwynt yma ddigon heddiw yma: mae adroddiad gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, er enghraifft, yn nodi y gallai 40 y cant o gyfanswm yr allyriadau ddod o waith adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys ysgolion, colegau, nifer fawr o adeiladau sydd yn perthyn i'r sector addysg. Ac mae'r bwrdd yn dweud bod rhaid i'r rhan fwyaf o'r ymdrech i ddatgarboneiddio ganolbwyntio ar ôl-ffitio effeithlonrwydd ynni ar adeiladau sy'n bodoli eisoes yn hytrach nag ar yr adeiladu o'r newydd. Felly, buaswn i'n licio gwybod lle ydych chi'n gosod y balans yna. Mae rhywun yn gwybod bod yna fendithion mawr i gael o adeiladau newydd, ond ar y llaw arall, os ydyn ni'n derbyn tystiolaeth Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a ddylid rhoi cymaint o bwyslais ar yr agwedd yna, ynteu ydy'r agwedd yma o ddatgarboneiddio'r ystâd bresennol angen bod ar flaen ein meddyliau ni yn ogystal? Ac rydych chi'n sôn eich bod chi yn mapio'r gwaith sydd angen ei wneud o safbwynt hynny, ac yn mynd i fod yn creu cynllun datgarboneiddio'r stoc bresennol, ond mae yna frys, onid oes? Felly, beth ydy'r amserlen ar gyfer hynny, a beth fydd y cerrig milltir ar y daith yna? Sut fyddwch chi'n mynd ati i flaenoriaethu'r prosiectau angenrheidiol yna?
A mater arall sydd angen sylw brys ydy sgiliau'r gweithlu, wrth gwrs. Ac mae'n debyg bod yna adroddiadau di-rif erbyn hyn sydd yn sôn am y nifer o weithwyr newydd ychwanegol rydyn eu hangen yng Nghymru dim ond i ateb y galw presennol o safbwynt 'retrofit-io' ac yn y blaen. A dwi'n cyfeirio eto at y Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, ac maen nhw, mewn adroddiad cafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni, yn dangos y bydd angen 12,000 o rolau ychwanegol ym maes adeiladu Cymru erbyn 2028, sydd ddim yn bell i ffwrdd, i ddarparu net sero, gan ganolbwyntio ar ôl-ffitio domestig, ac mae hynny yn gynnydd o 12 y cant yn y gweithlu. Ac felly, hoffwn i wybod beth ydy eich blaenoriaethau chi yn y maes yma. Sut ydych chi fel Gweinidog addysg yn bwriadu gweithio tuag at gynyddu'r gweithlu yma? Clywsom ni Weinidog yr Economi'n sôn am yr angen i weithio hefo'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ond mae angen mwy na hynny, mae'n debyg, onid oes? Felly, buasai'n dda clywed pa gynlluniau sydd gennych chi yn arbennig ar gyfer cynyddu'r gweithlu, a fydd, yn eu tro, yn ein helpu ni i ddatgarboneiddio nid yn unig yn y sector addysg, ond ar draws ein hystad sector cyhoeddus ni?
Ac yn olaf, dwi hefyd eisiau gwybod mwy am y gronfa her ysgolion cynaliadwy. Rydych chi'n dweud mai ei phwrpas hi ydy sbarduno nifer o ysgolion cynradd arloesol a chynaliadwy sydd yn rhan o'u hamgylchedd naturiol. Rydych chi'n cyfyngu'r gronfa yma i'r cynradd yn unig, dwi'n credu. A gawn ni ddeall pam, felly, nad ydych chi am gynnwys yr ysgolion uwchradd a'r colegau ac yn y blaen? Rydych chi'n dweud hefyd y bydd yr ysgolion sy'n manteisio ar y gronfa yn cynnwys dysgwyr wrth ddatblygu neu weithredu systemau cynaliadwy ac amgylcheddol fel rhan o'u dysgu, sydd yn werth chweil, wrth gwrs, ac rydyn ni'n croesawu hynny, ond ydych chi'n sôn yn fan hyn, jest i gael eglurder, am gronfa ar gyfer addasu adeiladu? Ydyn ni'n sôn am gronfa ar gyfer creu cynlluniau ar gyfer ysgolion newydd ar y cyd â dysgwyr, neu ydyn ni'n sôn am rywbeth mwy na hynny? Ydyn ni'n sôn am gael cynlluniau a syniadau arloesol o ran materion fel cadwyni bwyd lleol fel rhan o'r pecyn bwyd sydd ar gael mewn ysgolion? Ydyn ni'n sôn am deithio cynaliadwy i'r ysgol a'r math yna o beth? Achos dwi'n siŵr bod gan ein pobl ifanc ni lawer iawn o syniadau arloesol ac mae angen gwrando arnyn nhw, a gobeithio bydd y gronfa yn gallu sbarduno rhywfaint o hynny hefyd. Diolch yn fawr.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran y cwestiwn ynglŷn ag adeiladau newydd sbon neu'r ystad hynaf, mae gwahaniaeth, wrth gwrs, yn yr approach tuag at y ddau. Jest i fod yn glir, mae'r polisi rwy'n ei ddatgan heddiw hefyd yn cynnwys adnewyddiadau eang mewn ysgolion o unrhyw oedran fel petai, felly dyw e ddim yn gyfyngedig cweit yn y ffordd honno, ond mae'r pwynt cyffredinol mae'r Aelod yn ei wneud, wrth gwrs, yn bwynt teg.
O ran amserlenni'r gwaith retrofit ac ati, mae'r cynllun a gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn sôn am ddatblygu cynllun strategol i ddatgarboneiddio adeiladau erbyn diwedd 2023, bod pob adeilad cyhoeddus â ffynhonnell wres carbon isel erbyn 2030 ac, os gallan nhw, yn creu eu hynni eu hunain hefyd. Felly, mae'r amserlen yn un hwy, ond am y rheswm mae'r Aelod efallai'n cydnabod yn y cwestiwn, sef bod lot mawr o'r ystad yn hŷn. Felly, mae angen mapio'r gwaith cyn ein bod ni'n gallu mynd ati i wneud hynny, ond mae'n elfen bwysig, wrth gwrs, o'r siwrnai rŷn ni arni tuag at fod yn genedl sero-net.
O ran sgiliau'r gweithlu, fe wnaf i gyfeirio'r Aelod at yr hyn wnaeth Gweinidog yr Economi ei ddweud, ond hefyd mae'n sicr yn rhan o'r agenda addysg bellach yma yng Nghymru. Ynghyd â'r datganiad hwn, yr wythnos hon, mae'r Bil yn cael ei gyflwyno ar gyfer diwygiadau ôl-16, ac un o'r cyfleoedd a'r sialensau mae hynny'n mynd i ganiatáu i fynd i'r afael ag e'n fwy effeithiol yw rhai o'r anghenion newydd yma yn ein heconomi ni, fel ein bod ni'n gallu ymateb mewn ffordd lot mwy hyblyg i'r galw am sgiliau newydd, fel petai, yn yr economi. Felly, mae hynny'n cyfrannu tuag at hynny.
O ran y gronfa her, y rheswm am ei chyfyngu yn y cam cyntaf i ysgolion cynradd yw bod y prosiectau efallai'n haws eu delifro a bod hynny'n dysgu gwersi inni ar gyfer prosiectau ehangach na hynny. Fe fues i'r wythnos diwethaf yn ysgol gynradd Nottage yn etholaeth Sarah Murphy i gwrdd â phlant fanna a oedd wedi cyfrannu at ddylunio ac adeiladu rhan o'u maes chwarae. Mae'n enghraifft fach—rŷn ni'n sôn am rywbeth lot fwy uchelgeisiol fan hyn—ond roedd e'n gwbl glir, o ran y cwestiwn olaf a wnaeth yr Aelod ddweud, fod y broses o ddysgu'r sgiliau a mynd i'r afael â'r adeiladu wedi dangos talentau a chreadigrwydd ymhlith y disgyblion, a oedd yn arloesol iawn. Felly, y bwriad yma yw cynllun cychwynnol sydd â ffocws ar ysgolion cynradd er mwyn dangos y cysyniad ehangach a dysgu o hynny fel ein bod ni'n gallu, gobethio, ehangu ar hynny.
Rwy'n anghytuno y bydd cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn costio mwy yn y tymor hir, oherwydd efallai y bydd cost tymor byr, wrth i adeiladwyr ymgyfarwyddo â'r holl ffyrdd newydd o adeiladu yr ydym eisoes wedi dangos eu bod yn gallu gweithio mewn tai cymdeithasol, ond, yn y tymor hwy, cytunaf yn llwyr â'r Gweinidog—ni allwn fforddio gwneud dim byd, oherwydd bydd ysgolion yn cael biliau ynni a biliau dŵr enfawr pryd y gallen nhw fel arall fod yn gwario'r arian ar lyfrau a dysgu. Felly, yr wyf yn croesawu'n llwyr y datganiad gan y Gweinidog.
Mae llawer iawn y bydd angen i ni ei wneud, ond mae llawer iawn o ysgolion sydd â darnau o dir sylweddol ynghlwm wrthyn nhw sydd ag amgylcheddau dysgu awyr agored diflas iawn, a gallan nhw wneud mwy ynghylch hynny heb symiau enfawr o arian, mae'n rhaid iddyn nhw feddwl ychydig amdano. A meddyliwch, yn hytrach na gorfod gwario £600 y flwyddyn ar fws ysgol, y gallech wario £600—mae'n ddrwg gennyf, £400 y flwyddyn—ar brynu beic. Mae'r manteision hirdymor i'r unigolyn ac i'r teulu hwnnw yn enfawr. Credaf fod angen rhoi sylw arbennig i ysgolion canol dinas Fictoraidd neu Edwardaidd, oherwydd bydd ôl-osod yn gymhleth iawn ac, yn ogystal â hynny, nid oes ganddyn nhw'r capasiti i ehangu, oherwydd maen nhw wedi'u hamgylchynu gan adeiladau eraill, felly mae creu'r amgylchedd dysgu sydd ei angen arnom i sicrhau bod pob person ifanc yn sylweddoli heriau a chyfleoedd y Gymru sero-net yn llawer mwy heriol.
Felly, am wn i hoffwn wybod sut yr ydych yn mynd i ddefnyddio'r holl fenter ragorol hon i sicrhau nad yw swyddi gwyrdd newydd ar gyfer y rhai sy'n llai abl yn academaidd yn unig, ond i bawb, mai dyma'r dyfodol os ydym mewn gwirionedd yn mynd i wneud gwahaniaeth i'n cymdeithas: dylunio da, adeiladau da, cymunedau da. Felly, mae llawer iawn o waith y mae angen ei wneud mewn ysgolion.
Oes, ac rwy'n credu bod hyn yn gyfle, nid yn unig o safbwynt y cyfraniad y mae'r adeilad ei hun yn ei wneud i'n targedau mwy, ond mae cyfle pwysig iawn hefyd i ni ddeall yma y gallwn ddefnyddio'r datblygiad ei hun fel offeryn addysgu, os mynnwch. Roedd fy ymweliad ddoe ag ysgol gynradd Llancarfan yn enghraifft dda iawn o hyn. Yn anffodus, yn amlwg, oherwydd COVID, nid oedden nhw fel ysgol wedi gallu ymweld â'r safle, yn y ffordd yr oedden nhw wedi dymuno, ond yr oedden nhw'n disgrifio wrthyf y byddan nhw—. Pan fydd yr ysgol wedi'i chwblhau'n gynnar y flwyddyn nesaf, bydd codau QR wedi'u gosod mewn gwahanol fannau yn yr ysgol lle byddant yn gymorth addysgu, i bob pwrpas, i esbonio i ddisgyblion pam y mae'r adeilad wedi'i adeiladu yn y ffordd arbennig hon, beth yw canlyniadau hynny a bydd yn esbonio wrthyn nhw effaith amgylcheddol ehangach y dewisiadau a wnaed. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd ysbrydoledig iawn o ymdrin â hyn, mewn gwirionedd, a chredaf fod llawer o botensial i ni geisio gwneud mwy a mwy o hynny.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt hynod o ddilys am y cyfyngiadau, efallai, ar rai o'n hysgolion hŷn oherwydd lle maen nhw wedi'u lleoli, ac nid oes capasiti i ehangu a datblygu yn y ffordd yr hoffem ni ei weld. Credaf mai dyna un o'r heriau yr wyf wedi bod yn ceisio'i hamlinellu o ran yr uchelgeisiau ôl-osod tymor hwy sydd gennym, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud hynny fel rhan o'n nod ehangach o fod yn genedl sero-net.
Cyflawnir sero-net drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae effeithlonrwydd ynni adeiladau, fel y gŵyr y Gweinidog, yn un llwybr yn unig tuag at y targed hwnnw, ac mae ffactorau eraill hefyd yn bwysig, soniwyd am rai ganddo, megis bod teithio llesol a diogel i'r ysgol yn bosibl ac na ddylai rhaglen ysgolion newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gynyddu'r defnydd o geir nac achosi mwy o dagfeydd na bod yn niweidiol i ansawdd aer, ac na ddylid adeiladu ar fannau cymunedol gwyrdd, megis caeau chwarae, nac ar ardaloedd lle mae perygl o lifogydd. O ystyried hyn, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau na fydd y Llywodraeth, felly, yn ariannu cynlluniau Cyngor Castell-nedd Port Talbot i adeiladu ysgol gynradd wych yng nghanol Pontardawe yng nghwm Tawe o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a fydd yn gwneud yr holl bethau hyn? Yn wir, nododd ymateb y swyddogion i bryderon ynghylch cynyddu'r defnydd o geir a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynlluniau hyn:
'Mae'r cynnig hwn yn cydnabod na fydd yn bosibl i rai plant gerdded neu feicio i'r ysgol.... Fodd bynnag, bydd cyfleoedd yn dal i fodoli trwy drefniadau cwricwlaidd ac allgyrsiol i ddisgyblion ddysgu am bwysigrwydd ffordd iach o fyw'.
Nid yw hynny'n ddigon da, nad yw? O, ond dywedoch fod hyn dim ond yn berthnasol i gynigion a gymeradwyir ôl mis Ionawr nesaf, Gweinidog, pan nad yw rhawiau yn y ddaear eto a chontractau heb eu llofnodi eto, fel sy'n wir am y cynllun hwn ym Mhontardawe, a allech chi ddweud wrthym pam mai dyna yw'r sefyllfa?
Nid wyf yn siŵr fy mod yn deall y cwestiwn olaf, ond, ar y pwynt ehangach yr oedd yr Aelod yn ei wneud, gwn ei bod wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar ynglŷn â hyn. Bydd hefyd yn gwybod, oherwydd y ffaith bod yr ysgol y mae'n cyfeirio ati yn ysgol yn fy etholaeth i, ychydig lathenni o fy swyddfa, gwn ei bod yn deall, am resymau cod gweinidogol, na allaf ateb y cwestiwn yna, ond bydd yn cael ymateb i'r llythyr y mae wedi'i anfon ataf gan Weinidog arall o ganlyniad i hynny.
Rwy'n gobeithio y byddai hi'n cefnogi'r uchelgais a ddisgrifir yn y datganiad heddiw. Rwy'n credu ei fod yn gyfraniad arwyddocaol iawn at sut y gall prosiectau yn y dyfodol gyfrannu at ein nodau uchelgeisiol iawn o fod yn Gymru sero-net.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n sicr yn croesawu'r cyhoeddiad hwn heddiw. Rwy'n credu eich bod yn iawn i roi addysg ar frig y rhestr o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, oherwydd mae'n newid cenedliadol sydd ei angen. Ceir enghreifftiau o blant yn cymryd rhan fawr yn y prosiect GlawLif yn ysgolion Llanelli, ac mae'r plant wedi'u cyfareddu ganddo ac maen nhw'n dysgu mathemateg yn ei sgil a llawer am eu hamgylchedd. Ac mae hynny'n ymwneud â dŵr wyneb.
Gan fod gennyf amser byr iawn, mae rhai pethau yr wyf eisiau eu codi o ran yr adeilad addysg carbon sero-net. Wrth gwrs, bu'n rhaid i ni gael y gweithlu, yna bu'n rhaid i ni gael y deunyddiau, ac mae'n rhaid i'r deunyddiau hynny fod yn lleol fel y gallwn gyflawni'r prosiectau. Ond mae edrych ar y safleoedd yr un mor bwysig. Ni ddylen nhw fod yn safleoedd tir glas, a dylen nhw fod yn safleoedd sy'n hygyrch i'r gymuned, mewn ffordd y mae Jenny eisoes wedi sôn amdani, lle gall pobl naill ai gerdded neu feicio. A dwi'n gwybod bod hynny'n rhan o'r hyn yr ydych yn ei ystyried. Ond ni allwn guddio rhag y ffaith mai'r sector cyhoeddus, mae'n debyg, yw'r cyfle mwyaf sydd gennym i sbarduno newid yn y diwydiant adeiladu yma yng Nghymru, ac rwy'n ei groesawu'n fawr.
Diolch i Joyce Watson am ei chroeso i'r datganiad yn gyffredinol, a chredaf ei fod yn dangos ei hymrwymiad hirdymor i'r agenda hon hefyd. Rwyf yn rhannu pwysigrwydd y pwynt y mae'n ei wneud ynghylch galluogi datblygiad ein hysgolion yn y dyfodol i sicrhau'r cyfleoedd gorau i rieni a dysgwyr ddefnyddio llwybrau eraill i'r ysgol sy'n ecogyfeillgar, ac fe'm calonogir gan y gwaith yr ydym yn ei wneud gyda'r bwrdd teithio llesol i sicrhau'r manteision gorau, mewn cysylltiad â'n hystad ysgol bresennol ond hefyd mewn cysylltiad â manyleb sylfaenol newydd ar gyfer ysgolion newydd i'r dyfodol, a fydd yn adlewyrchu'r egwyddorion yn y strategaeth drafnidiaeth 'Llwybr Newydd'. Ond, fel yr oedd Jenny Rathbone hefyd yn dweud, mae cyfle o ran y cwricwlwm yma hefyd, mi gredaf, sef defnyddio'r datblygiadau hyn yn y dyfodol fel ffordd o alluogi ein dysgwyr ifanc i gael dealltwriaeth lawn o ba mor bwysig yw hi i wneud y cyfraniadau teithio llesol hynny at eu dysgu.
Diolch, Weinidog.
Cyn i ni symud ymlaen at eitem 7, hoffwn atgoffa'r Aelodau fy mod yn gwybod ei bod yn anodd i aelodau meinciau cefn allu gofyn cwestiynau mewn munud, oherwydd yr wyf wedi bod yno, a gwn am yr anhawster o ran amseru, ond a gaf i atgoffa'r Aelodau, os defnyddiwch eich dyraniad llawn ar gyfer eich cyd-destun, rydych yn defnyddio dyraniad rhywun arall i ofyn eich cwestiwn? Heddiw, rydym wedi cael y cwestiynau yn yr amser a roddwyd, ond rydym wedi bod mewn sefyllfaoedd lle nad ydym wedi gallu gwneud hynny oherwydd bod nifer yr Aelodau sy'n dymuno siarad yn fwy. Os ewch chi dros eich amser fe fyddwch chi'n cymryd amser rhywun arall yn y sefyllfaoedd hynny. A wnewch chi felly gadw eich cyfraniadau o fewn yr amser a ddyrannwyd fel y gallwn gael cynifer o bobl sydd eisiau siarad â phosibl, os gwelwch yn dda? Ac mae wedi digwydd yn y ddau ddatganiad y prynhawn yma.
A gaf i godi pwynt o drefn? Roedd yr amser a neilltuwyd ar gyfer hwn hyd at 6.10 p.m., felly rwy'n poeni na chaniatawyd i Aelodau eraill siarad a hwythau wedi nodi eu bod yn dymuno gwneud hynny.
Nid oes unrhyw Aelodau eraill na chawsant siarad. Dywedais ein bod wedi bod yn y sefyllfa honno o'r blaen, nid y tro hwn. Dywedais hefyd nad oedd angen hwnnw arnom y tro hwn, ond gallem fod mewn sefyllfa pryd bydd angen hwnnw. Ac nid yr amser a ddyrennir ar eich dalen, gyda llaw, oedd yr amser y cadwyd ato o reidrwydd; roeddem yn gwylio'r amser mewn amser real, mewn un ystyr.