Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y datganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, ac fel rydych chi wedi sôn eisoes, mae hi'n wych gallu codi adeiladau newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae angen inni fod yn ôl-ffitio ein stoc bresennol ni o adeiladau er mwyn lleihau allyriadau mewn ffordd ystyrlon, fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. A fedraf i ddim pwysleisio'r pwynt yma ddigon heddiw yma: mae adroddiad gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, er enghraifft, yn nodi y gallai 40 y cant o gyfanswm yr allyriadau ddod o waith adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys ysgolion, colegau, nifer fawr o adeiladau sydd yn perthyn i'r sector addysg. Ac mae'r bwrdd yn dweud bod rhaid i'r rhan fwyaf o'r ymdrech i ddatgarboneiddio ganolbwyntio ar ôl-ffitio effeithlonrwydd ynni ar adeiladau sy'n bodoli eisoes yn hytrach nag ar yr adeiladu o'r newydd. Felly, buaswn i'n licio gwybod lle ydych chi'n gosod y balans yna. Mae rhywun yn gwybod bod yna fendithion mawr i gael o adeiladau newydd, ond ar y llaw arall, os ydyn ni'n derbyn tystiolaeth Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a ddylid rhoi cymaint o bwyslais ar yr agwedd yna, ynteu ydy'r agwedd yma o ddatgarboneiddio'r ystâd bresennol angen bod ar flaen ein meddyliau ni yn ogystal? Ac rydych chi'n sôn eich bod chi yn mapio'r gwaith sydd angen ei wneud o safbwynt hynny, ac yn mynd i fod yn creu cynllun datgarboneiddio'r stoc bresennol, ond mae yna frys, onid oes? Felly, beth ydy'r amserlen ar gyfer hynny, a beth fydd y cerrig milltir ar y daith yna? Sut fyddwch chi'n mynd ati i flaenoriaethu'r prosiectau angenrheidiol yna?
A mater arall sydd angen sylw brys ydy sgiliau'r gweithlu, wrth gwrs. Ac mae'n debyg bod yna adroddiadau di-rif erbyn hyn sydd yn sôn am y nifer o weithwyr newydd ychwanegol rydyn eu hangen yng Nghymru dim ond i ateb y galw presennol o safbwynt 'retrofit-io' ac yn y blaen. A dwi'n cyfeirio eto at y Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, ac maen nhw, mewn adroddiad cafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni, yn dangos y bydd angen 12,000 o rolau ychwanegol ym maes adeiladu Cymru erbyn 2028, sydd ddim yn bell i ffwrdd, i ddarparu net sero, gan ganolbwyntio ar ôl-ffitio domestig, ac mae hynny yn gynnydd o 12 y cant yn y gweithlu. Ac felly, hoffwn i wybod beth ydy eich blaenoriaethau chi yn y maes yma. Sut ydych chi fel Gweinidog addysg yn bwriadu gweithio tuag at gynyddu'r gweithlu yma? Clywsom ni Weinidog yr Economi'n sôn am yr angen i weithio hefo'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ond mae angen mwy na hynny, mae'n debyg, onid oes? Felly, buasai'n dda clywed pa gynlluniau sydd gennych chi yn arbennig ar gyfer cynyddu'r gweithlu, a fydd, yn eu tro, yn ein helpu ni i ddatgarboneiddio nid yn unig yn y sector addysg, ond ar draws ein hystad sector cyhoeddus ni?
Ac yn olaf, dwi hefyd eisiau gwybod mwy am y gronfa her ysgolion cynaliadwy. Rydych chi'n dweud mai ei phwrpas hi ydy sbarduno nifer o ysgolion cynradd arloesol a chynaliadwy sydd yn rhan o'u hamgylchedd naturiol. Rydych chi'n cyfyngu'r gronfa yma i'r cynradd yn unig, dwi'n credu. A gawn ni ddeall pam, felly, nad ydych chi am gynnwys yr ysgolion uwchradd a'r colegau ac yn y blaen? Rydych chi'n dweud hefyd y bydd yr ysgolion sy'n manteisio ar y gronfa yn cynnwys dysgwyr wrth ddatblygu neu weithredu systemau cynaliadwy ac amgylcheddol fel rhan o'u dysgu, sydd yn werth chweil, wrth gwrs, ac rydyn ni'n croesawu hynny, ond ydych chi'n sôn yn fan hyn, jest i gael eglurder, am gronfa ar gyfer addasu adeiladu? Ydyn ni'n sôn am gronfa ar gyfer creu cynlluniau ar gyfer ysgolion newydd ar y cyd â dysgwyr, neu ydyn ni'n sôn am rywbeth mwy na hynny? Ydyn ni'n sôn am gael cynlluniau a syniadau arloesol o ran materion fel cadwyni bwyd lleol fel rhan o'r pecyn bwyd sydd ar gael mewn ysgolion? Ydyn ni'n sôn am deithio cynaliadwy i'r ysgol a'r math yna o beth? Achos dwi'n siŵr bod gan ein pobl ifanc ni lawer iawn o syniadau arloesol ac mae angen gwrando arnyn nhw, a gobeithio bydd y gronfa yn gallu sbarduno rhywfaint o hynny hefyd. Diolch yn fawr.