Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i gadw a chreu swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda ledled Cymru. Ar 21 Hydref, cynhaliais uwchgynhadledd economaidd i drafod gyda rhanddeiliaid sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar swyddi gwell, lleihau'r bwlch sgiliau a threchu tlodi.