Diwydiannau Technoleg

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:31, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, credaf ei bod yn deg dweud bod y dystiolaeth ledled y byd yn dangos bod trosglwyddo o economi a nodweddir gan ddiwydiannau trwm i un sy'n fedrus iawn ac sy'n talu'n dda mewn technolegau newydd a chyfleoedd newydd yn anodd iawn ac yn broses hir. Ond diolch byth, yn ne-ddwyrain Cymru, credaf fod gennym lawer o enghreifftiau yn awr o'r diwydiannau newydd hynny, boed yn seiberddiogelwch neu'r diwydiant microsglodion neu'n fwy cyffredinol. Ac roeddwn yn falch iawn o ymweld gyda chi yn ddiweddar ag Indigo Telecom Group ym Magwyr, lle credaf inni weld enghraifft o gwmni sydd wedi tyfu’n sylweddol o ran y swyddi newydd hynny a chanddo gynlluniau uchelgeisiol i ehangu ymhellach.

Yn ddiweddar, ymwelais â marchnad Casnewydd, sy'n cael ei hadnewyddu'n llwyr i greu swyddfeydd, hyb gwaith, yn ogystal ag ardal fwyd a diod, ac mae ganddynt denantiaid seiberddiogelwch ar gyfer eu swyddfeydd newydd a'u hyb gwaith yn ogystal â diwydiannau newydd eraill. Felly, credaf ein bod yn gweld arwyddion calonogol iawn, Weinidog, a tybed a allech roi sicrwydd, fel y gwnewch, rwy'n siŵr, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r diwydiannau newydd hyn gyda'r holl help a chymorth sydd ei angen i'w sefydlu, eu datblygu a'u tyfu, a sicrhau eu bod yn darparu'r cyfleoedd rhagorol hyn i bobl leol.