1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2021.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57096
Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi ymestyn ein cynllun cymhellion i gyflogwyr i gynorthwyo busnesau i recriwtio prentisiaid hyd at ddiwedd mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Bydd y cynllun hwn yn parhau ochr yn ochr â'n gwarant uchelgeisiol i bobl ifanc, a byddaf yn rhoi diweddariad i'r Siambr ar y cynnydd gyda'r warant i bobl ifanc mewn datganiad llafar a drefnwyd ar gyfer 16 Tachwedd.
Diolch am eich ateb, Weinidog.
Dros y degawd diwethaf, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru wedi helpu mwy na 19,000 o bobl ifanc i gamu i fyd gwaith, i gael swydd dda ac i ddechrau adeiladu dyfodol. Ac yn awr, bydd Twf Swyddi Cymru + Mwy yn creu'r cyfleoedd hynny i newid bywydau pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. A dim ond y rhan gyntaf o warant Llafur Cymru i bobl ifanc yw hynny, wrth gwrs—ein haddewid a'n hymrwymiad i bob unigolyn ifanc yng Nghymru. Felly, cyn ei chyflwyno y flwyddyn nesaf, Weinidog, pa gymorth sydd ar gael i helpu darparwyr i addasu prentisiaethau a hyfforddeiaethau presennol er mwyn cyflawni'r rhaglen newydd honno?
Diolch am eich cwestiwn. Mae'n bwynt pwysig ynglŷn â chydnabod y bydd rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru + Mwy yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen flaenorol, Twf Swyddi Cymru, ynghyd â ReAct + Mwy, gan gryfhau'r cynnig sydd gennym ar gael eisoes. Felly, rydym yn gweithio gyda darparwyr, fel y byddant yn deall yr hyn rydym yn gobeithio'i wneud, ac mewn gwirionedd, mae darparwyr addysg bellach yn enwedig yn frwdfrydig ynglŷn â chydweithio gyda ni. Ein her fwyaf mewn sawl ffordd yw nid yn unig sicrhau bod gennym un pwynt mynediad i helpu pobl i ddefnyddio'r system, ond hefyd y lefel o sicrwydd y gallwn ei chael ynghylch cyllid a strategaeth. A dyna pam fod yr adolygiad cyflogadwyedd rydym yn ei gynnal mor bwysig, a bydd hwnnw'n cael ei lansio yn y gwanwyn i baratoi ar gyfer dechrau cyflwyno Twf Swyddi Cymru + Mwy, a mynd ati o ddifrif gyda'r cynnig rydym wedi'i wneud i bobl ifanc yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod cyfle gwirioneddol iddynt gael swyddi, addysg, neu yn wir, hunangyflogaeth a gwaith yn y dyfodol.
Weinidog, ymwelais â Hafren yn ddiweddar, lleoliad adloniant a theatr yn y Drenewydd, ac fe wnaethant amlinellu mater penodol y mae eu diwydiant yn ei wynebu ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd yn y diwydiant creadigol—o ran llwyfannu theatr a thechnegwyr yn benodol. A’r hyn roeddent yn ei ddweud wrthyf oedd bod llawer o dechnegwyr theatr wedi mynd i weithio ym maes cynhyrchu ffilm a theledu pan oedd y diwydiant theatr byw ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud, ac arweiniodd hynny, wrth gwrs, at fwlch yn y diwydiant theatr, gyda phrinder talent ifanc yn ymwneud â theatr fyw. Felly, tybed a gaf fi ofyn ichi ystyried, Weinidog, sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r bwlch hwn yn y diwydiant, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau dyfodol y diwydiant hwn?
Rydych yn iawn i nodi y bu twf sylweddol ym maes cynhyrchu ffilm a theledu ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Mae Cymru'n cael ei chydnabod fel man lle mae amgylchedd da i wneud hynny, nid yn unig ein hamgylchedd naturiol, ond cymorth y Llywodraeth yn gweithio ochr yn ochr â'r diwydiant, ac mae'r rheini'n ffactorau pwysig. Rwyf hefyd yn cydnabod rhai o'r heriau sydd ynghlwm wrth yr hyn y mae hynny wedi'i wneud o ran prinder llafur ar gyfer y galw sy'n bodoli ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys ar y llwyfan. Mae'n faes y mae'r Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, yn arwain arno, o ran y diwydiannau creadigol, ac rydym yn siarad yn rheolaidd am yr heriau a sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithlu'r dyfodol yn y sector creadigol yn rhai y gallwn gynllunio'n briodol ar eu cyfer a darparu'r sgiliau, yr hyfforddiant a'r cyfleoedd i bobl gamu i ddiwydiant sydd eisoes wedi tyfu'n sylweddol yng Nghymru, ac rydym yn hyderus bod ganddo ddyfodol disglair a chadarnhaol. Gallwch ddisgwyl clywed mwy ynglŷn â hyn gennyf fi neu'r Dirprwy Weinidog wrth inni barhau i weithio drwy heriau setliad cyllideb y DU a'n setliad cyllideb ein hunain yma yng Nghymru.
Prynhawn da, Weinidog. Gan ehangu ar yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelodau uchel eu parch yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, hoffwn ganolbwyntio ar gysylltu pobl ifanc â swyddi gwyrdd. Credaf fod pob un ohonom yn poeni am y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Felly, yng Nghanada, er enghraifft, mae'r Llywodraeth yn cefnogi interniaethau gwyddoniaeth a thechnoleg yn y diwydiannau gwyrdd i gynorthwyo pobl ifanc i gael y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd y dyfodol. Ac yn agosach at adref, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn Nhalgarth, mae Coleg y Mynyddoedd Duon wedi lansio NVQ galwedigaethol gyda'r nod o baratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi gwyrdd y dyfodol. Felly, tybed a gaf fi ofyn i chi pa syniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o'r mentrau swyddi hynny dramor a sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda cholegau, fel Coleg y Mynyddoedd Duon, i ehangu'r ddarpariaeth addysg a sgiliau i fynd i'r afael â heriau'r argyfwng hinsawdd ac i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc. Diolch.
Diolch am eich cwestiwn. Ac yn ddiddorol, mae gennym berthynas dda â Chanada, yr enghraifft a nodoch chi—yn rhyngwladol—ac rydym yn edrych yn rheolaidd i weld pa arferion effeithiol sy'n bodoli yn y DU, Ewrop a thu hwnt, wrth ddatblygu polisi a rhaglenni, ac yn benodol yn y maes hwn, lle mae her wirioneddol i ni, ond cyfle gwirioneddol hefyd, fel y mae'r Aelod wedi'i gydnabod. Ac mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â cholegau, gan gynnwys cynrychiolwyr o Goleg y Mynyddoedd Duon, i archwilio'r cyfleoedd hynny, a chredaf ein bod mewn sefyllfa dda yng Nghymru yn y ffordd rydym wedi gallu gweithio gyda'n gilydd. Y rhwystr mwyaf i ni rhag gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny yw sicrwydd ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru. Golyga hynny sicrwydd cyllidebol a'r sicrwydd polisi y gallwn ei roi, ac ymbellhau oddi wrth ddeialog ddiangen o gystadleuol a di-fudd â Llywodraeth y DU, a chael mwy o sicrwydd ynghylch yr hyn y mae'r ddwy Lywodraeth yn mynd i'w wneud mewn perthynas â'r setliad datganoli, a gwneud cynnydd gwirioneddol, gan fod cyfleoedd i'w cael i sicrhau budd gwirioneddol i fyfyrwyr a dinasyddion yma yng Nghymru.