Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch am eich cwestiwn. Mae cludo nwyddau ar reilffyrdd yn rhan hanfodol o system drafnidiaeth a chadwyn gyflenwi Cymru. Byddwn yn parhau i annog cludo mwy o nwyddau ar reilffyrdd ac yn cefnogi ymyriadau sy'n symud nwyddau oddi ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd, ynghyd ag arloesi yn y dyfodol i helpu i wneud y sector yn fwy cynaliadwy. Mae hwn yn faes sy'n cael ei arwain gan seilwaith trafnidiaeth ac mae hynny'n rhan o'r portffolio a arweinir gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.