Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Hyrwyddo'r agenda werdd yw un o'r tasgau mwyaf i bob Llywodraeth yn y ganrif hon. Dyna pam yr hoffwn gofnodi hanes trawiadol Cyngor Sir Fynwy, a oedd yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf i gefnogir datganiad ar newid hinsawdd. Ond wrth hyrwyddo'r agenda werdd, mae'n hanfodol nad yw'r economi werdd, a busnesau a phrosiectau lleol yn arbennig, yn cael eu hesgeuluso, Weinidog. Rydym wedi gweld, yn sir Fynwy, y buddion aruthrol y gellir eu hennill yn y maes hwn, yn arbennig mewn perthynas ag adeiladu ein fferm solar ein hunain ar dir y cyngor. Gan gadw hynny mewn cof, a allwch chi amlinellu’r camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo'r economi werdd yn sir Fynwy? Diolch.